Mae Gwobrau Dysgwyr Lantra, y sefydliad tir, yn dathlu doniau unigolion a busnesau tir ac amgylcheddol gorau Cymru a chydnabod dyfeisgarwch, sgiliau a brwdfrydedd yr unigolion sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sector amgylcheddol a thir.

Mae Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru’n cydnabod y busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am ymrwymiad rhagorol i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae Tyfu Cymru yn cael ei ddarparu drwy Lantra Cymru, sy’n cefnogi unigolion a chwmnïau yn y sector tir ac amgylcheddol i sicrhau twf personol a busnes. Mae Tyfu Cymru wedi cael cyllid drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru tan fis Mawrth 2023. Mae’n cynnig cyllid o 100% i hyfforddi a datblygu ar gyfer y diwydiant Garddwriaeth.

Enillydd y wobr, Derwen Garden Centre, yw un o’r canolfannau garddio annibynnol gorau yn y wlad ac yn cael ei redeg gan y teulu Joseph, perchnogion y busnes. Maen nhw’n gallu cyflenwi ystod amrywiol o blanhigion ac mae’r staff gwybodus hefyd yn falch iawn o roi cyngor.

Mae enwebiad Derwen Garden Centre ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru’n dyst i’w hymrwymiad parhaus a’u parodrwydd i fanteisio ar y cymorth a gynigir gan Tyfu Cymru, drwy hyfforddiant, cyngor a mathau eraill o ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Meddai Jerry Joseph-Meade o Derwen Garden Centre: “Roedden ni mor falch o ennill gwobr Tyfu Cymru. A dweud y gwir, mae’n teimlo fel y dylen ni fod yn rhoi gwobr iddyn nhw! Mae’r cymorth a gawsom ganddyn nhw wedi bod yn wych, o hyfforddi ein staff i arwain ein hymdrechion i fod yn fwy cynaliadwy. Mae’r tîm hefyd wedi bod ar gael i gynnig eu cyngor a’u gwybodaeth arbenigol.”

 

Image: Jerry Joseph-Meade, Derwen Garden Centre with Kevin Thomas, Lantra Wales

Mae’r busnes a ddaeth yn ail, Vale Pick Your Own, yn cael ei redeg gan Rob a Rachel Saunders ym Mro Morgannwg. Ar ôl gaeaf gwlyb yn 2019 ac elw isel o’u busnes gwartheg cig eidion, penderfynodd y cwpwl arallgyfeirio i hel ffrwythau meddal a phwmpenni.  

Oherwydd eu hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus drwy weithio gyda Tyfu Cymru, mae’r fferm wedi dod yn atyniad tripiau undydd gwych i deuluoedd.

Meddai Rachel Saunders o Vale PYO: “Heb os nag oni bai, fe wnaeth y cyngor a gawsom ar y dechrau gan Tyfu Cymru ein sbarduno i sefydlu Vale Pick Your Own ac ynghyd â’r holl gymorth ychwanegol a chyrsiau  ar hyd y ffordd, mae gwasanaethau Tyfu Cymru wedi bod yn gwbl amhrisiadwy i’n busnes. Mae’n gymaint o fraint bod wedi cyrraedd y rhestr fer am y wobr hon ac er mai ail oedden ni, mae wedi rhoi gymaint o hyder i ni barhau i ehangu ein busnes ar gyfer y dyfodol.”

Clywch gan Derwen Garden Centre a Vale Pick Your Own yn y fideo hwn.

Roedd y rhai a enwebwyd am y wobr hefyd yn cynnwys:

  • Ali's Edibles | Llanfaes, Bro Morgannwg

Gardd farchnad ym mhentref Llanfaes, Bro Morgannwg, yw Ali's Edibles.

  • Boverton Nurseries Ltd | Llanilltud Fawr, Bro Morgannwg

Mae Boverton Nurseries Ltd yn fusnes teuluol wedi’i sefydlu ers amser maith sy’n arbenigo mewn planhigion gwelyau blodau Gwanwyn / Haf a dyfir yn benodol at ofynion awdurdodau lleol.

  • Claire Austin Hardy Plants | Y Drenewydd, Powys

Mae Claire Austin Hardy Plants yn feithrinfa blanhigion arbenigol sy’n rhoi cyfle i bobl archebu planhigion ar-lein neu drwy archeb bost.

  • Springfields Fresh Produce (Manorbier) Ltd | Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro

Mae Springfields yn cael ei redeg gan Nick a Pat Bean a fu’n tyfu’r mefus, cennin pedr a’r asparagus gorau ers blynyddoedd yn Sir Benfro.

Image: Rachel Saunders, Vale PYO with Kevin Thomas, Lantra Wales

Meddai Sarah Gould, Rheolwr Prosiect Tyfu Cymru, “Hoffem longyfarch yr enillydd, yr ail orau a phawb a gafodd eu henwebu am wobr Tyfu Cymru. Mae’r tyfwyr hyn nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru ond hefyd wedi dangos ymroddiad aruthrol i ddatblygu’r diwydiant drwy hybu ac annog eu tîm i fynychu hyfforddiant a datblygu arbenigol, er mwyn lleihau’r bwlch sgiliau yn y diwydiant ar hyn o bryd. Rydym yn falch o gydnabod hyn drwy wobr Tyfu Cymru.”

Mae Derwen Garden Centre yn un o’r 330 o fusnesau tyfu a dderbyniodd gymorth gan Tyfu Cymru. Mae’r rhaglen bellach wedi darparu dros fil o ddiwrnodau hyfforddiant (wedi eu hariannu’n llawn) a dros 2,000 wedi cymryd rhan, gan sefydlu 34 o rwydweithiau tyfwyr i roi cyfle i dyfwyr weithio gyda’i gilydd i ddatrys problemau cyffredin.

Ychwanegodd Sarah Gould, “Mae’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru wedi dangos ei wydnwch a pha mor sydyn y gallodd addasu i amgylchiadau newydd. Ein nod yw cynorthwyo tyfwyr yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau hyn a sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i elwa o unrhyw gyfle sy’n codi. P’un ai yw hynny drwy gyngor technegol i wella cynnyrch eu cnydau, arweiniad ar dechnegau tyfu newydd, neu hyfforddiant ar farchnata digidol.”

Mae Tyfu Cymru’n gallu cynnig cymorth wedi’i ariannu 100% i fusnesau garddwriaeth cymwys yng Nghymru drwy gymorth 1:1, mynediad at rwydweithiau, tripiau astudio, hyfforddiant grŵp a dulliau eraill o helpu i wella eu gwybodaeth, sgiliau a phrosesau yn y diwydiant.