Mae Tyfu Cymru, gan weithio gydag ADAS, wedi nodi bod argaeledd cynhyrchion diogelu planhigion confensiynol (e.e., pryfladdwyr a ffwngladdwyr) i'w defnyddio mewn cnydau garddwriaethol wedi gostwng yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae disgwyl i’r duedd hon barhau. Sefydlodd Tyfu Cymru rwydwaith Rheoli Plâu a Chlefydau’n Integredig (IPDM) i helpu i hyfforddi a chefnogi'r rhai sydd am weithredu'r dull hwn. Nod IPDM yw annog a chefnogi dulliau diogelu cnydau cynaliadwy drwy ddefnyddio adnoddau naturiol, ysglyfaethwyr naturiol a bioddiogelwyr, a defnydd agrocemegion mewn modd wedi’i dargedu.

Mae'r rhaglen yn cefnogi busnesau i gynyddu cynhyrchiant drwy leihau colledion, lleihau'r defnydd o agrocemegion a diogelu a gwella bioamrywiaeth, ansawdd dŵr ac iechyd pridd drwy wneud hynny. Gan weithio gydag ADAS, bydd Rhwydwaith Rheoli Plâu a Chlefydau Integredig Tyfu Cymru yn ceisio darparu hyfforddiant ar adnabod plâu, clefydau a phryfed buddiol a bydd yn helpu tyfwyr i bennu pwysau presennol a'r angen i'w hatal a'u rheoli.

Yr wythnos diwethaf, ymwelodd clwstwr Planhigion Addurnol y Rhwydwaith IPDM â Seiont Nurseries yng Nghaernarfon, sy’n cynhyrchu planhigion ifanc. Dan arweiniad ymgynghorwyr ADAS, roedd yr ymweliad yn galluogi’r rhai a oedd yn bresennol i weld a thrafod egwyddorion ac arferion IPDM mewn lleoliad masnachol. Roedd y pynciau a drafodwyd yn cynnwys monitro cnydau, hylendid meithrinfeydd a mesurau rheoli ffermwrol, problemau tymhorol gan gynnwys smotiau dail bacteriol a llwydni gwlannog, bioreolaethau a defnyddio cynhyrchion diogelu planhigion addas ar adegau priodol. Rhoddodd gyfle i'r grŵp rannu eu profiadau o ddefnyddio dull integredig ac anogodd ddysgu rhwng cymheiriaid.

Dywedodd Michael Luckman o Farmyard Nurseries a fynychodd yr ymweliad astudio:

"Digwyddiad penigamp a oedd wedi’i drefnu’n dda. Rhoddodd gipolwg gwych ar sut mae meithrinfa ar raddfa fawr yn gweithio’n dda. Gyda chyfle i rwydweithio â thyfwyr eraill yn y maes. Gobeithio gwneud mwy a dysgu oddi wrth eraill sy’n fwy profiadol ym maes garddwriaeth". 

Bydd 2 sesiwn ar-lein a fydd yn cwblhau'r rhaglen hyfforddi eleni. Cynhelir sesiwn nesaf y clwstwr Addurnol ddydd Mercher 13 Hydref am 12pm gan ganolbwyntio ar Risgiau Clefydau’r Hydref a'r Gaeaf a Rheoli Cnydau cysylltiedig:

I gofrestru:
https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZAqd--vrDsjE9SyLdWaP9H_CuKqvJNksvrE

Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael yma:
https://www.tyfucymru.co.uk/cartref/beth-syn-newydd/rhaglenni-hyfforddiant/rhwydwaith-rheoli-pl%C3%A2u-a-chlefydau-integredig-rpci/