Hoffai Tyfu Cymru ddathlu amrywiaeth y diwydiant Garddwriaeth yng Nghymru drwy ddarparu'r map rhyngweithiol hwn..

Mae'n tynnu sylw at wahanol sectorau a lleoliadau'r busnesau yr ydym yn gweithio gyda nhw.  

Rydym yn ei lansio ym mis Gorffennaf 2021 mewn pryd i helpu i hyrwyddo lleoliadau pigo’ch ffrwythau eich hun ledled Cymru yn ystod misoedd yr haf.

 

Bydd mwy o gategorïau'n cael eu hychwanegu i adeiladu rhestr o'r sectorau canlynol:

  • Pigo eich Ffrwythau eich Hun
  • Gwinllannoedd
  • Canolfannau Garddio
  • Casglu’ch Pwmpenni eich Hun
  • Blodau

Cliciwch ar yr icon to expand map key eicon ar y map i ddatgelu allwedd o'r gwahanol gategorïau!

Os hoffech i'ch busnes gael eich ychwanegu at y map, cliciwch ar y ddolen hon i lenwi'r ffurflen gofrestru.

 

 

 

Cyn bwriadu ymweld ag unrhyw un o'r safleoedd sydd wedi'u cynnwys ar y map hwn, rydym yn argymell y dylech wneud pob ymholiad priodol am addasrwydd i'r diben ac addasrwydd i ddiwallu eich anghenion. Mae unrhyw un sy'n ceisio defnyddio neu gael mynediad i’r gwasanaethau hyn yn gwneud hynny ar eu risg eu hunain. Ni allwn fod yn gyfrifol, na derbyn unrhyw atebolrwydd am gwynion neu hawliadau o unrhyw natur sy'n deillio o wybodaeth a gymerwyd o wefan Tyfu Cymru.

Rydym yn cymryd gofal rhesymol i sicrhau cywirdeb y wybodaeth a ddarperir ar y Map Tyfwyr. Darperir y deunydd a roddir uchod er gwybodaeth yn unig ac nid yw'n gymeradwyaeth i'r gwasanaethau a ddisgrifir. Mae'r map yn cyfeirio at wefannau trydydd parti a ddarperir er hwylustod a gwybodaeth i chi yn unig ac nid ydynt yn arwydd o ardystiad Tyfu Cymru ac ni ellir gwarantu cywirdeb y cynnwys ar eu rhan. Nid oes gan Tyfu Cymru unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefan(nau) cysylltiedig nac am unrhyw golled/difrod neu anghyfleustra a allai ddeillio o'ch defnydd ohonynt. Nid ydym yn rheoli'r gwefannau trydydd parti hyn nac unrhyw ran o'r cynnwys sydd ar y gwefannau hynny. Unwaith y byddwch wedi gadael ein gwefan, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelwch a phreifatrwydd unrhyw ddata a ddarparwch.