Tyfu Cymru

Ers lansio'r prosiect yn 2017, mae Tyfu Cymru wedi darparu cymorth a hyfforddiant sy’n benodol i’r diwydiant er mwyn meithrin gallu a chapasiti’r sector garddwriaeth yng Nghymru. Mae'r prosiect yn gweithio gyda phartneriaid yn y gadwyn gyflenwi i baratoi tyfwyr a chwmnïau garddwriaeth y cynhyrchwyr i addasu ar gyfer heriau economaidd ac amgylcheddol, ac i helpu busnesau i fanteisio ar gyfleoedd yn y farchnad i ddatblygu a thyfu. Hyd yma, mae Tyfu Cymru wedi datblygu cronfa ddata o dros 430 o fusnesau garddwriaeth yng Nghymru, wedi darparu dros 1000 o ddiwrnodau hyfforddi, ac wedi ymgysylltu â dros 1000 o weithwyr garddwriaeth proffesiynol ledled Cymru a thu hwnt.

Mae Tyfu Cymru yn cael ei ddarparu drwy Lantra Cymru, sy’n cefnogi unigolion a chwmnïau yn y sector tir ac amgylcheddol i sicrhau twf personol a busnes. Mae Tyfu Cymru wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2023.

Lantra UK yw un o’r prif gyrff dyfarnu ar gyfer diwydiannau’r tir yn y DU ac yng Ngweriniaeth Iwerddon. Mae Lantra yn datblygu cyrsiau hyfforddi o safon a chymwysterau sy’n cael eu cydnabod yn genedlaethol ac sy’n cael eu darparu drwy rwydwaith cenedlaethol o Bartneriaid Darparu hyfforddiant.