Tyfu Blodau i’w Torri

Gallwch dyfu amrywiaeth enfawr o blanhigion o goed a llwyni i flodau unflwydd a bylbiau ac mae hyn yn golygu y gallwch eu cynaeafu am bron i 12 mis o'r flwyddyn, yn enwedig os oes rhyw fath o amddiffyniad ar gael fel tŷ gwydr neu dwnel. Mae archfarchnadoedd a gwerthwyr blodau’n aml yn canolbwyntio ar flodau wedi'u mewnforio sy'n gallu gwrthsefyll cadwyn gyflenwi hir. Gallwch felly gynnig arbenigeddau lleol na fydd eich cwsmeriaid yn gallu prynu mewn siopau prif ffrwd.

Wrth i chi gynllunio eich amserlen mae gwahanol bethau i'w hystyried. Gall cwsmeriaid ofyn am flodau penodol yn ystod y tymor fel eurflodau (chrysanthemums) gwyn yn y gaeaf a dechrau'r gwanwyn. Gallwch ddefnyddio hwn fel canllaw wrth i chi gael teimlad o anghenion eich cwsmeriaid. Dylai hyn hefyd gynnwys dewis da o fathau o flodau, a thargedu 10 neu fwy o flodau yn eu tymor ar y tro. Dylech hefyd gynnwys cynllunio cylchdro, osgoi plannu teuluoedd o blanhigion gyda’i gilydd er mwyn lleihau clefydau a chwyn. Dylech chi anelu at blannu unwaith bod y pridd yn barod er mwyn hwyluso’r broses o gynaeafu’r blodau. Gallwch hefyd gynnwys dulliau tyfu i helpu i drefnu planhigion. Gallwch symud planhigion mewn potiau neu fodiwlau i mewn / allan o fannau gwarchod yn ôl yr angen, gan eich helpu i ymestyn y tymor lle bo angen. Gall oeri bylbiau neu gormau (e.e. Blodau’r Cleddyf (Gladioli)) a phlannu olynol roi amrywiaeth dda o flodau. Gall torri blodau lluosflwydd rhwng Mai a Mehefin (y "Chelsea Chop") fod yn addas ar gyfer llawer o fathau o flodau fel Heleniwm a Echinacea. Mae’n gallu gwthio’r adeg blodeuo yn ôl, annog datblygiad blagur ochrol a bydd hyn yn cael mwy o effaith yn agosach at y cyfnod blodeuo. Ar gyfer stondinau mawr gallwch wneud hyn mewn blociau i roi tonnau o flodau dros gyfnod o amser er mwyn osgoi cael gormod yn blodeuo ar yr un pryd.

Meddyliwch yn ofalus am yr hyn sy'n tyfu, a beth fydd yn cyd-fynd â'ch marchnad bresennol a'ch cyfleusterau tyfu. Mae’n well gadael rhai blodau i'r mewnforwyr: mae'r fasnach flodau bellach yn fyd-eang gyda'r "6 Mawr" (y rhosyn, y carnasiwn, yr eurflodyn, y lili, blodyn y cleddyf a’r tegeirian) yn cael eu mewnforio o'r UE, Affrica a Chanolbarth America. Gallwch brynu’r rhain yn gyfanwerthol drwy system ocsiwn yr Iseldiroedd a gellir eu harchebu ar gyfer danfoniadau wythnosol i ychwanegu at beth bynnag y gallwch dyfu. Mae hefyd yn bosib archebu blodau gan gynhyrchwyr y DU drwy’r flwyddyn, gyda chyflenwyr fel www.flowersbyclowance.co.uk ac www.evolveflowers.com sy’n gallu cyflenwi blodau o Gernyw ac Ynysoedd Scilly. Yn gyffredinol mae cyflenwyr o'r fath yn cynnig ystod sefydlog o gynhyrchion am brisiau cymharol sefydlog ac yn caniatáu i'r cynhyrchydd ar raddfa fach gynnig ystod llawer ehangach o gynhyrchion. Gweler isod am amrywiaeth o rywogaethau blodau nodweddiadol i’w torri, gyda chanllawiau ar amseroedd blodeuo i'ch helpu i gynllunio ar gyfer cynhyrchu drwy gydol y flwyddyn.

Blodau o Hadau

Gall blodau sy’n cael eu tyfu o hadau, yn enwedig ar gyfer blodau unflwydd, fod yn hawdd ac yn rhad i'w tyfu. Mae'r rhan fwyaf o gnydau yn tyfu am gyfnod byr a gallwch eu hau sawl gwaith dros y tymor er mwyn helpu parhad y cyflenwad, gan blannu bob 3-4 wythnos, yn cynnwys cyfnodau yn ystod y gwanwyn a'r hydref. Am y canlyniadau gorau dylai'r rhain gael eu hau o dan amodau da o dan blastig neu wydr. Rhowch nifer o hadau mewn modiwlau er mwyn caniatáu i'r planhigion dyfu'n dyrniad parod. Bydd y tymheredd gorau posibl yn sicrhau egino da ac yn rhoi twf cynnar da gan helpu i atal chwyn rhag ymsefydlu. Yn ogystal â blodau i’w torri, gallwch werthu planhigion a gafodd eu tyfu mewn modiwlau fel cynnyrch addurnol ochr yn ochr â modiwlau ifanc eraill fel llysiau.

Gallwch ddefnyddio bylchau targed o tua 30x30cm fel canllaw cyffredinol. Bydd angen cymorth rhwyd ar blanhigion tal yn y rhan fwyaf o achosion, bydd blodau haul yn hunan cynhaliol ond mae pys melys angen ffrâm neu wialenni i'w cefnogi. Os ydych yn hau mewn hambyrddau modiwlaidd neu hyfforddwyr gwraidd defnyddiwch gompost llenwi modiwlau. Yr egino gorau posibl ar gyfer y rhan fwyaf o blanhigion yw tua 20°C a gall cabinet bach wedi’i wresogi fod yn ddefnyddiol gan fod egino cyflym yn bwysig. Ond gellir tyfu planhigion mewn twneli oer os yw cnu ar gael ar gyfer rhew'r gwanwyn ym mis Ebrill a Mai.

Cnwd

Dyddiadau hau

System a argymhellir

Cyfnod Cynaeafu

Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Caled

Achillea

Ionawr

 

Gorffennaf

Prynu i mewn

Mehefin

1

Antirrhinum

Ionawr Chwefror

Modiwlau hau lluosog

Mai

1

Aquilegia

Ebrill-Mehefin neu Fedi

Modiwlau hau lluosog

Ebrill

1

Sêr-flodyn (aster) (blynyddol)

Chwefror-Ebrill

Modiwlau hau lluosog di-dor

Gorffennaf

1

Bupleurum

Mawrth

Modiwlau hau lluosog di-dor

Awst

2

Calendula

Medi neu Fawrth

Modiwlau hau lluosog di-dor

Ebrill

1

Carthamus

Ebrill –Mehefin

Modiwlau hau lluosog di-dor

Gorffennaf

1

  Eurflodyn

Mawrth-Mai

Planhigion bach wedi’u prynu

Medi i Tachwedd

3

Clary

Ebrill

Modiwlau hau lluosog

Mehefin

1

Penlas yr ŷd (cornflower)

Mawrth Ymlaen

Modiwlau hau lluosog, drilio di-dor uniongyrchol

Mehefin

1

Cosmos

Mawrth

Modiwlau hau lluosog

Mehefin

1

Dahlia

Mai

Planhigion bach wedi’u prynu

Gorffennaf

2

Gypsophila

Chwefror Ymlaen

Modiwlau hau lluosog

Mai

1

Heleniwm

Mawrth

Planhigion bach wedi’u prynu

Gorffennaf

1

Helichrysum

Mawrth Ymlaen

Modiwlau hau lluosog di-dor

Mehefin

1

Llysiau’r ehedydd (Larkspur)

Awst/Medi neu Chwefror

Modiwlau hau lluosog di-dor

Gorffennaf

3

Molucella

Ebrill

Modiwlau hau lluosog

Awst

3

Nigella

 

Chwefror>

Modiwlau hau lluosog di-dor

Mai

1

Pyrethrum

Mai

Modiwlau hau lluosog

Gorffennaf

2

Rudbeckia

Mawrth

Modiwlau hau lluosog

Gorffennaf

1

Statice

Chwefror

Modiwlau hau lluosog

Gorffennaf

1

Stociau (P)

Tachwedd neu Fai/Mehefin

Pigo allan

Mai

3

Blodau'r haul

Ionawr

Modiwlau hau lluosog

Gorffennaf

1

Pys Melys

Tachwedd a Mawrth

Modiwlau hau lluosog

Mehefin

2

Penigan Farfog (Sweet William)

Gorffennaf Awst

Modiwlau hau lluosog

Mai/Mehefin

2

Blodyn y Fagwyr (Wallflower)

Mehefin

Drilio uniongyrchol

Ebrill

2

Zinnia

Ebrill

Modiwlau hau lluosog

Awst

3

 

Gall dyfu flodau unflwydd cymysg (e.e. cosmos, Zinnia, Helenium) gan dyfrhau a rheoli maeth yn ofalus  mewn potiau modwlar o dan blastig er mwyn ymestyn y tymor. 

 

Blodau Lluosflwydd wedi’u torri

Bydd angen gwelyau lled-barhaol ar flodau lluosflwydd gan y byddant yn blodeuo am ddwy flynedd neu fwy. Gallwch blannu'r rhain ym misoedd Hydref/Tachwedd neu ym misoedd Chwefror/Mawrth. Bydd y rhain yn hunan cynhaliol, er y bydd angen eu codi a’u hollti o bryd i'w gilydd, yn enwedig os yw nifer y blodau'n lleihau. Bydd angen i chi reoli chwyn yn ofalus mewn gwelyau sefydledig, ond gallwch chwistrellu planhigion cwbl segur (sy'n dangos dim gwyrddni) gyda chwynladdwyr i helpu i leihau'r baich chwyn. Mae bylchau yn fwy amrywiol gyda blodau lluosflwydd, bydd angen mwy o le ar blanhigion talach fel Rhosynnau’r mynydd (Peonies) ond gall y planhigion hyn bara am flynyddoedd ac efallai eu bod yn well eu trin fel llwyni. Byddwch yn barod i arbrofi  – mae planhigion lluosflwydd eraill nad ydynt yn flodau traddodiadol i’w torri ond gall y rhain fod yn ddeniadol i'ch cwsmeriaid.

 

Cnwd

Amser Blodeuo

Uchder (cm)

Hirhoedledd (blynyddoedd)

Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd

Achillea

Mehefin-Awst

90

3

1

Achillea Perl

Mehefin -Awst

90

3+

1

Alstromeria

Mehefin Medi

90-120

3-

1

Sêr-flodyn (Aster)

Awst-Hydref

80-120

3+

1

Campanula pers.

Mehefin-Awst

90

3

1

Eurflodyn

Mehefin Awst

30

3

1

Echinacea

Gorffennaf Awst

90

2

2

Heleniwm

Mehefin-Hydref

90

2

1

Helianthus

Awst-Medi

150

5

1

Leucanithemum

Mehefin – Hydref

65

5

1

Paeonia

Mai-Mehefin

90

20

3

Phlox pan.

Gorffennaf Medi

80

3

2

Scabiosa

Mehefin-Hydref

80

2

2

Solidago

Gorffennaf Awst

65

4

1

Veronica

Mehefin Awst

80

4

1

Whetmans Pinks

Mehefin Hydref

35

2

1

Gall gwelyau blodau lluosflwydd fel Coreopsis ac Crocosmia gynhyrchu blodau dros lawer o dymhorau olynol, ac maen nhw’n gallu swmpu'n gyflym ac yn hawdd os ydyn nhw’n cael eu codi a'u rhannu'n rheolaidd. Bydd angen rheoli chwyn yn ofalus iawn, fodd bynnag, er mwyn osgoi gordyfiant trwm.

Llwyni Blodeuol

Ar gyfer plannu mwy parhaol gall llwyni ddarparu cyfoeth o flodau tra gall y dail fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud trefniadau.

Cnwd

Amser Blodeuo

Uchder (cm)

Blodyn neu Ddeiliant

Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd

Rhosod

Mehefin-Hydref

150

Blodeuo

2

Lafant

Mehefin-Medi

30

Blodeuo

1

Lilac

Mai

200

Blodeuo

1

Ewcalyptws

Trwy'r flwyddyn

1000

Deiliant

2

Osmanthus

Trwy'r flwyddyn

200

Deiliant

2

Pittosporum

Trwy'r flwyddyn

200

Deiliant

3

Helygen

Ebrill i Fedi

300

Deiliant

1

Eurinllys (hypericum)

Mehefin i Hydref

200

Deiliant

1

Photinia

Trwy'r flwyddyn

200

Deiliant

2

Bylbiau Blodeuol a Chormau

Gall bylbiau a chormau fod yn grŵp defnyddiol iawn wrth iddynt flodeuo y tu allan i'r tymhorau blodau arferol, a helpu i gadw cyflenwad i'ch cwsmeriaid. Bydd rhai yn flodau lluosflwydd, tra byddai’n well trin rhai eraill fel blodau unflwydd. Gall blannu lilïau a gladioli mewn dilyniant ymestyn y tymor torri hefyd. Gallwch farchnata cennin Pedr ar gryfder eu tarddiad Cymreig, neu gallwch werthu'r rhain fel cynnyrch byw blodeuol i'w harddangos am gyfnod mwy o amser.

Cnwd

Amser Blodeuo

Uchder (cm)

Cynyddu'n Naturiol

Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd

Cennin Pedr

Tachwedd i Mai

60

Y

1

Tiwlipau

Mawrth i Mai

35

N

2

Alliwm

Mai Mehefin

100

Y

2

Anemone De Caen

Ebrill Mai (ardaloedd mwyn)

25

N

3

Camassia

Mai Mehefin

120

Y

1

Blodau’r Cleddyf

Gorffennaf Medi

100

N

1

Iris Iseldireg

Mai Mehefin

60

Y/N

1

Lili’r dyffrynnoedd

Mai

30

Y

2

Lilïau

Gorffennaf Hydref

100+

N

2

Tritelia

Mehefin

30

Y

1

Cynhyrchu yn ddiweddarach yn y tymor

Gall eurflodau traddodiadol, sy’n cael eu prynu i mewn fel planhigion plygiau flodeuo i fis Tachwedd os ydych yn eu plannu fel plygiau o fis Mehefin hyd at fis Awst. Mae’n bosibl y bydd angen eu diogelu rhag rhew i mewn i fis Tachwedd ond mae'r rhain yn wydn i raddau helaeth. Gallwch brynu blanhigion plygiau gan gyflenwyr arbenigol fel LRM Horticultural Services Ltd (lr-mason@msn.com). Ar gyfer dewis ychwanegol gall  Zinnias, Antirrhinums, Aster, Bupleurum a Cerinthe fod yn opsiynau hawdd. Os oes gennych dwnnel yr ydych am ei ddefnyddio drwy'r gaeaf hyd at fis Mawrth gallwch blannu planhigion croeso haf (hyacinth) mewn potiau terracotta ffug 3-5L. Gallwch hefyd blannu bylbiau narsisws corrach fel "Jet Fire" neu "Feburary Gold". Bydd Narsisws Cynnar (e.e. "Papur Gwyn") sy’n cael eu plannu o ganol i ddiwedd Medi yn barod i'w gwerthu o ganol i ddiwedd Tachwedd pan fyddan nhw ar fin blodeuo. Gallwch brynu bylbiau mewn siopau cyfanwerthu gan gyflenwyr megis J Parker Dutch Bulbs (Wholesale) Ltd (wholesale@jparkers.co.uk).



Related Pages


Opportunities and practical information for growers looking to start flower farming in Wales

Are you new to flower farming in Wales? Are you looking to diversify into flower farming? In this article, Tyfu Cymru give some starting points from Brexit to blooms…

10/06/2021 16:31:16

Tyfu Cymru - Electric Daisy Virtual Study Tour

We have (safely) captured a Virtual Study Visit with Fiona at Electric Daisy Flower Farm to bring you a glimpse of her business and her journey highlighting the challenges and opportunities along the way.

04/05/2021 09:55:10

Webinar - Flower Network - Starting Dahlias from tubers and cuttings

In this webinar Robert Evans from Pheasant Acre plants an Award-winning Dahlia Expert shared his knowledge on these wonderful plants.

31/03/2021 17:57:42

Webinar: Tyfu Cymru: Flower Network - Soil Health and how to unlock nutrients for flowers

Elizabeth Stockdale currently leads the Soil Biology and Soil Health Partnership funded by AHDB and BBRO. In this seminar she draws on the findings from a range of sectors to draw out key principles for flower growers; and also share some of the spec…

24/02/2021 13:24:32

Webinar: An introduction to commercial lavender production

This session explored the basics of establishing a lavender operation as part of your current horticulture enterprise. ADAS technical advisor Chris Creed covered varieties, crop husbandry, added value, and costs and considerations.

10/02/2021 13:40:45

Webinar: Cut Flower Production - Extending the season

One of the main barriers for people wishing to work with British Flowers is the limited availability of flowers between the months of November and March. This workshop explores methods of extending the season of cut flower production, looking initial…

25/01/2021 15:22:52

Webinar - Daffodil Crop Protection

The webinar covers the latest updates and best practice for plant protection in field daffodil production, with particular focus on disease and weed control. This includes an update on the performance of new and existing herbicides for weed control i…

25/01/2021 15:19:10

Sunflower Webinar

Tyfu Cymru hosted a webinar on sunflowers as there is currently a lot of interest in the crop both from farm tourism pick your own and the cut flower growers. This crop is relatively simple to grow and being a combinable crop has more options for wee…

14/12/2020 11:25:23

Technical Advice Sheet: Growing Sunflowers

Sunflowers can make a very attractive addition to wide range of businesses. They can be sold alongside a range of other products, and due to the long flowering season this can even stretch into the autumn to coincide with pumpkins in the run up to Ha…

16/11/2020 11:39:21

Technical Advice Sheet: Growing Lavender

Lavender can be a new and unusual crop that can be integrated into a range existing grower holdings, and it can even integrate well with other products such as honey if you have hives on site.

16/11/2020 11:29:37

Webinar: The Flower Farmer's Year

The Flower Farmer’s Year session looks at how Georgie Newbery - the flower farmer and florist who began Common Farm Flowers ten years ago, run their year. They grow about 250,00 stems a year for cutting, they are a retail business and have a very str…

13/11/2020 17:12:22

Tyfu Cymru - Electric Daisy Virtual Study Tour

We have (safely) captured a Virtual Study Visit with Fiona at Electric Daisy Flower Farm to bring you a glimpse of her business and her journey highlighting the challenges and opportunities along the way.

29/07/2020 11:40:49

Growing Cut Flowers Year Round

A huge range of plants from trees and shrubs to annuals and bulbs can be grown for flowers and this means that they can be harvested for nearly 12 months of the year, particularly if some form of protection is available such as glasshouses or tunnels…

27/07/2020 15:44:38

Should we say no to floral foam?

There is no escaping the growing consumer and media interest surrounding plastic waste and the implications on the environment. In fact, Google trends show that interest in the topic has risen by a staggering 300% over the last 3 years.

16/12/2019 13:37:47