Mae Tyfu Cymru, sy’n gweithio gydag ADAS, wedi canfod bod gostyngiad wedi bod yn y cynhyrchion amddiffyn planhigion confensiynol sydd ar gael (e.e. pryfladdwyr a ffwngladdwyr) i’w defnyddio mewn cnydau garddwriaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae disgwyl i’r duedd hon barhau.  Mae defnyddio rheolaeth fiolegol gan ddefnyddio pryfed ysglyfaethus a gyflwynwyd i reoli plâu wedi hen ennill ei blwyf mewn sawl sector o’r diwydiant garddwriaethol.  Mae rhai tyfwyr Planhigion wedi llwyddo i gofleidio’r defnydd o reolaethau biolegol, ond mae rhai’n dal i ymchwilio sut y gellir defnyddio cynnyrch amddiffyn planhigion confensiynol (plaleiddiaid) yn llwyddiannus gyda rheolaethau biolegol o fewn systemau rheoli plâu integredig (IPM).

Pan fydd bio-amddiffynwyr yn cael eu defnyddio’n iawn o fewn system IPM, gallant helpu i greu rhaglenni amddiffyn cnydau effeithiol a chynaliadwy gan ddibynnu llai ar gynnyrch amddiffyn planhigion confensiynol.  Os nad yw’n cael ei ddefnyddio’n iawn, gall y canlyniadau fod yn siomedig, ac mae hyn yn gallu bod yn rhwystr rhag ei ddefnyddio.

Bydd Rhwydwaith Rheoli Plâu a Chlefydau Integredig Tyfu Cymru yn ceisio rhoi hyfforddiant ar adnabod plâu, clefydau a phryfed buddiol, a bydd yn helpu tyfwyr i bennu’r pwysau presennol ar blâu a chlefydau a’r angen i’w hatal a’u rheoli.

Ar ben hynny, byddwn yn darparu rhaglen chwistrellu IPM sbectrwm eang ar gyfer atal a rheoli clefydau sy’n defnyddio bioamddiffynwyr ochr yn ochr â ffwngladdwyr traddodiadol i dyfwyr Cymru ar gyfer tymor tyfu 2021. Gall tyfwyr unigol yn rhwydwaith planhigion RPCI Tyfu Cymru fanteisio ar gefnogaeth gan ymgynghorwyr ADAS annibynnol i greu rhaglenni rheoli pwrpasol ar gyfer eu cnydau.  Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn cynnig cefnogaeth dechnegol ar y dull hwn mewn cyfarfodydd Zoom misol i drafod integreiddio ffwngladdwyr, rheolaethau biolegol ac unrhyw fewnbynnau eraill i amddiffyn cnydau. Bydd hyn hefyd yn cefnogi dysgu gan gyfoedion, gan ein galluogi i rannu straeon am lwyddiant a datrys heriau ar y cyd.

Bydd y pynciau trafod yn cynnwys:

  • Deall y plâu sy’n gysylltiedig â’r cnydau sy’n cael eu tyfu.
  • Deall anghenion y cyfryngau rheoli plâu Biolegol
  • Hybu pryfed buddiol o’r ardal
  • Yr amodau gorau ar gyfer cyflwyno’r cyfryngau rheoli.
  • Gwybod pryd a sut i weithredu
  • Cofnodi gwybodaeth – er mwyn deall perfformiad rhaglenni blaenorol

Bydd ADAS yn cefnogi tyfwyr yn y rhwydwaith yn unigol yn ôl yr angen i helpu i sicrhau’r cyfranogiad gorau posibl gan dyfwyr, gan helpu tyfwyr i wneud y penderfyniadau rheoli gorau posibl ar gyfer eu cnydau.  Byddwn yn sefydlu grŵp WhatsApp i helpu i ddatblygu’r rhwydwaith RPCI, er mwyn ein caniatáu i rannu gwybodaeth a darparu rhagor o gefnogaeth i dyfwyr yng Nghymru.

Mae rhaglen IPM i leihau’r defnydd o blaladdwyr hefyd yn debygol o fod o fudd i bryfed peillio. Bydd y rhaglen hon yn helpu i gefnogi’r rhai sy’n tyfu i gyrraedd y safonau sydd eu hangen i gwrdd â Chynllun Sicrwydd Achub Peillwyr - Tyfu’r Dyfodol – Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

https://garddfotaneg.cymru/science/saving-pollinators/saving-pollinators-assurance-scheme/

Digwyddiadau i Ddod:

  • 18/08/21 12:00: IPDM – Cnydau Bwytadwy

 

Digwyddiadau’r Gorffennol:

Cliciwch ar y dolenni isod i weld recordiadau o'r sesiynau a restrir.

 

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno â’r Rhwydwaith RPCI, anfonwch e-bost at sarah.dummett@lantra.co.uk