Mae Tyfu Cymru bellach wedi darparu dros 1,262 o ddiwrnodau hyfforddi gyda dros 3,000 o gyfranogwyr mewn hyfforddiant o bob rhan o Gymru. Fel tîm prosiect, rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu sefydlu 35 o rwydweithiau, ac o fod wedi cynorthwyo 399 o fentrau. Dywedodd 90% fod y darpariaethau hyfforddi amrywiol yn dda neu'n rhagorol, a dywedodd 70% eu bod wedi datblygu sgiliau garddwriaeth dechnegol newydd.

Yn seiliedig ar ddata a gasglwyd gan gyfranogwyr, rydym yn amcangyfrif twf mewn gweithwyr o 8.5 a thwf net mewn trosiant o £3.2m o ganlyniad i’r prosiect, sy’n cyfateb i enillion o £2.25 am bob £1 a wariwyd.

Dywedodd rhai o’r cyfranogwyr:

“Roedd y gefnogaeth yn wych ac roedd cael arbenigwr i ddod allan i edrych ar eich safle a nodi’r problemau allweddol a sut i’w datrys yn wych.” (Arolwg Cyfranogwyr – 2021)

“Doedd gen i ddim syniad bod cefnogaeth fel hyn ar gael ac mae wedi bod yn eithriadol hyd yn hyn. Mae'r cyrsiau a'r hyfforddiant sydd ar gael yn anhygoel. Ymddengys fod y wybodaeth sydd ganddynt yn ddiddiwedd. Yr arbenigedd, mae'n eithriadol.” (Arolwg Cyfranogwyr – 2021)

Mae Tyfu Cymru wedi bod yn gefnogol iawn ac mae'r staff yn barod iawn i helpu. Mae ganddyn nhw lawer o gefnogaeth wahanol ar gael ac maen nhw’n darparu cyngor a gwybodaeth ardderchog.” (Arolwg Cyfranogwyr – 2021)