Er mwyn apelio at farchnad fanwerthu neu sylfaen cwsmeriaid amgen neu ehangach, fel tyfwr efallai y bydd yn rhaid i chi fodloni gofynion arbennig. Er ei bod hi’n gyffredin i dyfwyr gael ardystiad ar gyfer safon amgylcheddol gydnabyddedig er mwyn cyflenwi prosesyddion bwyd a siopau mawr, mae nifer o siopau arbenigol a chyfanwerthwyr llai bellach yn ei gwneud hi’n ofynnol i dyfwyr gael ardystiad o’r fath er mwyn dangos eu hymrwymiad i ddiogelwch bwyd, yr amgylchedd neu statws organig. Mae modd ystyried ardystiad ar gyfer safon amaethyddol gydnabyddedig fel ffordd o gael eich troed i mewn i ddrws darpar gwsmeriaid.
Casgliad o weminarau, hyfforddiant a chymorth yw’r Gyfres Hyfforddiant Gwarant Fferm. Mae’r gyfres wedi’i hanelu at dyfwyr sy’n ystyried gwneud cais am safonau neu gynlluniau amaethyddol. Cyflwynwyd yr hyfforddiant gan arbenigwr yn y diwydiant, Malcom Laidlaw o ML3 Technical.
Yn ychwanegol at y gweminarau a’r cymorthfeydd rhithwir, bydd modd i Malcom gynorthwyo nifer fechan o dyfwyr trwy broses ymgeisio’r Tractor Coch. Os ydych chi’n ystyried gwneud cais am ardystiad y Tractor Coch, ac os hoffech chi wneud yn fawr o’r cymorth hwn, cysylltwch â ni ar tyfucymru@lantra.co.uk i gofrestru eich diddordeb.
Gweminarau
Cyflwyniad i Safonau a Chynlluniau Amaethyddol ar gyfer Cynhyrchu Garddwriaeth Masnachol
Bydd y weminar ragarweiniol hon yn cynnig trosolwg o beth yw safon amgylcheddol a beth yw’r prif safonau sydd i’w cael yn y DU (y Tractor Coch, M&S Select Farm, LEAF, Cymdeithas y Pridd ac ati), a bydd yn sôn am GlobalG.A.P ar gyfer y rhai sy’n dymuno allforio. Bydd yn rhoi cipolwg i dyfwyr ar y gwahanol ofynion ynghyd â’r manteision a’r anfanteision sy’n perthyn i bob cynllun, a bydd yn cynnig cyfle i chi ofyn cwestiynau i arbenigwr yn y diwydiant.
Cliciwch yma i weld y gweminar yma
HACCP ar gyfer Ffermwyr a Thyfwyr
Mae Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol (HACCP) yn derm cyffredin iawn yn y diwydiant bwyd. Mae’n ymwneud â rheoli hylendid bwyd a gweithdrefnau diogelwch yn eich busnes bwyd.
Bydd y weminar hon yn sôn am y canlynol:
Cliciwch yma i weld y gweminar yma
Microbioleg ar gyfer Ffermwyr
Nid ffermio a ddaw i’r meddwl yn gyntaf wrth sôn am facteria, ond mae bacteria i’w cael ym mhobman – mewn pridd, mewn dŵr, yn yr aer, mewn anifeiliaid ac ar ein croen.
Bydd y weminar hon yn trafod pam ddylai ffermwyr ddeall y pethau elfennol am ficrobioleg. Bydd yn ymdrin â’r canlynol:
Cliciwch yma i weld y Daflen Ffeithiau
Y Gallu i Olrhain ar gyfer Ffermwyr a Thyfwyr
Y dyddiau yma, mae gwybodaeth ar flaenau ein bysedd, ac mae mwy a mwy o ddefnyddwyr yn mynnu cael y gallu i olrhain pethau at gaeau neu anifeiliaid.
Bydd y weminar hon yn trafod pam mae’r gallu i olrhain yn ofynnol yn ôl y gyfraith, a hefyd pam mae’n ofynnol o safbwynt busnes a chysylltiadau â chwsmeriaid. Bydd y sesiwn hon yn archwilio gwahanol senarios, yn cynnwys yr hyn y disgwylir iddo gael ei gofnodi a sut fath o dystiolaeth y gallech orfod ei chyflwyno, naill ai ar gyfer olrhain neu o ran diwydrwydd dyladwy.
Cliciwch yma i weld y Daflen Ffeithiau