MANYLION CYSWLLT AR GYFER GRANTIAU YN Y DU

 

Grantiau Busnes Fferm Llywodraeth Cymru (FBS)

https://gov.wales/farm-business-grant

Gwybodaeth Bwysig

Cyflwynir Datganiadau o Ddiddordeb (EoI) a hawliadau ar gyfer y Grant Busnes Fferm (FBG) drwy Taliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Mae modd i chi gyflwyno EoI mewn nifer o ffenestri ac mae’n rhaid gwneud cais am o leiaf £3,000. Cewch wneud cais am hyd at £12,000 o grant cyffredinol.

Mae’r grant yn cyfrannu hyd at 40% at fuddsoddiadau cyfalaf mewn offer a pheiriannau, sydd wedi’u nodi ymlaen llaw fel rhai sy’n cynnig manteision clir a mesuradwy i fentrau fferm.

I hawlio’r taliad FBG, rhaid i chi gyflwyno:

  • hawliad FBG drwy RPW ar-lein, gan ddefnyddio'r dudalen Hawlio Gwaith Cyfalaf
  • anfonebau ar gyfer pob eitem a hawliwyd
  • llythyr gan gyfrifydd yn cadarnhau trosiant busnes o £1m neu lai

Os nad ydych chi wedi cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru Ar-lein eto, ewch i wefan Llywodraeth Cymru i gael y canllawiau ar ‘sut mae cofrestru’ neu ffoniwch y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Os nad ydych chi wedi gwneud hynny’n barod, mae’n rhaid i chi gofrestru eich busnes gyda Cyswllt Ffermio cyn gwneud cais am Grant Busnes Fferm (FBG).

Mae’r offer sydd ar gael yn gyffredinol ar gyfer ffermio âr ar raddfa fwy. Mae lobïo o hyd i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys offer garddwriaethol yn y gronfa grant hon.

 

Cynllun Grantiau Bach Glastir Llywodraeth Cymru

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2018-07/glastir-small-grants-general-rules-booklet.pdf

Mae Grantiau Bach Glastir yn gynllun grant Gwaith Cyfalaf sydd ar gael i reolwyr tir a busnesau ffermio yng Nghymru. Nid oes angen contract Glastir cyfredol er mwyn bod yn gymwys. Mae’r Gwaith Cyfalaf sydd ar gael yn cael ei ddewis ar gyfer ei fanteision amgylcheddol eang a chyffredinol a’i allu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru ym maes newid hinsawdd a rheoli dŵr. Mae Grantiau Bach Glastir yn gynllun annibynnol sy’n darparu hyd at £7,500 o gyllid fesul thema ar gyfer Prosiectau Gwaith Cyfalaf. Mae rhestrau penodol o Waith Cyfalaf ar gael fesul thema i gefnogi’r gwaith o gyflawni canlyniadau sy’n llesol i’r amgylchedd. Nodau’r cynllun:

  • Lleihau allyriadau Carbon a nwyon tŷ gwydr.
  • Addasu i newid yn yr hinsawdd a meithrin mwy o wytnwch mewn busnesau ffermio a choedwigaeth.
  • Rheoli ein hadnoddau dŵr i wella ansawdd dŵr a lleihau’r perygl o lifogydd.
  • Diogelu’r tirwedd a’r amgylchedd hanesyddol ar yr un pryd â gwella mynediad.
  • Cyfrannu at wrthdroi’r dirywiad ym mioamrywiaeth frodorol Cymru.

Mae’r prif ffocws ar wella’r defnydd o ddŵr a bioamrywiaeth.

 

Sefydliad Siartredig Garddwriaeth

Gwybodaeth am grantiau a bwrsariaethau sydd ar gael gan fudiadau ar gyfer prosiectau garddwriaethol, cyfnewid a theithio.

https://www.horticulture.org.uk/careers/bursaries-and-grants/

 

Grantiau Cymorth Ariannol Busnes Cymru

Cymorth ariannol a grantiau COVID-19

https://businesswales.gov.wales/coronavirus-advice/support/financial-support-and-grants

 

Banc Datblygu Cymru

Dod o hyd i gyllid - chwilio am gyllid a/neu fenthyciadau

https://businesswales.gov.wales/businessfinance/finance-locator

 

Grantiau Busnes yng Nghymru

Os ydych chi’n rhedeg busnes bychan yng Nghymru, dyma’r grantiau a’r cyllid a allai fod ar gael ar gyfer eich busnes:

https://startups.co.uk/finance/grants/business-grants-wales/#grants

 

Grantiau Busnes i Fenywod

Merched sy’n Entrepreneuriaid yn y DU

https://www.womenentrepreneursuk.com/business-grants-for-women-entrepreneurs/

 

150 o Grantiau Busnesau Bach y DU

https://smallbusiness.co.uk/small-business-grants-uk-2548113/

 

Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd

https://gov.wales/sites/default/files/publications/2020-10/food-business-investment-scheme-guidance.pdf