Rhaglen pum mlynedd yw Tyfu Cymru rhwng 2018 a 2023, sydd â’r nod o adeiladu capasiti a gallu sector garddwriaeth fasnachol Cymru. Mae’n cael ei rhedeg gan Lantra, Cyngor Sgiliau’r Sector a Sefydliad Dyfarnu mewn diwydiannau ar sail tir, sydd wedi sicrhau £3 miliwn o gyllid Rhaglen Datblygu Gwledig (RDP) er mwyn cyflawni’r prosiect.

Mae’r prosiect yn uno arweinyddiaeth strategol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a chymorth wedi’u teilwra i ofynion ac anghenion mentrau unigol, yn ogystal â gwybodaeth am y farchnad a chyfleoedd i rwydweithio. Mae Tyfu Cymru’n cefnogi garddwyr masnachol yn hytrach na thyfwyr cymunedol. Mae’n ymgorffori tri phecyn gwaith unigryw, sef:

  1. Mynediad at hyfforddiant a datblygiad sgiliau a ariennir;
  2. Rhwydweithio a datblygu perthnasoedd drwy gadwyni cyflenwi ac ymgysylltu fel rhwydweithiau; a
  3. Hwb gwybodaeth yn cynnig mewnwelediad i’r diwydiant, a chysylltu mentrau â chefnogaeth arall.

Yn ogystal â chefnogi garddwyr, mae’r prosiect hefyd yn awyddus i fod yn llais i’r diwydiant, drwy weithio gyda phartneriaid a llunwyr polisïau i rannu gwybodaeth a hyrwyddo’r sector. Gellid crynhoi nod cyffredinol y prosiect fel ymgais i alluogi busnesau presennol y sector garddwriaeth yng Nghymru i dyfu, yn ogystal â chefnogi’r rhai sy’n newydd i’r sector.

 

Nodau’r arfarniad

Mae Wavehill wedi cael eu comisiynu i arfarnu Tyfu Cymru. Cynhaliwyd arfarniad ar sail theori rhwng diwedd 2018 a dechrau 2019 er mwyn amlinellu cefndir a chyd-destun y rhaglen; ei theori ar gyfer newid a fframwaith ar gyfer arfarnu’r rhaglen yn y dyfodol.

Nododd y fframwaith bedair thema allweddol ar gyfer yr arfarniad:

  • Thema 1: Ffit strategol – ystyried sut mae’r prosiect yn gweddu i’r seilwaith cymorth ehangach ac yn gweithio gyda phartneriaid eraill i dyfu’r sector garddwriaeth;
  • Thema 2: Rheoli a chyflawni – adolygiad o effeithiolrwydd y ddarpariaeth;
  • Thema 3: Canlyniadau’r gefnogaeth a ddarparwyd; a
  • Thema 4: Gwerth am arian ac edrych tua’r dyfodol.

Caiff adroddiadau arfarnu blynyddol eu cyhoeddi ar ddiwedd pob blwyddyn, yn canolbwyntio ar y pedair thema uchod. Mae’r adroddiadau cychwynnol yn canolbwyntio mwy ar brosesau, ac wrth i ni nesáu at ddiwedd y prosiect, bydd y ffocws yn symud at ddeilliannau ac effeithiau.

Cafodd Adroddiad Blwyddyn 1 (yn cynnwys y cyfnod hyd at 31 Rhagfyr 2019) ei gyhoeddi fis Mai 2020. Mae’r adroddiad hwn yn cynrychioli arfarniad yr ail flwyddyn o ddarpariaeth (h.y. hyd at fis Rhagfyr 2020). Mae’n canolbwyntio ar themâu 1-3 uchod gyda’r pwyslais mwyaf ar Thema 2: Rheoli a chyflawni, er bod hefyd adolygiad o gynnydd yn erbyn targedau cyflawni, a’r deilliannau cychwynnol a gyflawnwyd. Mae canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr adroddiad hwn ar gael i’w lawrlwytho isod.  

Lawrlwytho: Tyfu Cymru Adroddiad Arfarnu Blynyddol Blwyddyn 2 (2020) Chwefror 2021 - Canfyddiadau Allweddol ac Argymhellion

 

Gallwch ofyn am gopi o'r Adroddiad Arfarnu Blynyddol Blwyddyn 2 llawn trwy anfon e-bost i tyfucymru@lantra.co.uk