Ar ôl ei lansio yn 2021, mae Fforwm Arweinwyr Tyfu Cymru yn dychwelyd y gwanwyn hwn. Nod y Fforwm Arweinwyr yw darparu amrywiaeth o sgiliau masnachol i fusnesau garddwriaeth Cymru gan eu helpu i fanteisio ar gyfleoedd ar gyfer twf ac i ddiogelu'r diwydiant yn y dyfodol.

Bydd busnesau cymwys yn dysgu gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol trwy gyfres o sesiynau panel wedi'u hwyluso a dosbarthiadau meistr bach, gyda chyfleoedd i gyfranogwyr gael mynediad at hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.

Wedi'i gynllunio ar gyfer perchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr busnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru, bydd y Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn cael ei ddarparu ar-lein i gyd-fynd ag amserlenni prysur cyfranogwyr.

Sesiynau sydd i ddod:

Dosbarth Meistr Rheoli'r Gadwyn Gyflenwi

Dosbarth Meistr Cynllunio Olyniaeth

 

CLICIWCH AR Y DOLENNI ISOD I GAEL MYNEDIAD I'R SESIYNAU A RECORDIWYD

Roedd y fforymau ar-lein yn para awr a rhoddwyd llwyfan i drafod heriau a chyfleoedd cyfredol gydag arweinwyr y diwydiant. Ymhlith y themâu oedd:

  • Arweinyddiaeth
  • Marchnata Strategol
  • Arloesedd

FFORWM 1 - Dadl Panel Arbenigol, dydd Iau 20 Mai 2021

DOSBARTH MEISTR 1 - Datblygu Busnes, dydd Llun 24 Mehefin 2021

DOSBARTH MEISTR 2 - Busnes Cynaliadwy, dydd Iau 26 Awst 2021

FFORWM 2 - Dadl Panel Arbenigol, dydd Mawrth 7 Medi 2021

Cynigiwyd 121 o hyfforddiannau arweinyddiaeth gyda mentoriaid arbenigol i gyfranogwyr ar sail ad hoc, yn amodol ar argaeledd, yn dilyn eu presenoldeb ym mhob fforwm a dosbarth meistr.