Mae Tyfu Cymru yn darparu cymorth a hyfforddiant sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn meithrin gallu a chapasiti’r sector garddwriaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi i baratoi tyfwyr a chwmnïau garddwriaeth y cynhyrchwyr i addasu ar gyfer heriau economaidd ac amgylcheddol, ac i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad i ddatblygu a thyfu.

Mae Tyfu Cymru yn gallu cefnogi’r rhan fwyaf o fusnesau masnachol ar draws sector garddwriaeth Cymru; bwytadwy ac addurnol, mawr a bach, organig a heb fod yn organig, mentrau newydd a busnesau sydd wedi hen ennill eu plwyf.

Mae’r holl hyfforddiant a chymorth yn cael eu hariannu’n llwyr gan Tyfu Cymru

Cymhwysedd

I fod yn gymwys i gael cymorth, mae’n rhaid i chi fod yn fusnes garddwriaeth fasnachol cofrestredig (neu byddwch chi’n cofrestru cyn bo hir) ac wedi’ch lleoli yng Nghymru. Os ydych chi’n bodloni’r gofynion hyn, ar ôl i chi gwblhau Adolygiad Busnes gallwch gael gafael ar yr ystod lawn o gymorth gan y prosiect.