Lantra.jpg

This event has passed

Mae Tîm Tyfu Cymru yn edrych ymlaen at eich croesawu i gyd ar stondin Tyfu Cymru ar gyfer Sioe Frenhinol Cymru eleni! Beth am alw draw alw draw i’n gweld? Mae adeilad Lantra wedi'i leoli yn Rhodfa K, rhwng y Prif Gylch a'r Cylch Gwartheg. Ewch i: RWAS Map  

Rydym yn falch iawn o allu cynnig cymorthfeydd a  chyngor anffurfiol gyda nifer o’n harbenigwyr a’n cynghorwyr yn ystod y sioe. Bydd cyfle i alw draw i’w cyfarfod (manylion isod).

Bydd darpariaeth Gyfrifiadurol ar gael hefyd.

Dydd Llun, 18 Gorffennaf 2022

  • Chris Creed, ADAS - Agronomeg, IPDM, PYO a gwerthu o’r fferm - Gallwch archebu lle yma
  • Iain Cox, Ecostudio – Cynaliadwyedd, Carbon isel a Mentora
  • Dr William Stiles, Vertikit - Ffermio Fertigol (FfF) ac Amaethyddiaeth mewn Amgylchedd a Reolir (AAR)

Dydd Mawrth, 19 Gorffennaf 2022

  • Chris Creed, ADAS - Agronomeg, IPDM, PYO a gwerthu ar y fferm - Gallwch archebu lle yma
  • Tony Little, LWA – Newid i Organig - Gallwch archebu lle yma

Dydd Mercher, 20 Gorffennaf 2022

  • Holly Tomlinson, LWA – Golwg ymarferol a’r gofynion cyfreithiol yn ymwneud â dechrau busnes newydd yn y diwydiant tyfu cnydau

Ddydd Mercher, fe gewch hefyd y cyfle i siarad â rhai o’n tyfwyr profiadol:

  • Lizzie Walshaw, Petallica Flower Farm 
  • Josh Pike, Summit Good

Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu eich lle ymlaen llaw. Fydd archebu lle ddim yn cynnwys mynediad i’r sioe. Mae tocynnau ar gyfer y Sioe ar gael i’w prynu ar-lein. Bydd angen prynu pob tocyn cyn y digwyddiad ac ni fyddan nhw ar gael wrth y giât. Dilynwch y ddolen i : Prynu Tocynnau  

Am fwy o wybodaeth am Sioe Frenhinol Cymru ewch i:  Gwefan CAFC