Oes gennych chi wefan ond ddim yn cael ymwelwyr na gwerthiannau? Efallai eich bod am wella hyrwyddiad eich busnes trwy'r cyfryngau cymdeithasol ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Neu a ydych chi'n edrych i ddechrau marchnata trwy e-bost?

Mae Tyfu Cymru yma i'ch cefnogi chi i gael eich busnes ar-lein, yn dechrau ar ddydd Gwener 26 Mehefin bydd Tyfu Cymru yn lansio gweminarau byr dros frecwast ar gyfer busnesau garddwriaeth fasnachol, gydag Eddy Webb o InSynch.

Dewch i ymuno â ni i weld sut y gallwch gynyddu gwerthiant ar-lein mewn camau ymarferol hawdd.

Yn ychwanegol at y gweminarau byr gall Tyfu Cymru gynnig sesiynau un i un gydag Eddy - dewiswch amser sy'n addas i chi a thrafodwch eich anghenion a datblygwch cynllun wedi'i deilwra ar gyfer eich busnes. Mae hyn yn cael ei ariannu 100% gan Tyfu Cymru a gall gwmpasu ystod o opsiynau fel:

  • Sut i ddechrau gyda chreu gwefan
  • Creu cynllun ar gyfer marchnata digidol
  • Sut i fesur perfformiad gwefan i ddangos beth sy'n gweithio a beth ellid ei wella
  • Edrych ar welliannau posibl i wefannau i gynyddu gwerthiant neu ymholiadau
  • Cadw mewn cysylltiad â'ch cwsmeriaid - Dechrau arni gyda Marchnata E-bost
  • Sut i gael mwy o bobl ar restr marchnata e-bost
  • Awgrymu gwelliannau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol
  • Darganfod pa eiriau i'w defnyddio ar eich gwefan i gael mwy o ymwelwyr

Gall y sesiwn un i un cael ei gynnal o bell ac maent oddeutu 1.5 awr o hyd ac wedi'i theilwra'n llwyr i'ch anghenion. Gall Eddy helpu i siapio a chynllunio, a'ch cefnogi fesul cam i ddod â'ch marchnata ar-lein yn fyw a gwella gwerthiant.

Mae Eddy eisoes wedi cefnogi llawer o fusnesau garddwriaeth i wella eu marchnata digidol, gan gynnwys Farmyard Nurseries, a ddywedodd: “Fe wnaethon ni gymryd rhan yn y cwrs marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol ddwywaith oherwydd fy mod i wedi cael fy chwythu i ffwrdd ganddo, ac roedd cymaint o gynnwys i'w gymryd i mewn a'i ddysgu. Roedd yr hyfforddwr yn siaradwr anhygoel ac yn gwybod ei stwff mewn gwirionedd” Darllen mwy

Ac yn fwy diweddar, Honey Brook, meithrinfa wedi'i lleoli ym Mhowys. Roedd y perchennog, Mercedes, yn edrych i wella ei gwerthiant ar-lein. Dros gyfnod o 3 mis, a gyda chefnogaeth Eddy, gwelodd Mercedes gynnydd o 500% yn y nifer o ymwelwyr â'i gwefan: ‘Rydym wedi bod mor brysur yn ystod y pandemig, a newidiadau i’r wefan yn unig sydd i gyfrif am hynny. Rwy’n argymell yn gryf eich bod yn ymuno â’r cyrsiau Eddy”

Cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk i gael mwy o wybodaeth.

Gweminarau byr frecwast

Dydd Gwener 26 Mehefin

Hysbysebu ar Facebook

Darganfyddwch beth yw hysbysebu ar Facebook a dechreuwch dargedu'ch marchnad yn y ciplun 15 munud hwn ar sut i hysbysebu ar Facebook. Awgrymiadau i'ch helpu chi i gyrraedd y cwsmeriaid cywir a deall teclyn mewnwelediad Facebook. Cofrestrwch yma

 

Dydd Gwener 17eg Gorffennaf

Sefydlu Siop ar Facebook

Yn y weminar 15 munud hon, darganfyddwch sut i sefydlu siop ar-lein trwy Facebook neu darganfyddwch sut y gallwch chi wneud newidiadau bach i gynyddu gwerthiant. Cofrestrwch yma

 

Dydd Gwener 7 Awst

Cyflwyniad i Google Analytics

Ydych chi eisiau deall beth fyddai'n denu mwy o ymweliadau cwsmeriaid â'ch gwefan a sut i droi'r ymweliadau hyn mewn i werthiannau? Bydd y gweminar 15 munud hwn yn amlinellu beth yw Google Analytics a pham dylech chi ei ddefnyddio ar gyfer eich gwefan chi. Cofrestrwch yma

 

Dydd Gwener 4ydd Medi

Sut i wneud newidiadau mân i'ch gwefan i sicrhau cewch eich darganfod ar Google 

Ydych chi am ddenu mwy o ymweliadau i'ch gwefan? Bydd y gweminar 15 munud hwn yn dangos i chi sut i wneud newidiadau mân fel bod eich gwefan yn dringo rhengoedd Google. Cofrestrwch yma