Mae Cynllun Busnes yn ddogfen hanfodol. Mae'n darparu cwmpas ysgrifenedig, glasbrint a chynllun gweithredu i'ch busnes eu dilyn. Felly, mae Cynllun Busnes yn ddogfen organig y dylid ei diweddaru wrth i'ch busnes dyfu ac wrth i'ch amcanion a'ch gweledigaeth ar gyfer y dyfodol newid. 

At hynny, mae Cynllun Busnes yn aml yn ofyniad i gael mynediad at gyllid a grantiau.

A oes angen cymorth arnoch i gynhyrchu neu ddiweddaru eich Cynllun Busnes? Mae ffenestr sgiliau Cyswllt Ffermio ym mis Gorffennaf ar agor tan 29 Gorffennaf 2022 gyda'r holl gyrsiau hyfforddi yn cael cymhorthdal o hyd at 80% ar gyfer unigolion cofrestredig*

Cwrs hyfforddi Cynllun Busnes Cyswllt Ffermio. Bydd y cwrs hwn yn edrych ar weithgareddau sy'n gysylltiedig â rhedeg eich busnes, megis rheoli, monitro, cynllunio a threfnu. Byddwch yn ystyried eich busnes eich hun a'r materion sy'n gysylltiedig â datblygu cynllun busnes. Mae hwn yn gwrs rhyngweithiol a fydd yn rhoi amser i chi ystyried dyfodol eich busnes a'ch cefnogi i gwblhau cynllun busnes templed.

Ewch i Tyfu Cymru a Chyswllt Ffermio yn adeilad Lantra Cymru yn ystod Sioe Frenhinol Cymru i gael gwybod beth yw'r ffordd orau o fanteisio ar y cymorth sydd ar gael i'ch menter arddwriaethol.

Bydd gan Tyfu Cymru gynghorwyr wrth law, gan gynnig cyfle i chi geisio cyngor arbenigol i roi'r cyfle gorau i'ch cynllun busnes lwyddo – dysgwch fwy am y cynghorwyr sydd ar gael yma.

Sylwch na allwch wneud cais am gyllid sgiliau heb gwblhau Cynllun Datblygu Personol (PDP) – bydd cymorth hefyd ar gael yn rhwydd yn y Sioe Frenhinol i gwblhau eich PDP ac egluro'r broses ymgeisio.

Heb gofrestru gyda Cyswllt Ffermio eto? Darllenwch y canllaw cofrestru hwn.

Angen unrhyw gymorth arall? Gweler ystod lawn Cyswllt Ffermio o gyrsiau hyfforddi neu cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu lleol.