Canllaw i dyfwyr ar gofrestru gyda Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cymorth wedi'i deilwra a hyfforddiant arbenigol

  • Gellir gweld Meini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Cyswllt Ffermio yma!
  • I gofrestru gyda Cyswllt Ffermio, cwblhewch y ffurflen gofrestru.
  • Y prif ofyniad ar gyfer cofrestru yw Rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN).

(Mae'n bosibl cofrestru heb CPH neu Rif Daliadau Coedwigaeth)

I gael rhif Cyfeirnod Cwsmer (CRN) mae angen ichi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru. Cyfeiriwch at wefan Llywodraeth Cymru ar gyfer y canllawiau sut i gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Os oes angen cymorth arnoch gyda'r uchod, gall y Gwasanaeth Cysylltwr Fferm eich helpu. Cyfeiriwch at y dudalen we Cysylltwch â'r Gwasanaeth Cysylltwr Fferm i ddod o hyd i fanylion eich Swyddog Cyswllt Fferm lleol.

Opsiynau CategoriSystemau ffermio/ garddwriaeth arbenigol o dan 3ha

  • Os yw arwynebedd eich tir yn llai na 3ha, caiff ei ddosbarthu fel system ffermio/garddwriaeth arbenigol fodloni'r gofniad >550 o oriau llafur safonol y flwyddyn.

Newydd-ddyfodiaid - Ffermwyr/garddwriae thwyr newydd, gyda'r hyfforddiant a'r profiad i sefydlu busnes fferm/garddwriaeth newydd.

  • Unigolion sydd eisoes yn byw yng Nghymru sy'n bwriadu sefydlu busnes newydd. Rhiad bod gan unigolion gymhwyster coleg/addysg bellach parthnasol a /neu fod wedi cael o leiaf 2 flynedd o brofiad gwaith yn y sector. (Gweler meini prawf cymhwyster am fanylion pellach).

 

Unwaith y bydd eich cais yn llwyddiannus a'ch bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Cyswllt Ffermio lleol, a all eich helpu i gofrestru ar gyfer y clinigau/gweithdai perthnasol a threfnu Cymorth Cynghori.