Dros y ganrif ddiwethaf, mae Cymru wedi colli 97% o’i dolydd blodau gwylltion. Yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Waun Las, a reolir gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, sefydlwyd 40 erw o ddolydd blodau gwylltion, gan gefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau planhigion, bywyd gwyllt a ffyngau.

Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn cefnogi’r gwaith o adfer a datblygu’r dolydd hyn a’u bioamrywiaeth drwy gasglu hadau blodau gwylltion a gwair gwyrdd. I gael gwybod mwy, darllenwch eu blog yma: Mae ein Dolydd Blodeuog yn Ffynnu - Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru