Cwestiynau Cyffredin

Mae Tyfu Cymru yn cynnig hyfforddiant amrywiol sydd wedi’i ariannu 100% i fusnesau garddwriaeth yng Nghymru, o gyngor technegol ar dyfu i gynllunio busnes a marchnata digidol.

Mae’n brosiect  ar draws Cymru gyfan i gefnogi busnesau garddwriaeth tyfwyr masnachol, gan gynnwys cynnyrch bwytadwy, cynnyrch nad ydynt yn fwytadwy, organig a blodau wedi’u torri.

Mae Tyfu Cymru yn cefnogi busnesau garddwriaeth o bob maint, rhai bach i rai mawr, organig, rhai nad ydynt yn organig neu’n tyfu gan ddilyn egwyddorion organig.

 

Fel prosiect rydym wedi diffinio busnes garddwriaeth fel un sydd wedi’i gofrestru fel unig fasnachwr, partneriaeth neu gwmni cyfyngedig, sy’n weithredol ac yn cynhyrchu trosiant (beth bynnag yw’r swm) a gallu darparu tystiolaeth o hyn.

 

Er nad oes meini prawf penodol ar gyfer trosiant neu ardal o dir, er mwyn bod yn gymwys, mae’n rhaid i fusnesau arddangos eu bod yn bwriadu ymgysylltu â’r prosiect a chael eu cynnwys wrth fesur llwyddiant a darparu gwybodaeth berthnasol i Tyfu Cymru drwy’r prosiect cyfan at ddibenion adrodd.
Nid ydych yn gymwys os:
Ydych yn fusnes dros y ffin yn Lloegr.  Ni allwch dderbyn cefnogaeth onid ydych wedi cofrestru fel busnes garddwriaeth a’ch bod yn tyfu yn weithredol yng Nghymru ar gyfer y busnes hwnnw.

Os ydych wedi’ch cofrestru yn Lloegr, mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am eich rhif daliad yng Nghymru fel prawf o weithgarwch busnes.
Ac os nad ydych yn tyfu yn uniongyrchol, gan gynnwys:
Manwerthwyr garddwriaeth – gan gynnwys cyfarpar, offer a pheirianwaith/eitemau ategol
Contractwyr garddwriaeth megis garddwyr hunangyflogedig
Gallech barhau i elwa ar y prosiect drwy gofrestru i dderbyn newyddion y diwydiant a gallech barhau i fod yn gymwys i fynychu digwyddiadau agored, i ganfod mwy....cofrestrwch i dderbyn ein e-fwletin yma.  Gallwch gael newyddion a diweddariadau am brosiectau hefyd drwy ein gwefan.

Ewch i’n gwefan a chwblhau’r Adolygiad Busnes, ac ar ôl ei gwblhau a chael eich cymeradwyo, rydych yn barod! Cofrestrwch i rwydweithiau a digwyddiadau ar ein gwefan.  Gallwch gofrestru ar gyfer cymaint o ddigwyddiadau a rhwydweithiau perthnasol i’ch busnes ag y dymunwch.  Os ydych yn credu bod gennych anghenion hyfforddiant unigryw neu os na allwch ddod o hyd i hyfforddiant penodol, gallwch drafod hyn gydag aelod o’r tîm ar 01982 552646

Rydym yn cynnig hyfforddiant a fydd yn datblygu eich busnes drwy hyfforddiant technegol un i un i gymorth busnes – drwy weithdai, digwyddiadau, Hwb Gwybodaeth ar-lein

Mae’n rhaid eich bod yn tyfu’n fasnachol ar gyfer y meini prawf cymhwyster dan sylw.  Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â chymhwysedd, mae croeso i chi gysylltu â ni ar TyfuCymru@lantra.co.uk

Mae gwybodaeth bellach ar gael ar ein tudalen Facebook TyfuCymru, Twitter @Tyfucymru neu gallwch gofrestru i dderbyn ein diweddariadau neu i gysylltu â’r tîm tyfucymru@lantra.co.uk.  Gallwch gofrestru ar gyfer diweddariadau hefyd YMA

Mae yna brosiectau eraill a allai eich cynorthwyo, er enghraifft Prosiect Helix, Busnes Cymru, Cyflymu Cymru i Fusnesau, Cywain a cyswllt ffermio

Mae Tyfu Cymru yn cael ei ariannu drwy gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru