Andrew Burgess, Cyfarwyddwr a Pherchennog Produce World, Sylfaenydd RB Organic
Ganwyd a magwyd Andrew i ffermio llysiau, ac mae'n agronomegydd strategol yn ôl proffesiwn. Astudiodd yng Ngholeg Amaethyddol Shuttleworth ac ers hynny mae wedi gweithio ym mhob rôl bosib yn y maes Cynnyrch Ffres. Mae'n gefnogwr mawr i ffermio amgylcheddol, yn enwedig organig, ac ar hyn o bryd mae'n Ymddiriedolwr Cymdeithas y Pridd ac yn Gadeirydd Fforwm Organig yr NFU. Yn flaenorol, mae wedi gwasanaethu cyfnodau llawn ar Fwrdd Garddwriaeth yr NFU, bwrdd LEAF, AHDB a Thyfwyr Moron Prydain. Mae’n briod, mae ganddo 3 merch wedi tyfu i fyny a 2 o wyrion. Mae newydd ymddeol o chwarae Rygbi i Peterborough ac mae wrth ei fodd gyda gweithgareddau awyr agored, yn enwedig sgïo a dringo mynyddoedd.

Adam Dixon, Cyd-sylfaenydd, Phytoponics
Sefydlodd Adam Dixon Phytoponics, busnes technoleg amaeth, yng Nghymru ar ôl astudio peirianneg ym Mhrifysgol Caerdydd, i fasnacheiddio system hydroponeg newydd meithrin dŵr dwfn ar gyfer garddwriaeth warchodedig. Ers sefydlu'r cwmni yn 2016, mae wedi llwyddo i godi dros £1m o fuddsoddiadau i ddatblygu a masnacheiddio'r dechnoleg, ac erbyn hyn mae gan Phytoponics brosiectau peilot gyda thyfwyr mawr a phartneriaid yn y sector cynnyrch ffres, hyd yn oed mor bell i ffwrdd â Saudi Arabia. Yn 28 mlwydd oed, dyfarnwyd statws Hyrwyddwr Ifanc y Ddaear iddo gan y Cenhedloedd Unedig, ac mae ganddo ddiddordeb mawr mewn arloesi cynaliadwy sy’n cael ei yrru’n fasnachol, drwy adeiladu newid sy'n para.

Neil Alcock, Cyfarwyddwr, Seiont Nurseries
Neil Alcock yw rheolwr gyfarwyddwr Seiont Nurseries, lle mae wedi bod yn gweithio am y 33 mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn gyfrifol am lawer o gyflwyniadau newydd i farchnadoedd y DU ac Ewrop. Gan gynnwys ei waith bridio ei hun mewn Phormiums. Mae'r amrywiaethau ‘Black Velvet’ a ‘Back In Black’ yn llwyddiannau o'r fath. ‘Cordyline Pink Passion’ yw ei lwyddiant mwyaf ac mae bellach yn cael ei farchnata'n fyd-eang.

Iain Cox, Cyfarwyddwr Busnes Cynaliadwy, Ecostudio
Mae profiad Iain mewn helpu sefydliadau i roi cynaliadwyedd ar waith. Sefydlodd Ecostudio, yn 2008, a thros y blynyddoedd mae wedi cynllunio rhaglenni, cynghori llunwyr polisi a chyflwyno prosiectau sy'n helpu busnesau i greu brandiau, cynhyrchion, pecynnau a gwasanaethau cyfrifol sy'n isel o ran eu heffaith amgylcheddol ac yn uchel o ran gwerth cymdeithasol. Ar hyn o bryd mae'n gweithio'n bennaf gyda sefydliadau tir ym maes garddwriaeth a chadwyni cyflenwi bwyd yng Nghymru a thu hwnt. Yn 2016 enillodd wobr 'Hyrwyddwr Cynaliadwyedd' cenedlaethol am ei waith arloesol a'i arweinyddiaeth yn y sector.