Mae cynhyrchu cnwd hadau peilliad agored ar eich fferm yn gallu gwella ansawdd eich cnydau, cynyddu addasiad planhigion i amodau lleol, cynnig mynediad at amrywiaethau newydd a sgiliau newydd. Mae cynhyrchu hadau yn gallu dod ag incwm ychwanegol i’ch fferm drwy dyfu i gontract neu werthu’n uniongyrchol yn y dyfodol.

Mae ein hyfforddiant cynhyrchu hadau 12 mis wedi’i ddylunio i roi’r adnoddau i chi dyfu cnydau hadau llysiau peilliad agored a hynny’n alluog. Bydd yn cynnig trosolwg o gyd-destun gwleidyddol, moesegol ac economaidd cynhyrchu hadau yng Nghymru. Byddwn ni’n trafod pynciau a fydd yn cynnwys botaneg planhigion, amaethu hadau, sofraniaeth hadau a chyfiawnder hadau.

Mae’r cwrs yn cael ei ddarparu fel partneriaeth rhwng Tyfu Cymru a Rhaglen Sofraniaeth Hadau’r DU. Byddwn ni’n croesawu athrawon allanol i arwain ar bynciau penodol, ynghyd â gweithio’n agos gyda hyfforddwyr arbenigol o’r Llyfrgell Hadau Treftadaeth.

Bydd y cwrs yn cael ei ddarparu drwy weithdai ar-lein, gyda chyfle i ymweld â fferm yn yr Haf (os bydd cyfyngiadau COVID-19 yn caniatáu). Bydd gofyn i chi gynhyrchu cnwd hadau wrth gymryd rhan yn yr hyfforddiant fel eich bod chi’n cael ychydig o brofiad ymarferol.

Mae’r cwrs wedi’i ddylunio i gael ei gymryd fel rhaglen 12 mis; dydyn ni ddim yn argymell cymryd rhan mewn sesiynau unigol. Gellir darparu mentora un i un i’r rheini sydd ei angen rhwng y sesiynau sydd wedi’u trefnu.

I gofrestru ar gyfer y rhaglen, cliciwch yma. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk

Rhaglen

Bydd trosolwg llawn yn cael ei ddarparu cyn dechrau’r rhaglen, ond gweler yr wybodaeth isod yn amlinellu’r 6 sesiwn gweminar cyntaf.

Sesiwn 1: Sofraniaeth Hadau

Dydd Mawrth 26 Ionawr 2021, 4pm

Bydd y sesiwn gyntaf hon yn edrych ar gefndir y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a’r bartneriaeth gyda Tyfu Cymru. Bydd yn edrych ar gyfleoedd fel addasu ffermydd, cyfnewid hadau, gwerthu hada, bridio planhigion cyfranogol ac amrywiad genynnol.

Trosolwg:

  • Hanes Hadau
  • Tirlun Hadau Gwleidyddol
  • Arferion tyfu agroecolegol

Sesiwn 2: Atgenhedliad Planhigion

Dydd Mawrth 23 Chwefror 2021, 4pm

Trosolwg:

  • Botaneg planhigion sylfaenol
  • Peillio: pryfaid, gwynt, hunan
  • Strategaethau ynysu sylfaenol
  • Meintiau poblogaethau: mewnfridio ac allfridio

Sesiwn 3: Cynllunio Cnydau

Dydd Mawrth 30 Medi 2021 – Amseroedd i’w cadarnhau

Trosolwg:

  • Blynyddol: trosolwg o ystyriaethau
  • Dwyflynyddol: trosolwg o ystyriaethau
  • Cylchdro
  • Gofynion gofod
  • Strwythurau cefnogi

Sesiwn 4: Amaethu

Dydd Mawrth 27 Ebrill 2021 – Amseroedd i’w cadarnhau

Trosolwg:

  • Cnydau hadau iach
  • Ansawdd
  • Plâu ac afiechydon hadau
  • Profi hadau
  • Cadw cofnodion
  • Storio

Sesiwn 5: Dethol

Dydd Mawrth 25 Medi 2021 – Amseroedd i’w cadarnhau

Trosolwg:

  • Cnydau hadau iach
  • Ansawdd
  • Plâu ac afiechydon hadau
  • Profi hadau
  • Cadw cofnodion
  • Storio

Sesiwn 6: Busnesau Hadau

Dydd Mawrth 29 Mehefin 2021 – Amseroedd i’w gadarnhau

Trosolwg:

  • Edrych ar wahanol fodelau busnesau hadau
  • Cyfle i glywed gan fusnes hadau bach a’u hymarferion.

Sesiwn 7: Dewis Planhigion 2