Dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 18 Mawrth.

Mae’r sectorau proffesiynol a masnachol yn y DU wedi wynebu heriau sylweddol yn y ddwy flynedd ddiwethaf o ran cyflenwi cyfrwng tyfu. Cafwyd heriau gyda chyflenwadau amgen di-fawn, gan gynnwys diffyg cysondeb o ran y cynnyrch, mwy o fwydo a dyfrio, cost ac ôl troed carbon. 

I’r rhai ohonoch sydd eisoes yn tyfu heb fawn, llongyfarchiadau a gobeithiwn y bydd hyn yn dod â mwy o gyfleoedd cadarnhaol i’ch busnes. Fodd bynnag, i’r rhai sy’n awyddus i symud i dyfu heb fawn, ond sy’n wynebu heriau, byddem yn eich annog i gwblhau’r ymgynghoriad hwn. Gallai canlyniad yr ymgynghoriad hwn effeithio ar unrhyw ganolfan arddio / gwerthwr blodau / meithrinfa sy’n gwerthu mewnforion Ewropeaidd.

Er bod gweithio tuag at gynhyrchu heb fawn yn gam pwysig, mae’r diwydiant garddwriaeth fasnachol yng Nghymru yn edrych ar ddull cyfannol o gynaliadwyedd a chyflawni Sero net erbyn 2050.

Rhoi terfyn ar werthu mawn ym maes garddwriaeth yng Nghymru a Lloegr – Defra – Gofod Dinasyddion

Dysgwch fwy am yr ymgynghoriad yma.

Nodwch, os ydych chi’n ymateb yn Gymraeg, ymatebwch drwy e-bost neu ymateb ysgrifenedig.