student-849822_1920.jpg

This event has passed

Bydd y sesiwn hon yn eich helpu i ystyried y problemau cyffredin y mae busnesau garddwriaeth yn eu hwynebu yn eu cadwyn gyflenwi, yn enwedig yn y cyfnod cythryblus hwn. Bydd hefyd yn archwilio rhai camau y gallwch eu cymryd i helpu i liniaru'r problemau hyn.
Rydym wrth ein bodd bod Sarah Lethbridge, Cyfarwyddwr Rhaglen yn Ysgol Busnes Caerdydd ac arbenigwr mewn Meddwl Darbodus, yn ymuno â ni i gyflwyno'r sesiwn ddysgu awr o hyd hon.
Ymunwch â ni i ddarganfod sut mae rheoli'r gadwyn gyflenwi'n dda yn hanfodol i redeg busnes garddwriaeth llwyddiannus a sut i wneud i'ch cadwyn gyflenwi weithio'n well.
Mae’r Dosbarth Meistr hwn yn rhan o sesiynau hyfforddi bychain sy’n cael eu darparu fel rhan o’r Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth ar gyfer perchnogion, uwch reolwyr a darpar reolwyr busnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru.

Mae’r Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru.

  • Dysgwch gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol drwy gyfres o sesiynau panel a dosbarthiadau meistr bychain
  • Cewch fynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.

Bydd cyfranogwyr i'r dosbarth meistr hwn yn gallu gofyn am fynediad i fentora 1-i-1 gyda Sarah yn dilyn y sesiwn.