Stori Llwyddiant

35 o flynyddoedd ac yn cyfrif...

 

Mae’n rhaid bod Farmyard Nurseries yn gwneud rhywbeth yn iawn, oherwydd mae’r feithrinfa’n dathlu 35 o flynyddoedd o fasnachu a hynny mewn cornel ddiarffordd yn Sir Gaerfyrddin.  Mae Richard Bramley, y perchennog, yn ymwybodol iawn fod yn rhaid iddo roi rhesymau cryf iawn i'w gwsmeriaid ddod o hyd i’w feithrinfa, boed hynny ar-lein neu oddi ar lein.

 

‘Cliciau a morter...’

Ei nod yw apelio i farchnad leol a marchnadoedd ym mhellach i ffwrdd drwy ei strategaeth werthu ‘cliciau a morter’.  Y sianeli gwerthu ‘briciau a morter’ yw’r feithrinfa a siop a stondin marchnad yng Nghaerfyrddin, sydd i gyd yn helpu i roi mwy o amlygrwydd i feithrinfa Farmyard Nurseries yn ei marchnad ddaearyddol leol.  Mae strategaeth ‘cliciau’ y feithrinfa yn ddatblygiad mwy diweddar, ac mae’n ei galluogi i werthu ei phlanhigion gorau i farchnadoedd garddio prysur fel Llundain - yng ngeiriau Richard, mae’r rhyngrwyd wedi “helpu i lefelu’r maes”. 

Mae Farmyard Nurseries yn cwmpasu 3 erw, mae’n cynnwys 50 o dwnelau polythen ac mae lle i ymestyn ymhellach hefyd. Mae’r feithrinfa’n manteisio i'r eithaf ar yr hyfforddiant sy’n cael ei ariannu’n llawn sydd ar gael drwy TyfuCymru.  Ar sail ei brofiad o’r hyfforddiant a'r cymorth y mae wedi’u cael drwy TyfuCymru, mae Richard yn llawn canmoliaeth ar gyfer y prosiect, o gymharu â’i brofiadau blaenorol gyda rhaglenni eraill sydd wedi cael eu hariannu. 

“Mae TyfuCymru yn anhygoel – mae eu dull gweithredu wedi bod mor wahanol. Fe ddechreuodd TyfuCymru drwy ofyn i mi beth oedd ei angen arnaf fi, fel tyfwr, yn hytrach na dod yno a dweud wrthyf fi beth roedden nhw’n ei feddwl oedd ei angen arnaf. Mae’r prosiect wir wedi darparu cymorth wedi’i deilwra’n arbennig i mi, sydd wedi’i addasu ar gyfer ein hanghenion.”

 

Hyfforddiant ar sail anghenion...

Mae Farmyard Nurseries wedi elwa ar lu o gyrsiau hyfforddi, gan gynnwys cyrsiau ar farchnata digidol a dylunio gwefannau, sy’n amlwg yn helpu gyda’r strategaeth werthu ddigidol. Mae Richard yn mynd yn ei flaen i ddweud,

“Fe wnaethon ni gymryd rhan yn y cwrs marchnata digidol a’r cyfryngau cymdeithasol ddwywaith, oherwydd roedd wedi creu cryn argraff arna’ i, ac roedd yn rhoi cymaint o wybodaeth ac roedd cymaint i'w ddysgu.  Roedd yr hyfforddwr yn wych am siarad ac roedd wir yn gwybod beth oedd beth.”

Mae’r feithrinfa wedi cael cymorth yn y maes cyfrifyddu a chyllid hefyd, gyda chymorth arbenigol gan gyfrifydd cymwysedig sydd wedi helpu’r feithrinfa i roi pecyn cyfrifon newydd ar waith. Mae hyn wedi arwain at greu swydd newydd yn swyddfa’r feithrinfa. 

Mae rhagor o gymorth technegol wedi cael ei ddarparu ar ffurf dulliau rheoli plâu organig/heb gemegion ac mae arbenigwr wedi nodi meysydd i’w gwella ar gyfer y feithrinfa. 

Hefyd, cymerodd Farmyard Nurseries ran ym Marchnad y Tyfwyr sy’n cael ei rheoli gan TyfuCymru yn yr Ŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad yn Llanelwedd yn ddiweddar.  Dywed Richard yn blwmp ac yn blaen na fyddai wedi cymryd rhan yn y sioe heb anogaeth a chefnogaeth TyfuCymru.

“Fe fyddwn i’n argymell bod tyfwyr eraill yn manteisio ar yr hyfforddiant, sy’n cael ei ariannu’n llawn, sydd ar gael drwy TyfuCymru. Yn y gorffennol, mae diffyg cymorth wedi bod yn y sector garddwriaeth yng Nghymru, a nawr, o'r diwedd, mae gennym ni’r prosiect hwn sydd wedi darparu hyfforddiant a chymorth pwrpasol a pherthnasol, sydd wirioneddol wedi bod o fudd mawr i fy musnes i.”