
Tyfu Blodau i’w Torri
Gallwch dyfu amrywiaeth enfawr o blanhigion o goed a llwyni i flodau unflwydd a bylbiau ac mae hyn yn golygu y gallwch eu cynaeafu am bron i 12 mis o'r flwyddyn, yn enwedig os oes rhyw fath o amddiffyniad ar gael fel tŷ gwydr neu dwnel. Mae archfarchnadoedd a gwerthwyr blodau’n aml yn canolbwyntio ar flodau wedi'u mewnforio sy'n gallu gwrthsefyll cadwyn gyflenwi hir. Gallwch felly gynnig arbenigeddau lleol na fydd eich cwsmeriaid yn gallu prynu mewn siopau prif ffrwd.
Wrth i chi gynllunio eich amserlen mae gwahanol bethau i'w hystyried. Gall cwsmeriaid ofyn am flodau penodol yn ystod y tymor fel eurflodau (chrysanthemums) gwyn yn y gaeaf a dechrau'r gwanwyn. Gallwch ddefnyddio hwn fel canllaw wrth i chi gael teimlad o anghenion eich cwsmeriaid. Dylai hyn hefyd gynnwys dewis da o fathau o flodau, a thargedu 10 neu fwy o flodau yn eu tymor ar y tro. Dylech hefyd gynnwys cynllunio cylchdro, osgoi plannu teuluoedd o blanhigion gyda’i gilydd er mwyn lleihau clefydau a chwyn. Dylech chi anelu at blannu unwaith bod y pridd yn barod er mwyn hwyluso’r broses o gynaeafu’r blodau. Gallwch hefyd gynnwys dulliau tyfu i helpu i drefnu planhigion. Gallwch symud planhigion mewn potiau neu fodiwlau i mewn / allan o fannau gwarchod yn ôl yr angen, gan eich helpu i ymestyn y tymor lle bo angen. Gall oeri bylbiau neu gormau (e.e. Blodau’r Cleddyf (Gladioli)) a phlannu olynol roi amrywiaeth dda o flodau. Gall torri blodau lluosflwydd rhwng Mai a Mehefin (y "Chelsea Chop") fod yn addas ar gyfer llawer o fathau o flodau fel Heleniwm a Echinacea. Mae’n gallu gwthio’r adeg blodeuo yn ôl, annog datblygiad blagur ochrol a bydd hyn yn cael mwy o effaith yn agosach at y cyfnod blodeuo. Ar gyfer stondinau mawr gallwch wneud hyn mewn blociau i roi tonnau o flodau dros gyfnod o amser er mwyn osgoi cael gormod yn blodeuo ar yr un pryd.
Meddyliwch yn ofalus am yr hyn sy'n tyfu, a beth fydd yn cyd-fynd â'ch marchnad bresennol a'ch cyfleusterau tyfu. Mae’n well gadael rhai blodau i'r mewnforwyr: mae'r fasnach flodau bellach yn fyd-eang gyda'r "6 Mawr" (y rhosyn, y carnasiwn, yr eurflodyn, y lili, blodyn y cleddyf a’r tegeirian) yn cael eu mewnforio o'r UE, Affrica a Chanolbarth America. Gallwch brynu’r rhain yn gyfanwerthol drwy system ocsiwn yr Iseldiroedd a gellir eu harchebu ar gyfer danfoniadau wythnosol i ychwanegu at beth bynnag y gallwch dyfu. Mae hefyd yn bosib archebu blodau gan gynhyrchwyr y DU drwy’r flwyddyn, gyda chyflenwyr fel www.flowersbyclowance.co.uk ac www.evolveflowers.com sy’n gallu cyflenwi blodau o Gernyw ac Ynysoedd Scilly. Yn gyffredinol mae cyflenwyr o'r fath yn cynnig ystod sefydlog o gynhyrchion am brisiau cymharol sefydlog ac yn caniatáu i'r cynhyrchydd ar raddfa fach gynnig ystod llawer ehangach o gynhyrchion. Gweler isod am amrywiaeth o rywogaethau blodau nodweddiadol i’w torri, gyda chanllawiau ar amseroedd blodeuo i'ch helpu i gynllunio ar gyfer cynhyrchu drwy gydol y flwyddyn.
Blodau o Hadau
Gall blodau sy’n cael eu tyfu o hadau, yn enwedig ar gyfer blodau unflwydd, fod yn hawdd ac yn rhad i'w tyfu. Mae'r rhan fwyaf o gnydau yn tyfu am gyfnod byr a gallwch eu hau sawl gwaith dros y tymor er mwyn helpu parhad y cyflenwad, gan blannu bob 3-4 wythnos, yn cynnwys cyfnodau yn ystod y gwanwyn a'r hydref. Am y canlyniadau gorau dylai'r rhain gael eu hau o dan amodau da o dan blastig neu wydr. Rhowch nifer o hadau mewn modiwlau er mwyn caniatáu i'r planhigion dyfu'n dyrniad parod. Bydd y tymheredd gorau posibl yn sicrhau egino da ac yn rhoi twf cynnar da gan helpu i atal chwyn rhag ymsefydlu. Yn ogystal â blodau i’w torri, gallwch werthu planhigion a gafodd eu tyfu mewn modiwlau fel cynnyrch addurnol ochr yn ochr â modiwlau ifanc eraill fel llysiau.
Gallwch ddefnyddio bylchau targed o tua 30x30cm fel canllaw cyffredinol. Bydd angen cymorth rhwyd ar blanhigion tal yn y rhan fwyaf o achosion, bydd blodau haul yn hunan cynhaliol ond mae pys melys angen ffrâm neu wialenni i'w cefnogi. Os ydych yn hau mewn hambyrddau modiwlaidd neu hyfforddwyr gwraidd defnyddiwch gompost llenwi modiwlau. Yr egino gorau posibl ar gyfer y rhan fwyaf o blanhigion yw tua 20°C a gall cabinet bach wedi’i wresogi fod yn ddefnyddiol gan fod egino cyflym yn bwysig. Ond gellir tyfu planhigion mewn twneli oer os yw cnu ar gael ar gyfer rhew'r gwanwyn ym mis Ebrill a Mai.
Cnwd |
Dyddiadau hau |
System a argymhellir |
Cyfnod Cynaeafu |
Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Caled |
Achillea |
Ionawr
Gorffennaf |
Prynu i mewn |
Mehefin |
1 |
Antirrhinum |
Ionawr Chwefror |
Modiwlau hau lluosog |
Mai |
1 |
Aquilegia |
Ebrill-Mehefin neu Fedi |
Modiwlau hau lluosog |
Ebrill |
1 |
Sêr-flodyn (aster) (blynyddol) |
Chwefror-Ebrill |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Gorffennaf |
1 |
Bupleurum |
Mawrth |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Awst |
2 |
Calendula |
Medi neu Fawrth |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Ebrill |
1 |
Carthamus |
Ebrill –Mehefin |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Gorffennaf |
1 |
Eurflodyn |
Mawrth-Mai |
Planhigion bach wedi’u prynu |
Medi i Tachwedd |
3 |
Clary |
Ebrill |
Modiwlau hau lluosog |
Mehefin |
1 |
Penlas yr ŷd (cornflower) |
Mawrth Ymlaen |
Modiwlau hau lluosog, drilio di-dor uniongyrchol |
Mehefin |
1 |
Cosmos |
Mawrth |
Modiwlau hau lluosog |
Mehefin |
1 |
Dahlia |
Mai |
Planhigion bach wedi’u prynu |
Gorffennaf |
2 |
Gypsophila |
Chwefror Ymlaen |
Modiwlau hau lluosog |
Mai |
1 |
Heleniwm |
Mawrth |
Planhigion bach wedi’u prynu |
Gorffennaf |
1 |
Helichrysum |
Mawrth Ymlaen |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Mehefin |
1 |
Llysiau’r ehedydd (Larkspur) |
Awst/Medi neu Chwefror |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Gorffennaf |
3 |
Molucella |
Ebrill |
Modiwlau hau lluosog |
Awst |
3 |
Nigella |
Chwefror> |
Modiwlau hau lluosog di-dor |
Mai |
1 |
Pyrethrum |
Mai |
Modiwlau hau lluosog |
Gorffennaf |
2 |
Rudbeckia |
Mawrth |
Modiwlau hau lluosog |
Gorffennaf |
1 |
Statice |
Chwefror |
Modiwlau hau lluosog |
Gorffennaf |
1 |
Stociau (P) |
Tachwedd neu Fai/Mehefin |
Pigo allan |
Mai |
3 |
Blodau'r haul |
Ionawr |
Modiwlau hau lluosog |
Gorffennaf |
1 |
Pys Melys |
Tachwedd a Mawrth |
Modiwlau hau lluosog |
Mehefin |
2 |
Penigan Farfog (Sweet William) |
Gorffennaf Awst |
Modiwlau hau lluosog |
Mai/Mehefin |
2 |
Blodyn y Fagwyr (Wallflower) |
Mehefin |
Drilio uniongyrchol |
Ebrill |
2 |
Zinnia |
Ebrill |
Modiwlau hau lluosog |
Awst |
3 |
|
Gall dyfu flodau unflwydd cymysg (e.e. cosmos, Zinnia, Helenium) gan dyfrhau a rheoli maeth yn ofalus mewn potiau modwlar o dan blastig er mwyn ymestyn y tymor.
Blodau Lluosflwydd wedi’u torri
Bydd angen gwelyau lled-barhaol ar flodau lluosflwydd gan y byddant yn blodeuo am ddwy flynedd neu fwy. Gallwch blannu'r rhain ym misoedd Hydref/Tachwedd neu ym misoedd Chwefror/Mawrth. Bydd y rhain yn hunan cynhaliol, er y bydd angen eu codi a’u hollti o bryd i'w gilydd, yn enwedig os yw nifer y blodau'n lleihau. Bydd angen i chi reoli chwyn yn ofalus mewn gwelyau sefydledig, ond gallwch chwistrellu planhigion cwbl segur (sy'n dangos dim gwyrddni) gyda chwynladdwyr i helpu i leihau'r baich chwyn. Mae bylchau yn fwy amrywiol gyda blodau lluosflwydd, bydd angen mwy o le ar blanhigion talach fel Rhosynnau’r mynydd (Peonies) ond gall y planhigion hyn bara am flynyddoedd ac efallai eu bod yn well eu trin fel llwyni. Byddwch yn barod i arbrofi – mae planhigion lluosflwydd eraill nad ydynt yn flodau traddodiadol i’w torri ond gall y rhain fod yn ddeniadol i'ch cwsmeriaid.
Cnwd |
Amser Blodeuo |
Uchder (cm) |
Hirhoedledd (blynyddoedd) |
Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd |
Achillea |
Mehefin-Awst |
90 |
3 |
1 |
Achillea Perl |
Mehefin -Awst |
90 |
3+ |
1 |
Alstromeria |
Mehefin Medi |
90-120 |
3- |
1 |
Sêr-flodyn (Aster) |
Awst-Hydref |
80-120 |
3+ |
1 |
Campanula pers. |
Mehefin-Awst |
90 |
3 |
1 |
Eurflodyn |
Mehefin Awst |
30 |
3 |
1 |
Echinacea |
Gorffennaf Awst |
90 |
2 |
2 |
Heleniwm |
Mehefin-Hydref |
90 |
2 |
1 |
Helianthus |
Awst-Medi |
150 |
5 |
1 |
Leucanithemum |
Mehefin – Hydref |
65 |
5 |
1 |
Paeonia |
Mai-Mehefin |
90 |
20 |
3 |
Phlox pan. |
Gorffennaf Medi |
80 |
3 |
2 |
Scabiosa |
Mehefin-Hydref |
80 |
2 |
2 |
Solidago |
Gorffennaf Awst |
65 |
4 |
1 |
Veronica |
Mehefin Awst |
80 |
4 |
1 |
Whetmans Pinks |
Mehefin Hydref |
35 |
2 |
1 |
Gall gwelyau blodau lluosflwydd fel Coreopsis ac Crocosmia gynhyrchu blodau dros lawer o dymhorau olynol, ac maen nhw’n gallu swmpu'n gyflym ac yn hawdd os ydyn nhw’n cael eu codi a'u rhannu'n rheolaidd. Bydd angen rheoli chwyn yn ofalus iawn, fodd bynnag, er mwyn osgoi gordyfiant trwm.
Llwyni Blodeuol
Ar gyfer plannu mwy parhaol gall llwyni ddarparu cyfoeth o flodau tra gall y dail fod yn ddefnyddiol ar gyfer gwneud trefniadau.
Cnwd |
Amser Blodeuo |
Uchder (cm) |
Blodyn neu Ddeiliant |
Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd |
Rhosod |
Mehefin-Hydref |
150 |
Blodeuo |
2 |
Lafant |
Mehefin-Medi |
30 |
Blodeuo |
1 |
Lilac |
Mai |
200 |
Blodeuo |
1 |
Ewcalyptws |
Trwy'r flwyddyn |
1000 |
Deiliant |
2 |
Osmanthus |
Trwy'r flwyddyn |
200 |
Deiliant |
2 |
Pittosporum |
Trwy'r flwyddyn |
200 |
Deiliant |
3 |
Helygen |
Ebrill i Fedi |
300 |
Deiliant |
1 |
Eurinllys (hypericum) |
Mehefin i Hydref |
200 |
Deiliant |
1 |
Photinia |
Trwy'r flwyddyn |
200 |
Deiliant |
2 |
Bylbiau Blodeuol a Chormau
Gall bylbiau a chormau fod yn grŵp defnyddiol iawn wrth iddynt flodeuo y tu allan i'r tymhorau blodau arferol, a helpu i gadw cyflenwad i'ch cwsmeriaid. Bydd rhai yn flodau lluosflwydd, tra byddai’n well trin rhai eraill fel blodau unflwydd. Gall blannu lilïau a gladioli mewn dilyniant ymestyn y tymor torri hefyd. Gallwch farchnata cennin Pedr ar gryfder eu tarddiad Cymreig, neu gallwch werthu'r rhain fel cynnyrch byw blodeuol i'w harddangos am gyfnod mwy o amser.
Cnwd |
Amser Blodeuo |
Uchder (cm) |
Cynyddu'n Naturiol |
Graddfa Anhawster 1 Hawdd - 5 Anodd |
Cennin Pedr |
Tachwedd i Mai |
60 |
Y |
1 |
Tiwlipau |
Mawrth i Mai |
35 |
N |
2 |
Alliwm |
Mai Mehefin |
100 |
Y |
2 |
Anemone De Caen |
Ebrill Mai (ardaloedd mwyn) |
25 |
N |
3 |
Camassia |
Mai Mehefin |
120 |
Y |
1 |
Blodau’r Cleddyf |
Gorffennaf Medi |
100 |
N |
1 |
Iris Iseldireg |
Mai Mehefin |
60 |
Y/N |
1 |
Lili’r dyffrynnoedd |
Mai |
30 |
Y |
2 |
Lilïau |
Gorffennaf Hydref |
100+ |
N |
2 |
Tritelia |
Mehefin |
30 |
Y |
1 |
Cynhyrchu yn ddiweddarach yn y tymor
Gall eurflodau traddodiadol, sy’n cael eu prynu i mewn fel planhigion plygiau flodeuo i fis Tachwedd os ydych yn eu plannu fel plygiau o fis Mehefin hyd at fis Awst. Mae’n bosibl y bydd angen eu diogelu rhag rhew i mewn i fis Tachwedd ond mae'r rhain yn wydn i raddau helaeth. Gallwch brynu blanhigion plygiau gan gyflenwyr arbenigol fel LRM Horticultural Services Ltd (lr-mason@msn.com). Ar gyfer dewis ychwanegol gall Zinnias, Antirrhinums, Aster, Bupleurum a Cerinthe fod yn opsiynau hawdd. Os oes gennych dwnnel yr ydych am ei ddefnyddio drwy'r gaeaf hyd at fis Mawrth gallwch blannu planhigion croeso haf (hyacinth) mewn potiau terracotta ffug 3-5L. Gallwch hefyd blannu bylbiau narsisws corrach fel "Jet Fire" neu "Feburary Gold". Bydd Narsisws Cynnar (e.e. "Papur Gwyn") sy’n cael eu plannu o ganol i ddiwedd Medi yn barod i'w gwerthu o ganol i ddiwedd Tachwedd pan fyddan nhw ar fin blodeuo. Gallwch brynu bylbiau mewn siopau cyfanwerthu gan gyflenwyr megis J Parker Dutch Bulbs (Wholesale) Ltd (wholesale@jparkers.co.uk).
Related Pages
Opportunities and practical information for growers looking to start flower farming in Wales
Are you new to flower farming in Wales? Are you looking to diversify into flower farming? In this article, Tyfu Cymru give some starting points from Brexit to blooms…
10/06/2021 16:31:16Tyfu Cymru - Electric Daisy Virtual Study Tour
We have (safely) captured a Virtual Study Visit with Fiona at Electric Daisy Flower Farm to bring you a glimpse of her business and her journey highlighting the challenges and opportunities along the way.
04/05/2021 09:55:10Webinar - Flower Network - Starting Dahlias from tubers and cuttings
In this webinar Robert Evans from Pheasant Acre plants an Award-winning Dahlia Expert shared his knowledge on these wonderful plants.
31/03/2021 17:57:42Webinar: Tyfu Cymru: Flower Network - Soil Health and how to unlock nutrients for flowers
Elizabeth Stockdale currently leads the Soil Biology and Soil Health Partnership funded by AHDB and BBRO. In this seminar she draws on the findings from a range of sectors to draw out key principles for flower growers; and also share some of the spec…
24/02/2021 13:24:32Webinar: An introduction to commercial lavender production
This session explored the basics of establishing a lavender operation as part of your current horticulture enterprise. ADAS technical advisor Chris Creed covered varieties, crop husbandry, added value, and costs and considerations.
10/02/2021 13:40:45Webinar: Cut Flower Production - Extending the season
One of the main barriers for people wishing to work with British Flowers is the limited availability of flowers between the months of November and March. This workshop explores methods of extending the season of cut flower production, looking initial…
25/01/2021 15:22:52Webinar - Daffodil Crop Protection
The webinar covers the latest updates and best practice for plant protection in field daffodil production, with particular focus on disease and weed control. This includes an update on the performance of new and existing herbicides for weed control i…
25/01/2021 15:19:10Sunflower Webinar
Tyfu Cymru hosted a webinar on sunflowers as there is currently a lot of interest in the crop both from farm tourism pick your own and the cut flower growers. This crop is relatively simple to grow and being a combinable crop has more options for wee…
14/12/2020 11:25:23Technical Advice Sheet: Growing Sunflowers
Sunflowers can make a very attractive addition to wide range of businesses. They can be sold alongside a range of other products, and due to the long flowering season this can even stretch into the autumn to coincide with pumpkins in the run up to Ha…
16/11/2020 11:39:21Technical Advice Sheet: Growing Lavender
Lavender can be a new and unusual crop that can be integrated into a range existing grower holdings, and it can even integrate well with other products such as honey if you have hives on site.
16/11/2020 11:29:37Webinar: The Flower Farmer's Year
The Flower Farmer’s Year session looks at how Georgie Newbery - the flower farmer and florist who began Common Farm Flowers ten years ago, run their year. They grow about 250,00 stems a year for cutting, they are a retail business and have a very str…
13/11/2020 17:12:22Tyfu Cymru - Electric Daisy Virtual Study Tour
We have (safely) captured a Virtual Study Visit with Fiona at Electric Daisy Flower Farm to bring you a glimpse of her business and her journey highlighting the challenges and opportunities along the way.
29/07/2020 11:40:49Growing Cut Flowers Year Round
A huge range of plants from trees and shrubs to annuals and bulbs can be grown for flowers and this means that they can be harvested for nearly 12 months of the year, particularly if some form of protection is available such as glasshouses or tunnels…
27/07/2020 15:44:38Should we say no to floral foam?
There is no escaping the growing consumer and media interest surrounding plastic waste and the implications on the environment. In fact, Google trends show that interest in the topic has risen by a staggering 300% over the last 3 years.
16/12/2019 13:37:47