Dathlu Menywod mewn Garddwriaeth ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched!

Ers dros ganrif mae pobl ledled y byd wedi bod yn nodi 8 Mawrth fel diwrnod arbennig i fenywod. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod  yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu llwyddiannau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod.

Rydyn ni'n rhoi sylw i rai o ferched ysbrydoledig mewn Garddwriaeth Cymru ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod!

 

Kate Mortimer

 

 

 

 

 

 

 

 

Rheolwr Cynhyrchion Newydd, Seiont Nurseries LTD (www.seiontnurseries.com)

“Bûm yn gweithio yn y sector garddwriaeth yn fy arddegau, gan luosogi conwydd a grug. Ar ôl dilyn gyrfa wahanol am 15 mlynedd, dychwelais at fy angerdd go iawn ac astudio ar gyfer fy nhystysgrifau RHS drwy ddysgu o bell a mynychu cynifer o ddiwrnodau astudio ymarferol ag y gallwn.

Rwyf bellach wedi gweithio ym Meithrinfeydd Seiont ers 17 mlynedd ac wedi gweithio mewn nifer o feysydd yn y busnes: diogelu cnydau, cynhyrchu cyffredinol, lluosogi a gwerthu planhigion.

Byddwn yn annog menywod i ystyried gyrfa mewn garddwriaeth cynhyrchu. Mae’n fwy amrywiol nag y byddech yn ei feddwl. Rwyf bellach yn arbenigo mewn meithrin mathau newydd o blanhigion yn barod i’w cynhyrchu’n llawn, rhywbeth y mae’r busnes yn enwog amdano. Mae gweld planhigion yr ydw i wedi’u lluosogi yn y canolfannau garddio yn dod â chymaint o foddhad”

 

Debbie Handley

 

 

 

 

 

 

 

 

Cydberchennog, Mostyn Kitchen Garden (www.mostynkitchengarden.co.uk)

“O 2007 tan 2016, bûm yn rheoli’r Rhaglen Cydweithfeydd Bwyd Cymunedol yng Nghymru, prosiect a gâi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i nod oedd byrhau cadwyni cyflenwi drwy gysylltu grwpiau cymunedol â thyfwyr ffrwythau a llysiau.

Yna, yn 2013, symudais i Ardd Gegin Mostyn gyda fy ngŵr, Philip, sy’n arddwriaethwr. Dechreuais wneud jamiau a sityni i ddefnyddio’r gormodedd o ffrwythau a llysiau, a chyda chymorth Cywain yn 2015, ganwyd y brand Gardd Gegin Mostyn. Erbyn hyn, mae gennym tua 20 o stocwyr lleol, gan gynnwys siopau fferm, delis a darparwyr twristiaeth. Yn 2017, buom yn ddigon ffodus i gael ein cynnwys ar Countryfile (rhaglen arbennig yr hydref) ar BBC1. Rwyf wedi gweithio gyda Tyfu Cymru i ddatblygu a hwyluso rhai o’u rhwydweithiau tyfwyr ac rwyf hefyd yn gweithio gyda Cyswllt Ffermio fel eu Swyddog Technegol Garddwriaeth yng ngogledd Cymru.

Mae’n fraint gallu ysbrydoli, ysgogi ac annog menywod eraill i weithio yn y sector. Mae’r pandemig wedi dangos awydd y cyhoedd am gynnyrch lleol ac mae’r cyfleoedd i ddatblygu garddwriaeth Cymru allan yno, ynghyd â’r gefnogaeth – yn enwedig i fenywod sy’n dechrau neu’n dychwelyd i amaethyddiaeth ar ôl cael teulu”

 

Lisa Howarth

 

 

 

 

 

 

Sylfaenydd, ORTIR APOTHECARI

Lisa Howarth yw sylfaenydd ORTIR APOTHECARI, tŷ persawr arbenigol yng ngorllewin Cymru, lle mae’n tyfu ac yn distyllu cynhwysion allweddol ar gyfer ei chyfansoddiadau persawrus unigryw. Mae ei dull o greu persawr wedi’i wreiddio’n ddwfn yn nhirwedd Cymru lle mae wedi byw ers bron i ddegawd.

Mae pob cam cynhyrchu’n digwydd ar y fferm, o reoli’r caeau o gnydau aromatig a chynhaeafu’r planhigion i’r broses o ddistyllu ac echdynnu’r olew gwerthfawr, sy’n sail i’r persawr yn y pen draw.

“Wrth dyfu’r aromateg yma ar y fferm, rwy’n elwa o wybod yr amodau y maen nhw wedi’u profi ac yn gallu rheoli amseriad y cynaeafu. Mae hyn yn bwysig iawn gan ei fod yn effeithio ar sut mae’r olew a ddistyllwyd yn ymddwyn.”

Wedi’i greu gydag ymdeimlad cryf o darddiad, mae persawr ORTIR yn gyfansoddiadau cymhleth lle na ellir adnabod y deunydd gwreiddiol ar unwaith, ond mae wrth wraidd y persawr.

Pan benderfynais i dyfu’r cynhwysion ar gyfer fy mhersawr, cefais gynnig llawer o gynghorion da. Y prif gyngor oedd na fyddwn byth yn llwyddo i gael unrhyw beth i dyfu yma – defnyddir y tir o gwmpas yn bennaf ar gyfer pori a gall fod yn wyllt ac yn wyntog iawn yma gan ein bod ni reit ar yr arfordir.

Roeddwn i’n benderfynol o’u profi’n anghywir. Rwy’ nawr yn edrych allan o’m ffenestr ac yn gweld erwau o lafant. Rwy’ mor gyffrous i dyfu cnydau anhygoel draw yn y caeau teras.

Felly, fy nghyngor i yw ymddiried ynoch chi’ch hun, gwnewch eich ymchwil, a gwrandewch ar gyngor lleol. Ond nid yw’r ffaith nad oes rhywbeth wedi’i wneud o’r blaen yn golygu na allwch chi ei wneud.

Byddwch yn barod i gael eich dwylo’n frwnt".

 

Lynne Dibley

Dibleys Nurseries (www.dibleys.com) 

"Fe wnes i astudio ar gyfer gradd mewn Dylunio 3D ym Mhrifysgol Brighton ac, ar ôl graddio, fe ddois i’n raddol ran o fusnes meithrinfa fy nheulu. Er syrthio i arddwriaeth, rwyf wedi bod yn hoff o blanhigion ac o weithio gyda nhw erioed.

Dewch o hyd i’ch angerdd a dysgwch oddi wrth y rhai sy’n rhannu’r angerdd hwnnw. Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n gweithio mewn garddwriaeth yn bobl wych, maen nhw bob amser yn barod i roi help llaw, ac yn barod i rannu eu profiadau hefyd.

Fy hoff ran o’r gwaith, heb os, yw bridio planhigion newydd. Mae hi bob amser yn gyffrous gweld y swp mwyaf newydd o eginblanhigion yn aeddfedu ac yn blodeuo gyda chyfuniadau newydd ac unigryw o liw a phatrwm. Rwy’n cael gwefr o weld rhai o’m planhigion yn ymddangos mewn marchnadoedd newydd ledled y byd a chlywed barn pobl amdanynt.

Fy llwyddiant mwyaf oedd ennill RHS Chelsea Plant of the Year yn 2010, ac yna mynd ymlaen i dderbyn Cwpan Coffa Reginald Cory ar gyfer bridio planhigion gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol yn 2016.

Bydd yna heriau o hyd. Adeiladwch rwydwaith o bobl o’r un anian o’ch cwmpas i’ch helpu i ddatrys problemau. A byddwch yn barod i helpu eraill yn eu tro. Os gwnewch eich gorau ac os byddwch bob amser yn barod i addasu, yna fe allwch chi weithio drwy’r rhan fwyaf o broblemau."