Yn ddiweddar mae ymgyrchwyr wedi awgrymu targed y dylai tri chwarter y llysiau yr argymhellir i boblogaeth Cymru eu bwyta bob dydd gael eu tyfu yng Nghymru erbyn 20301. Dywedodd Cynghrair Polisi Bwyd Cymru y gellid cyflawni hyn mewn ffordd gynaliadwy gyda mwy o gefnogaeth i ffermydd a gerddi garddwriaeth bach.

Awgrymodd astudiaeth ddiweddar fod llai na 0.1% o dir Cymru yn cael ei ddefnyddio i dyfu llysiau ar hyn o bryd. Pe bai’r hyn sy’n cael ei gynhyrchu yn y wlad ar hyn o bryd yn gorfod cael ei rannu â phawb yng Nghymru, byddai ond yn cyfateb i chwarter y dogn o lysiau sydd ei angen ar bob unigolyn bob dydd.

Ond nid yw mor hawdd â dim ond hau mwy o hadau. Nid yw holl dir Cymru yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer cnydau âr, ond mae digon o le i dyfu o hyd. Yn ôl Sarah Gould, Rheolwr Prosiect yn Tyfu Cymru, nid yw chwaith yn fater o dyfu ar unrhyw gost:

“Mae mynediad at adnoddau naturiol a chyfyngedig fel tir, ynni a dŵr yn hanfodol ar gyfer tyfu cynnyrch. Mae angen rheoli’r adnoddau naturiol hyn yn ofalus er mwyn agor cyfleoedd i ehangu garddwriaeth yng Nghymru”

Mae tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau adferiad gwyrdd yn dilyn pandemig y coronafeirws hefyd wedi argymell rhoi hwb i arddwriaeth. Ategir hyn yn y  Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth Fasnachol yng Nghymru2, sy’n darparu map a chamau gweithredu yn unol ag amcanion strategol Llywodraeth Cymru.

Dan arweiniad Tyfu Cymru, prosiect sy’n cael ei reoli gan Lantra, a chyda chyllid gan gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru, mae Cynllun Gweithredu Cymru yn amlinellu dull ar gyfer yr holl gadwyn gyflenwi gyda nifer o randdeiliaid i ddatblygu a chynnal cynnyrch garddwriaeth fwytadwy ac addurnol yn fasnachol yng Nghymru yn y tymor hir.

Mae Tyfu Cymru yn credu bod ffermwyr yn adnodd cryf o ran cynyddu’r gwaith o gynhyrchu bwyd yng Nghymru a chryfhau’r diwydiant.

Gall garddwriaeth fod yn sector anodd gyda chynhyrchu’n aml yn draul ar amser ac adnoddau, yn enwedig yn y cyfnod sefydlu. Fodd bynnag, os oes gan ffermwyr eisoes fynediad i dir, a dealltwriaeth dda o’r diwydiant bwyd a ffermio, mae ganddyn nhw fantais gref wrth ddechrau arni. Mae arallgyfeirio i fyd garddwriaeth yn gyfle i fanteisio ar farchnadoedd lleol a chenedlaethol newydd neu bresennol ac mae datblygu ffrwd incwm newydd i gefnogi’r model busnes presennol yn gallu lleihau risg a rhoi sicrwydd i fusnes fferm. Mae arallgyfeirio hefyd yn creu cyfle i ddefnyddio tir nad oedd yn cael ei ddefnyddio o’r blaen, cynhyrchu mwy o fwyd yn lleol a chryfhau’r economi leol.

Felly, mae Tyfu Cymru yn falch o lansio'r Rhaglen Arallgyfeirio i Arddwriaeth, sydd wedi’i chynllunio i roi’r dechrau gorau i ffermwyr ym maes garddwriaeth. Drwy ddarparu hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi’u teilwra’n arbennig, mae’n canolbwyntio ar feysydd pwysig fel arallgyfeirio ac opsiynau marchnad, caniatâd cynllunio a seilwaith, marchnata a datblygu cynnyrch, llogi a phrydlesu a chontractau.

Mae cyfres o raglenni newydd wedi cael eu lansio hefyd i gefnogi tyfwyr presennol ymhellach. Ar gyfer tyfwyr sy’n dymuno apelio at sylfaen cwsmeriaid a marchnad adwerthu ehangach neu wahanol, mae Cyfres Hyfforddiant Gwarant Fferm yn gasgliad o weminarau, hyfforddiant a chefnogaeth sydd wedi’u hanelu at dyfwyr sy’n ystyried gwneud cais am safonau neu gynlluniau amaethyddol, gan gynnwys Red Tractor, Cymdeithas y Pridd, M&S Select Farms a LEAF.

Er bod cyflenwi i fanwerthwyr mawr a phroseswyr bwyd yn gyffredin, mae llawer o gyfanwerthwyr llai a siopau arbenigol bellach yn gofyn i dyfwyr gael eu hardystio i safon amaethyddol gydnabyddedig fel ffordd o ddangos eu hymrwymiad i ddiogelwch bwyd, yr amgylchedd neu statws organig. Gellir ystyried bod ardystiad i safon amaethyddol gydnabyddedig yn agor y drws i ddarpar gwsmeriaid.

Yn ogystal â hynny, mae Hyfforddiant Cynhyrchu Hadau 12-mis Tyfu Cymru wedi’i gynllunio i roi’r adnoddau i dyfwyr dyfu cnydau hadau llysiau peilliad agored. Bydd yn cynnig trosolwg o gyd-destun gwleidyddol, moesegol ac economaidd cynhyrchu hadau yng Nghymru. Bydd yn trafod pynciau a fydd yn cynnwys botaneg planhigion, amaethu hadau, sofraniaeth hadau a chyfiawnder hadau.

Mae cynhyrchu cnwd hadau peilliad agored ar y fferm yn gallu gwella ansawdd y cnydau, yn ogystal â chynyddu addasiad planhigion i amodau lleol, a chynnig mynediad at amrywiaethau newydd a sgiliau newydd. Mae cynhyrchu hadau yn gallu dod ag incwm ychwanegol i’r fferm drwy dyfu i gontract neu werthu’n uniongyrchol yn y dyfodol.

Er nad yw Tyfu Cymru yn gallu cynnig grantiau cyfalaf na chyllid uniongyrchol, maen nhw’n gallu cynnig cymorth sy’n cael ei ariannu 100% ar gyfer hyfforddi a datblygu ar gyfer y Diwydiant Garddwriaeth. Mae cyngor technegol ar gael i ddeall sut i wella cynnyrch cnydau, canllawiau ar dechnegau tyfu newydd neu hyfforddiant ar wella sianeli marchnata digidol.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglenni Hyfforddi newydd drwy Tyfu Cymru, ewch i: https://www.tyfucymru.co.uk/cartref/beth-syn-newydd/rhaglenni-hyfforddiant/rhaglen-hyfforddiant-hadau-planhigion-canolradd/

  1. https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-55650274
  2. https://www.tyfucymru.co.uk/cartref/hwb-gwybodaeth/mewnwelediadau-diwydiant/cynllun-garddwriaeth-fasnachol-2020/