Download the Toolkit: 201218 ap issue1 Welsh TC Ecommerce Guide 100159.pdf

Boed yn fusnes i fusnes neu’n uniongyrchol i ddefnyddwyr, mae’r duedd i werthu ar-lein wedi cynyddu’n ddramatig oherwydd goblygiadau Covid-19.

Ond, fel unrhyw lwybr i’r farchnad, mae angen i berchnogion busnes feddwl yn ofalus am y costau sy’n gysylltiedig â gwasanaethu’r sianel hon a sicrhau ei bod yn gwneud cyfraniad proffidiol i’r model busnes, yn hytrach na draenio ar adnoddau arian gwerthfawr. Nod y canllaw hwn yw tynnu sylw at y costau dan sylw i helpu busnesau i osod strategaeth brisio broffidiol.

Mae'r canllaw hwn yn dilyn ymlaen o'n gweminar 'Deall E-fasnach: sut i wneud y mwyaf o'ch cynnig ar-lein'. Os gwnaethoch chi golli'r weminar hon gallwch ddal i fyny yma: Deall E-fasnach: sut i wneud y mwyaf o'ch cynnig ar-lein

Os ydych chi'n symud eich gwerthiant llysiau neu blanhigion ar-lein ac angen awgrymiadau cyflym a fydd yn eich helpu i arbed amser, codi a rhedeg yn gyflym a sicrhau canlyniadau, gwyliwch ein gweminar a fydd yn dangos i chi sut y gallwch chi ddechrau gwerthu'ch cynnyrch ar-lein yn gyflym: Gweminar: Sut i ddechrau gwerthu ar-lein yn gyflym