Mae Tyfu Cymru, sydd wedi’i anelu at sbarduno twf a chynaliadwyedd yn y diwydiant garddwriaeth yng Nghymru, wedi cyrraedd amrywiaeth drawiadol o dargedau ar ôl pum mlynedd lwyddiannus o arloesi a chydweithio, ac mae’n gadael etifeddiaeth barhaol yn y sector garddwriaeth yng Nghymru. Fe wnaeth dros 1,400 o gyfranogwyr, sy’n cynrychioli dros 400 o fentrau sy’n tyfu, gymryd rhan mewn 1381 o ddiwrnodau hyfforddi wedi’u hariannu’n llawn.

Ers ei lansio yn 2017, mae Tyfu Cymru wedi darparu cymorth penodol i’r diwydiant a hyfforddiant wedi’i ariannu 100% er mwyn meithrin gallu a chapasiti’r sector garddwriaeth yng Nghymru. Mae’r rhaglen, a ariennir gan Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, wedi helpu tyfwyr ledled Cymru i wella eu busnesau, lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd, gwella ansawdd eu cynnyrch, a mynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu’r sector.

Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Rhaglen Tyfu Cymru, “Mae’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru wedi dangos ei gadernid a’i allu i addasu yn ystod y blynyddoedd heriol iawn hyn sydd wedi cynnwys y pandemig Covid a gadael yr UE. Rydym wedi cefnogi tyfwyr yng Nghymru i oresgyn rhwystrau i sicrhau eu bod mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd yn y dyfodol. Boed hynny drwy gyngor technegol ar wella cynnyrch cnydau, canllawiau ar dechnegau tyfu newydd neu hyfforddiant ar farchnata digidol, mae ein tyfwyr bellach wedi’u paratoi’n well ar gyfer twf.”

Cafodd cannoedd o dyfwyr o Gymru hyfforddiant a chymorth, gan eu helpu i fabwysiadu arferion cynaliadwy a phroffidiol a fydd o fudd i’w busnesau am flynyddoedd i ddod. Dywedodd Gary Swain o Four Crosses Nursery,

“Rydym wedi dyblu ein trosiant yn ystod y 3 blynedd diwethaf ac wedi cyflogi 8 o bobl ychwanegol.  Dim ond gyda chymorth parhaus Tyfu Cymru a’u gweledigaeth ar gyfer garddwriaeth yng Nghymru, mae ein twf wedi bod yn bosibl.”

Cafodd Fferm Tsili Sir Benfro gymorth gan Tyfu Cymru hefyd. Dywedodd Owen Rosser:

“Fel busnes eithaf newydd, byddai wedi bod yn heriol i ni ddod o hyd i’r arbenigwyr garddwriaeth fasnachol, ac yna ariannu’r hyfforddiant. Mae Tyfu Cymru wedi rhoi mynediad i ni at rwydwaith o arbenigwyr, tyfwyr eraill, a hyfforddiant ymarferol sydd wedi galluogi’r busnes i ddatblygu.”

Mae cydweithio â'r diwydiant wedi bod yn un o brif themâu’r rhaglen, sydd wedi sefydlu 36 o rwydweithiau i dyfwyr a oedd yn rhoi cyfleoedd i dyfwyr weithio gyda’i gilydd i oresgyn problemau cyffredin.

Mae Seiont Nurseries, meithrinfa blanhigion cyfanwerthu yng Nghaernarfon, yn un o’r busnesau sydd wedi elwa o’r rhwydweithiau tyfu hyn.  Dywedodd y perchennog Neil Alcock: “Ni fyddem wedi gallu cyflawni unrhyw hyfforddiant hanfodol heb Tyfu Cymru. Rydym hefyd wedi datblygu cysylltiadau defnyddiol â thyfwyr a chynhyrchwyr eraill sydd wedi rhoi awgrymiadau gwych i ni ar sut i gynyddu ein cynnyrch a lleihau gwastraff.”

Wrth fyfyrio ar lwyddiant y rhaglen, dywedodd Kevin Thomas, Cyfarwyddwr Lantra Cymru, “Rydym yn hynod falch o lwyddiannau Tyfu Cymru dros y pum mlynedd diwethaf. Drwy gydweithio ac arloesi, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran hyrwyddo’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y blynyddoedd i ddod a thrwy’r rhaglen Cyswllt Ffermio."

Bydd gwaith Tyfu Cymru yn parhau o 1 Ebrill 2023 ymlaen a bydd yn cael ei ymgorffori i Gyswllt Ffermio. Mae garddwriaeth yn sector targed i Lywodraeth Cymru, a chynlluniwyd cam nesaf darpariaeth Cyswllt Ffermio i adlewyrchu’r themâu cyffredinol cynaliadwyedd, gwell perfformiad amgylcheddol a mwy o gystadleurwydd byd-eang.

Er mwyn parhau i gael mynediad at gymorth wedi’i deilwra a hyfforddiant arbenigol gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ac wedi dewis Garddwriaeth fel sector cynradd. Os nad ydych wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio ar hyn o bryd, cysylltwch â’r ganolfan wasanaeth ar 03456 000 813.