Download the Toolkit: Pumpkin Power Hour - July_cy-GB.docx

Cnydau Pwmpen hyd yma 

Mae pwmpenni Cymru wedi bod yn amrywiol hyd yn hyn eleni - mae llawer o blanhigion eto i’w gosod ffrwythau ond mewn rhai safleoedd maen nhw wedi cyrraedd maint pêl-droed. Mae tyfwyr wedi gweld cryn amrywiaeth yn ystod y cyfnod sefydlu a thyfiant cynnar, hyd yn oed o fewn rhesi o'r un cyltifar. Y ffenestr darged ar gyfer drilio a phlannu yw rhwng 14-20 Mai er bod llawer o dyfwyr wedi methu hwn oherwydd tir sych. Mae pwmpenni yn tueddu i osod ger y planhigyn gwreiddiol, ond mae tyfwyr wedi rhoi cynnig ar ddulliau gwahanol o hyfforddi stolonau pwmpen i'w cadw i ffwrdd o chwyn cymaint â phosibl er mwyn lleihau difrod. Gall hyfforddi pwmpenni i ganol y rhes helpu, yn ogystal â phlannu rhesi’n gyfochrog â'r prifwynt. Gall hyn fod yn eithaf effeithiol, ac nid oes angen fawr o ymyrraeth ar y pwmpenni i'w cadw yn y rhesi. 

Peillio 

Mae gan bwmpenni flodau gwrywaidd a benywaidd (dde a chwith yn y drefn honno), ac mae angen y ddau er mwyn gosod ffrwythau. Mae cacwn a phryfed yn gweithredu fel peillwyr ac, mewn amodau da, bydd un diwrnod o weithgaredd gan y pryfed hyn yn gweld cnwd yn setio. Er bod angen cychod gwenyn atodol ar gnydau eraill, mae pwmpenni fel arfer yn dangos set dda gyda gwenyn gwyllt a pheillwyr eraill. Gall tywydd garw, neu dywydd sych poeth iawn, leihau gweithgarwch gwenyn, a gall hyn effeithio'n andwyol ar set ffrwythau. Mae rhai astudiaethau wedi dangos y gall darparu cychod gwenyn atodol helpu i sicrhau lefelau uchel o beillio, a gall gynyddu pwysau ffrwythau cyfartalog drwy gynyddu nifer yr hadau. Yn ogystal gall cychod gwenyn ddarparu mêl lleol i'w werthu i gwsmeriaid. 

Rheoli Clefydau 

Mae llwydni powdrog bellach yn dechrau ymddangos ar gnydau pwmpen. Gall hyn fod yn broblem pan fo ffrwythau'n dal yn fach ac mae hyn yn dod yn rhywbeth y mae angen i dyfwyr ei reoli. Pan fydd ffrwythau'n llawn maint, gallwch adael i ddail sydd wedi'u heintio â llwydi powdrog farw, gan adael y pwmpenni yn eu lle ar gyfer y cynhaeaf. Bydd y canopi deiliant llai yn gadael i'r pwmpenni gael ychydig o haul a datblygu lliw da. Mae Perseus (EAMU 4197/19) neu Signum (EAMU 2651/15) yn dda ar gyfer rheoli'r clefyd hwn a bydd yn parhau am tua 2-3 wythnos. Gall y ffwngleiddiaid sbectrwm eang hyn drin pydredd eraill sy’n dod i mewn mewn drwy'r blodau hefyd, e.e. botrytis. Dylai planhigion sy'n cael eu trin adfer yn iawn a pharhau i dyfu. Fel arall, gall potasiwm bicarbonad fod yn ddull defnyddiol a chyflym o daro heintiau difrifol yr ydych am eu hatal rhag lledaenu – gallwch ddefnyddio Karma o dan EAMU 2503/19. Pan fydd y tywydd yn gynnes, rydym yn argymell ei ddefnyddio yn y nos a bydd angen gwlychu’r planhigion hefyd.  Gweler y Daflen Ffeithiau Rheoli Clefyd Pwmpen gan Tyfu Cymru am restr lawn o gynhyrchion a chyfraddau. 

 



Related Pages


Online Booking Systems for Pick Your Own

As well as making sure you can maintain social distancing a booking system will offer a number of additional benefits to make sure your customers are satisfied and that you get the best returns on your produce.

26/05/2021 16:52:42

Webinar: Social Media Best Practise & Email Marketing - PYO Networks

In this one hour workshop, attendees will learn the ropes of Social Media best practise and how to use Facebook and Instagram to best reach customers and drive sales. The session will also include live reviews of attendees Social Media platforms and…

16/03/2021 16:37:40

Webinar: Integrating Farm Tourism into your Horticulture Business

Have you considered a farm shop, a pop up café, a seasonal events calendar? How about an ‘Insta field’? The demand for photo worthy fields is on the rise, and with careful planning, establishing a pick your own will have the public flocking to your f…

24/02/2021 13:44:27

Technical Advice Sheet Pumpkin Power Hour – November

The start of the 2020 season was difficult. Late frosts until the first week in May and dry soils delayed planting, but heavy rains then delayed planting further.

14/12/2020 11:31:10

Technical Advice Sheet: Growing Sunflowers

Sunflowers can make a very attractive addition to wide range of businesses. They can be sold alongside a range of other products, and due to the long flowering season this can even stretch into the autumn to coincide with pumpkins in the run up to Ha…

16/11/2020 11:39:21

Technical Advice Sheet Pumpkin PYO Marketing with Covid

While many of the covid-19 restrictions are being relaxed, it’s likely to continue to pose a challenge for growers for the foreseeable future – especially for those selling directly to customers for whom a high footfall on site is needed to achieve g…

30/09/2020 13:07:45

Technical Advice Sheet: Pumpkin Power Hour - July

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. This article includes the full technical notes from the latest Power Hour in July.

03/09/2020 13:32:56

Technical Advice Sheet: Pumpkin Power Hour - July

Tyfu Cymru have launched regular Power Hour sessions for members of the Pumpkin Network. This article includes the full technical notes from the latest Power Hour in July.

03/09/2020 13:32:56

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated (part 2)

Part two of our Pick your Own Factsheet focusing on Marketing and Top Technical Tips...

19/03/2020 12:28:00

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated (part 2)

Part two of our Pick your Own Factsheet focusing on Marketing and Top Technical Tips...

19/03/2020 12:28:00

Weed Control in Pumpkin

Effective weed control in pumpkin is essential in growing a crop that maximizes its potential.

19/03/2020 10:53:24

Pick your Own (PYO): What you need to know to get 5* rated…

In our series of industry insights, we provide some background to the market, as well as some top tips on ensuring that your customer experience hits that important 5-star customer rating.

16/12/2019 13:38:55