Grŵp Cynghrair Garddwriaeth Cymru

Mae hybu ffermio garddwriaeth yn allweddol i gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddod allan o bandemig y coronafeirws ac fe'i nodir gan eu Tasglu Adferiad Gwyrdd fel ffordd o gyflymu'r broses o drosglwyddo Cymru i economi carbon isel ac i fod yn genedl iachach a mwy cyfartal.

Bydd Tyfu Cymru yn arwain Grŵp Cynghrair Garddwriaeth i helpu i ddiffinio gweledigaeth a strategaeth ar gyfer y sector garddwriaeth cyfan ledled Cymru. Bydd yn helpu i gydlynu a hyrwyddo cyfleoedd a bydd yn cydweithio i ddiffinio a goresgyn rhai o'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Bydd y gynghrair yn helpu i lunio a diffinio polisi a dogfennau strategaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer y diwydiant a Llywodraeth Cymru fel y Cynllun Garddwriaeth Fasnachol 2020 (tyfucymru.co.uk)

Bydd aelodau’r Grŵp yn cynnwys y rheini sy’n ymwneud â garddwriaeth yng Nghymru sy’n dymuno gweld y diwydiant yn tyfu a gweld ei broffil yn cael ei godi. Darllen mwy: Tyfu Cymru yn arwain Grŵp Cynghrair Garddwriaeth

 

Grŵp Cynghori a Thystiolaeth Iechyd Planhigion Cymru

Roedd 2020 yn Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion a chynhaliodd Tyfu Cymru Gynhadledd Iechyd Planhigion Cymru. Tynnodd y gynhadledd sylw at bwysigrwydd iechyd planhigion ar gyfer cynhyrchu planhigion o ansawdd uchel.
 
Mae angen i strategaethau Cymru ar gyfer iechyd planhigion fod ar flaen y gad yn yr un modd ag y mae wedi arwain ym maes datblygu cynaliadwy. Felly, yn dilyn y gynhadledd, penderfynwyd y byddai Grŵp yn cael ei ffurfio, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru ac APHA, i ddarparu llwyfan i gynrychioli buddiannau garddwriaeth.
 
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf ym mis Mehefin ac roedd yn trafod materion a oedd yn wynebu tyfwyr yn y sectorau addurnol a bwytadwy. Mae Tyfu Cymru yn darparu’r ysgrifenyddiaeth gyda Dr David Skydmore, Ymgynghorydd Iechyd Planhigion yn Gadeirydd. Mae’r Grŵp yn cynnwys aelodau o Lywodraeth Cymru, APHA, Cyfoeth Naturiol Cymru, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, ADAS, RHS, HTA, ConFor, Prifysgolion Aberystwyth a Bangor, a chynrychiolwyr sy’n dyfwyr. Roedd cyfraniadau pob un o’r rhain yn bwysig i’r drafodaethau.
 
Mae’r Grŵp yn edrych ymlaen at gasglu barn rhanddeiliaid Tyfu Cymru yn y diwydiant garddwriaeth, gan roi tystiolaeth a chyngor.

 

Grŵp y Diwydiant Addurnol

Drwy’r Grŵp Diwydiant hwn, mae Tyfu Cymru yn dod â busnesau addurnol allweddol at ei gilydd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru.

Mae’r grŵp caeedig hwn yn rhoi llwyfan ar gyfer cyfathrebu a chydweithredu rhwng busnesau, gan gynnig llais ar y cyd i’r diwydiant. At hynny, mae’r grŵp yn sefydlu rhwydwaith cefnogol i oresgyn heriau ac i fanteisio’n llawn ar gyfleoedd.

Mae’r Grŵp yn ceisio annog mwy o wydnwch o fewn y diwydiant drwy wella effeithlonrwydd, annog mwy o hyblygrwydd, a mynd i’r afael â’r agenda cynaliadwyedd. Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp ym mis Chwefror 2022.

 

Aelod o Fforwm Hinsawdd y Diwydiant Amaeth (AICCF)

Nod AICCF yw cefnogi’r diwydiant amaeth (h.y. tir mewn rheoli amaethyddol ac agweddau ehangach ar gadwyn gyflenwi cynhyrchu sylfaenol) i symud i allyriadau carbon sero net erbyn 2050 ac i gynorthwyo’r sector i addasu i newid hinsawdd.

Fel aelod, mae Tyfu Cymru yn cynrychioli’r sector garddwriaeth yng Nghymru yn y fforwm hwn, gan gydweithio â sefydliadau a rhanddeiliaid eraill i helpu i sicrhau bod y diwydiant yn cyrraedd targedau lleihau allyriadau’r Llywodraeth.