Mae enwau’r sawl sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, rhan o Wobrau Dysgwyr Diwydiannau’r Tir Lantra 2022, wedi cael eu cyhoeddi. 

Dyma’r busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am eu hymrwymiad eithriadol i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus drwy ymgysylltu â’r prosiect Tyfu Cymru:

  • Ali's Edibles
  • Boverton Nurseries Ltd
  • Four Crosses Nursery
  • Henbant
  • Puffin Produce Ltd
  • Springfields Fresh Produce (Manobier) Ltd

Mae Tyfu Cymru yn gallu darparu 100% o gefnogaeth cyllid i fusnesau garddwriaeth cymwys yng Nghymru trwy ddarparu cefnogaeth 1:1, rhwydweithiau, teithiau astudio, hyfforddi mewn grŵp yn ogystal â ffyrdd eraill o helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrosesau ddiwydiannol.

Bydd y busnes buddugol a’r busnes sydd wedi dod yn ail am y wobr hon yn cael eu cyhoeddi yn seremoni Wobrwyo Lantra Cymru ddydd Iau, 19 Ionawr 2023.

 

Enwebai ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru 2022, rhan o wobrau Dysgwyr Tir Lantra Cymru:

Ali's Edibles | Llanmaes, Bro Morgannwg

Gardd Farchnad yw Ali’s Edibles ym mhentref Llanfaes, Bro Morgannwg. Yn ôl y galw mawr, maent yn darparu llysiau ffres, bron yn organig, a lleol i bobl yr ardal. Maent hefyd yn cynaeafu ddwywaith yr wythnos ac yn mynd â hyn i gyd at garreg drws y cwsmeriaid.

Mae Ali’s Edibles wedi profi eu hymrwymiad i ddatblygiad parhaus proffesiynol trwy gymryd rhan yn y cyfleoedd hyfforddi sy’n cael eu cyllido 100% ac a ddarperir gan Tyfu Cymru. Mae hyn wedi arwain at eu henwebu am y Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru.

 http://www.llanmaesonline.com/alis-edibles  

 

Boverton Nurseries Ltd | Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Busnes teuluol wedi’i hen sefydlu yw Boverton Nurseries Ltd sy’n arbenigo mewn planhigion gardd y Gwanwyn a’r Haf sy’n cael eu tyfu’n benodol at y gofyn i awdurdodau lleol.

Wrth ddefnyddio technoleg o’r radd flaenaf i drawsblannu a llenwi pob pot a hambwrdd gardd, gallant gynnig ystod eang o blanhigion o safon, basgedi crog a thybiau am brisiau cystadleuol.

Mae eu buddsoddiad mewn pobl wedi’i adlewyrchu wrth gael eu henwebu am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru, a hynny trwy eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ym maes garddwriaeth.

 http://www.bovertonnurseries.co.uk/

 

Four Crosses Ltd | Llanymynech, Powys

Mae enwebiad Four Crosses Nursery am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru yn cydnabod eu hymrwymiad parhaus i ymgysylltu drwy gael y gefnogaeth mae Tyfu Cymru yn ei chynnig, trwy hyfforddiant, cyngor a thrwy ffyrdd eraill o ddatblygiad proffesiynol parhaus.


Mae Four Crosses Nursery yn tyfu stoc galed ar gyfer cyflenwad cyfanwerthol. Mae ganddynt y gallu a’r cymhwyster i gynhyrchu nifer helaeth o blanhigion am brisiau cystadleuol.

www.fourcrossesnursery.co.uk

 

Henbant | Caernarfon, Gwynedd

Fferm teuluol a chymunedol wedi’i lleoli ger Caernarfon yw Henbant sy’n defnyddio ystod o ddulliau ymarferol megis technegau tyfu perma amaeth, rheoli holistaidd ac amaeth ecolegol i dyfu bwyd a thanwydd adfywiol.

Mae eu buddsoddiad mewn pobl wedi’i adlewyrchu wrth gael eu henwebu am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru, a hynny trwy eu hymgysylltiad a’u hymrwymiad i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ym maes garddwriaeth.

www.henbant.org

 

Puffin Produce Ltd | Hwlffordd, Sir Benfro

Puffin Produce yw cyflenwyr mwyaf cynnyrch Cymreig yng Nghymru, sy’n darparu gwahanol lysiau a thatws tymhorol i nifer o adwerthwyr a chyfanwerthwyr bwyd.

Mae ymrwymiad Puffin Produce tuag at ymgysylltu â’r cyfleoedd sy’n cael eu cyllido 100% ac a ddarperir gan Tyfu Cymru wedi’i adlewyrchu yn eu henwebiad am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru, i ddarparu hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ym maes garddwriaeth i staff.

www.puffinproduce.com

 

Springfields Fresh Produce (Manorbier) Ltd | Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Nick a Pat Bean sy’n berchen ar Springfields. Maen nhw’n tyfu mefus, cennin pedr a merllys o safon ers blynyddoedd yn Sir Benfro. Mae modd i gwsmeriaid brynu eu cynnyrch trwy eu siop fferm ym Maenorbyr. O fis Awst ymlaen, mae bylbiau cennin pedr Springfields ar gael i’w prynu: gan roi dewis eang o wahanol fathau i’w cwsmeriaid.


Mae Nick a Pat Bean wedi gallu defnyddio’r cyllid 100% a ddarperir gan Tyfu Cymru mewn sawl ffordd er mwyn gwella eu datblygiad proffesiynol parhaus ac esblygu eu mentrau yn unol â hynny. Hyn sydd wedi sicrhau eu henwebiad am Wobr Hyfforddi Tyfu Cymru.

 

Hoffem longyfarch pob un o'r enwebeion ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru.