echo.PNG

This event has passed

Bydd Fforwm Arweinwyr newydd ar gyfer perchnogion, uwch-reolwyr a darpar reolwyr busnesau garddwriaeth uchelgeisiol yng Nghymru, yn lansio gyda'r cyntaf mewn cyfres o ddadleuon panel arbenigol.

Rydym wrth ein boddau y bydd 3 arweinydd diwydiant yn ymuno â ni i rannu eu mewnwelediadau o arweinyddiaeth, arloesedd a chynaliadwyedd mewn sesiwn panel rhyngweithiol, awr o hyd.
Ymunwch â ni ar 20 Mai 2021 am 2.30pm ar gyfer ein gweminar am ddim i drafod heriau a chyfleoedd cyfredol gyda:

Andrew Burgess, Cyfarwyddwr a pherchennog Produce World a Sylfaenydd RB Organic. Busnes teuluol a ddechreuodd yn 1898, nhw yw un o'r tyfwyr llysiau mwyaf yn Ewrop. Maen nhw’n cyflogi dros 500 o aelodau ar hyn o bryd ac mae eu gwerthiannau dros £100miliwn.

Adam Dixon, Cyd-sylfaenydd Phytoponics. Er 2016 mae wedi codi dros £1m mewn buddsoddiadau ar gyfer technoleg hydroponeg meithriniad dŵr dwfn, ac erbyn hyn mae ganddo brosiectau ar y gweill gyda thyfwyr mawr a phartneriaid yn y sector cynnyrch ffres ledled y byd.

Neil Alcock, Cyfarwyddwr Seiont Nurseries. Wedi’i sefydlu er 1979, ac yn cyflenwi 850,000 o leineri a 400,000 o blygiau bob blwyddyn i gyfanwerthwyr ac archfarchnadoedd o'u 12 erw o dir yng Nghaernarfon. Mae gan Seiont hefyd siop ‘Cash & Carry’ yn Swydd Gaer.

Hwylusir gan: Iain Cox, Cyfarwyddwr Busnes Cynaliadwy, Ecostudio

Gellir dod o hyd i fywgraffiadau’r panelwyr yma.

Mae’r Fforwm Arweinwyr Garddwriaeth yn rhad ac am ddim i fusnesau Cymru.

• Dysgwch gan arweinwyr y diwydiant a hyfforddwyr arbenigol drwy gyfres o sesiynau panel a dosbarthiadau meistr bychain

• Cewch fynediad i hyfforddiant arweinyddiaeth 1-i-1 gan fentoriaid profiadol.

Gwiriwch eich cymhwysedd a chofrestrwch ar gyfer y digwyddiad hwn nawr drwy gwblhau'r arolwg 2 funud sydd ar gael yma.