Sarah Lethbridge

Cyfarwyddwr y Rhaglen MBA Gweithredol

Sarah yw Cyfarwyddwr Rhaglen MBA Gweithredol Ysgol Busnes Caerdydd. Ei maes arbenigedd yw Meddylfryd Darbodus a Gwella Gwasanaethau ac mae wedi gweithio mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau i ddeall yn well holl elfennau llwyddiannus sefydliadau a sut i greu diwylliannau o Welliant Parhaus. Mae’n mwynhau gweithio gyda thimau gwella i wella eu gwybodaeth ac annog hunangynhaliaeth.