Rheolwr Prosiect - Gardd Gymunedol Yr Ardd, Tyfu Cymuned drwy Dyfu
Lleoliad: Llandysul, Ceredigion
Oriau: 35 awr yr wythnos
Cyflog: £26,000 y flwyddyn
Cytundeb: 3 blynedd, cyfnod penodol
Mae Yr Ardd C.I.C yn brosiect tyfu cymunedol yng ngorllewin Cymru gyda’r awydd a’r uchelgais i ddatblygu’r maes, fel lleoliad ar gyfer hyfforddiant a datblygu sgiliau, ardal hybu presgripsiwn cymunedol a chreu llu o gyfleoedd cymunedol er budd y gymuned. Rydym yn chwilio am unigolyn egnïol a chreadigol i’n helpu i ddatblygu a symud ein prosiect yn ei flaen.
Prif amcanion Yr Ardd yw:
- Hyrwyddo cyfleoedd gwirfoddoli a chyflogaeth i aelodau’r gymuned, drwy ddatblygu eu sgiliau a’u hunanhyder.
- Creu cyfleoedd dysgu a hyfforddiant i gynyddu cyflogadwyedd a diddordeb cyffredinol.
- Darparu cyflenwad o fwyd lleol fforddiadwy o ansawdd da i bobl leol.
- Hyrwyddo a gwarchod yr iaith Gymraeg o amgylch gweithgareddau tir a natur trwy ei ddefnyddio’n weithredol.
Mae hon yn swydd newydd a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ac mae’n gyfle gwych i’r person iawn i weithio ar y prosiect newydd a chyffroes yma.
Prif Ddyletswyddau:
- Datblygu perthynas gyda gwirfoddolwyr a ddarpar phartneriaid
- Rhwydweithio, cyfathrebu a marchnata gyda grwpiau a sefydliadau cymunedol
- Trefnu a datblygu gweithgareddau ar y safle ac o fewn cyfleusterau cymunedol ac rhanddeiliaid eraill yn yr ardal.
- Monitro a mesur canlyniadau - adrodd i gyfarwyddwyr a chyllidwyr
- Ymchwilio a datblygu ffrydiau ariannu ac incwm newydd
I wneud cais:
Am ddisgrifiad swydd lawn a manylion pellach e-bostiwch un o’n cyfarwyddwyr, andrea@yrardd.org. Danfonwch lythyr eglurhaol a CV atom yn esbonio pam mae’r swydd hon yn cyfateb eich angerdd, profiad a sgiliau personol.
Dyddiad cau: Hanner nos 31ain Rhagfyr 2022
Dyddiad cyfweliad: 24ain Ionawr 2023