Mae'r gyfres wedi'i chynllunio i dynnu sylw at gyfleoedd ac i roi cymorth i fusnesau sy'n dymuno arallgyfeirio i arddwriaeth. Gall arallgyfeirio wneud eich busnes yn fwy gwydn drwy helpu i ledaenu risg busnes, darparu incwm amgen a chreu cyflogaeth yng nghefn gwlad.

Dydd Mercher 26 Ionawr: Rheolaeth ymarferol mewn garddwriaeth yn uniongyrchol gan dyfwyr

Mae llawer o gyfleoedd Garddwriaeth sy'n opsiynau realistig ar gyfer cynhyrchu refeniw ychwanegol a bydd y sesiwn hon yn archwilio rhai ohonynt. Gyda diogelwch bwyd a chadwyni cyflenwi lleol yn dod yn fwyfwy pwysig i ddefnyddwyr, mae'r galw am ffrwythau, llysiau a phlanhigion o ansawdd a dyfir yng Nghymru yn rhagori ar y cyflenwad ar hyn o bryd.

Bydd ffermwyr presennol sydd eisoes wedi manteisio ar y cyfleoedd hyn yn rhannu eu profiadau ac yn rhoi cyngor ymarferol.

Rachel a Rob Saunders – Vale PYO

Llew Williams – Bontnewydd Farm Foods

Arweinir y sesiwn gan Chris Creed ADAS. Mae wedi gweithio'n uniongyrchol gyda'r ffermwyr hyn ar eu taith i'w mentrau garddwriaethol a bydd yn darparu gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr i'r diwydiant.

Dydd Iau 24 Chwefror: Allwedd i lwyddiant – Marchnata a Gwerthu eich busnes

Clywch yn uniongyrchol gan Chris Harry Thomas o Paviland Farm a Ric Kenwood o Claire Austin Hardy Plants am sut maen nhw wedi sefydlu gwahanol lwybrau i’r farchnad i werthu eu cynnyrch.

Bydd Chris yn siarad am ei fusnes a sut mae wedi sefydlu gwahanol lwybrau i'r farchnad a'r ystyriaethau y mae wedi'u gwneud gyda'i brosiect arallgyfeirio.

Yn ymuno â Chris fydd Ric Kenwood o Claire Austin Hardy Plants, sydd â chyfoeth o wybodaeth am farchnata. Bydd hefyd yn siarad am sut mae'n defnyddio marchnata digidol i hybu gwerthiant yn ystod misoedd sydd fel arfer yn dawelach. 

P'un a yw'n treialu syniad newydd neu'n gwneud newid parhaol i'r busnes, mae arallgyfeirio yn gyfle i fanteisio ar farchnadoedd lleol a chenedlaethol newydd neu bresennol, wrth ddatblygu ffrwd incwm ychwanegol i gefnogi'r model busnes presennol. Datblygu ymgyrch farchnata gref yw'r allwedd i lwyddiant.

Dydd Llun 21 Mawrth:  – Gwneud i'ch busnes sefyll allan o'r dorf

Gyda 44 mlynedd o brofiad yn y diwydiant garddwriaethol, mae'r ymgynghorydd busnes blaenllaw Neville Stein yn sicr yn gwybod sut i wneud i fusnes sefyll allan o'r dorf. Yn y weminar addysgiadol a diddorol hon, bydd Neville yn archwilio sut y gallwch wahaniaethu eich cynnig o gynnyrch, gwasanaeth a phris a bydd yn cyflwyno ei syniadau gydag enghreifftiau ymarferol ac yn darparu awgrymiadau cost isel y gellir eu gweithredu ar unwaith.  

Cynhelir sesiynau pellach yn ddiweddarach yn y Gwanwyn. Mae'r rhaglen hyfforddi hon wedi'i chynllunio i roi cymorth i fusnesau sy'n dymuno manteisio ar y Cyfleoedd Garddwriaethol eraill hyn. Cefnogir hyn drwy ein Rhwydweithiau a chyngor 1:1 gan arbenigwyr yn y diwydiant. Er mwyn trafod ymuno â rhwydwaith neu    e-bostiwch tyfucymru@lantra.co.uk

Mae hwn yn barhad o’n Rhaglen Arallgyfeirio i Garddwriaeth a gynhaliwyd yn 2021, dyma’r dolenni i weminarau’r gorffennol

 

Webinar - Diversifying into Horticulture: Diversification business models and routes to market

The Diversifying into Horticulture Programme is designed to give non-horticulture based farmers the essential support needed…

24/02/2021 13:49:57

Webinar: Keep it Welsh! Maximising your business potential for growth

The Diversifying into Horticulture Programme is designed to offer support to Welsh farmers, landowners, growers and others wh…

08/04/2021 11:18:31

Webinar: Diversifying into Horticulture: Navigating the Planning Process

In this session, Lucie Taylor, a chartered town planner of 20 years and working for Social Farms and Gardens for the last 7 s…

16/03/2021 15:57:42