Mae Tyfu Cyrmu wedi ffurfio partneriaeth â Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol i dddarparu llwyfan amrywiol o hyfforddiant i Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned (AGG) a thyfwyr masnachol sy'n tyfu llysiau a ffrwythau yng Nghymru.

Diben y rhaglen hyfforddi hon yw cynyddu nifer yr AGG cynaliadwy yng Nghymru a chynyddu cynhyrchiant ac arbedion effeithlonrwydd gan ddefnyddio darpariaeth arloesol.

Bydd y rhaglen hyfforddi hon yn cynnwys:

• Hyfforddiant Cynllunio Tir ar gyfer AGG a thyfwyr masnachol yng Nghymru.
• Gweithdai hyfforddi tyfwyr arbenigol
• Cyngor busnes (sy'n benodol i'r model bwyd cymunedol)
• Cyngor 1:1 wedi'i deilwra gydag arbenigwr â chymwysterau addas.
• Datblygu Rhwydwaith AGG.

Darperir cymorth i AGG cymwys a thyfwyr garddwriaeth masnachol yng Nghymru o newydd-ddyfodiaid i fusnesau sefydledig gyda'r nod o ddarparu hyfforddiant sy'n cynorthwyo'r busnesau hyn i feithrin gallu a chynyddu gwerthiant a chyflenwad bwyd yng Nghymru. Bydd y ddarpariaeth yn seiliedig ar y galw.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk