Mae hybu ffermio garddwriaeth yn allweddol i gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddod allan o bandemig y coronafeirws ac fe'i nodir gan eu Tasglu Adferiad Gwyrdd fel ffordd o gyflymu'r broses o drosglwyddo Cymru i economi carbon isel ac i fod yn genedl iachach a mwy cyfartal.

Bydd y Grŵp Cynghrair Garddwriaeth yn helpu i ddiffinio gweledigaeth a strategaeth ar gyfer y sector garddwriaeth cyfan ledled Cymru. Bydd yn helpu i gydlynu a hyrwyddo cyfleoedd a bydd yn cydweithio i ddiffinio a goresgyn rhai o'r heriau y mae'r sector yn eu hwynebu. Bydd y gynghrair yn helpu i lunio a diffinio polisi a dogfennau strategaeth ar gyfer y dyfodol ar gyfer y diwydiant a Llywodraeth Cymru fel y Cynllun Garddwriaeth Fasnachol 2020 (tyfucymru.co.uk)

Mae cynllun gweithredu Tyfu Cymru ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth Fasnachol yng Nghymru yn darparu map trywydd ac yn argymell camau gweithredu ar gyfer adeiladu yn unol ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru. Mae’n amlinellu dull cadwyn gyflenwi gyfan, aml-randdeiliad i ddatblygu a chynnal y gwaith masnachol o gynhyrchu cynnyrch garddwriaeth bwytadwy ac addurnol yng Nghymru yn y tymor hir.

Bydd aelodaeth y Grŵp yn cynnwys y rhai sy'n ymwneud â garddwriaeth yng Nghymru sydd â'r awydd i weld y diwydiant yn tyfu a gweld ei broffil yn cael ei godi. Bydd yn trafod gweledigaeth ar gyfer y sector a'r cyfleoedd a'r heriau y mae'r diwydiant yn eu hwynebu yng Nghymru. Bydd y grŵp yn codi ymwybyddiaeth o werth garddwriaeth o bob math a'i fanteision pellgyrhaeddol o ran iechyd yr amgylchedd a'r cyhoedd.

Bydd y Grŵp yn canolbwyntio ar faterion sy'n effeithio ar arddwriaeth yng Nghymru. Bydd y materion a archwilir yn cynnwys

  • Cyfleoedd
  • Heriau
  • Buddion iechyd a chymdeithasol

Mae'r Gynghrair yn cynnwys cynrychiolwyr o grwpiau rhanddeiliaid perthnasol o'r diwydiant, elusennau, asiantaethau a grwpiau rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb, a chynrychiolaeth Llywodraeth Cymru o'r Is-adran Fwyd ac Amaethyddiaeth a Thir Cynaliadwy. Mae'r Gynghrair wedi esblygu o'r grŵp CDG, a sefydlwyd gan Lantra ar ddechrau prosiect Tyfu Cymru (2018) i ddwyn ynghyd brosiectau garddwriaeth a ariannwyd gan y CDG (Cydweithredu a'r Gadwyn Gyflenwi) i annog cydweithio a sicrhau nad oedd gwaith yn cael ei ddyblygu. Fe wnaeth y grŵp hefyd ddarparu mecanwaith ar gyfer sgwrs ddwyffordd gyda llywodraeth Cymru a chyfle i roi adborth ar gynnydd ar gyfer pob un o'r prosiectau. 

Y sbardunau ar gyfer gwaith y Grŵp yw:

  • Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, cyrff diwydiant a chynrychiolwyr a rhanddeiliaid
  • Cynllun gweithredu yn darparu map trywydd ar gyfer y sector
  • Yr angen i ddatblygu Gweledigaeth gyffredinol
  • Dangos i Lywodraeth Cymru sut mae'r prosiectau a'r contractau a ariennir sy'n ymwneud â garddwriaeth yn cydweithio
  • Bod y nodweddion diwydiannol ac amgylcheddol a demograffeg yng Nghymru yn wahanol i wledydd eraill y DU.
  • Adolygiad o waith polisi blaenorol i edrych ar yr hyn oedd yn gweithio a'r hyn nad oedd yn gweithio.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan yn y Grŵp Cynghrair Garddwriaeth, cysylltwch â ni ar tyfucymru@lantra.co.uk