Dydd Gwener, 12 Chwefror 2021
Mae Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru yn cydnabod y busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am eu hymrwymiad rhagorol tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae Tyfu Cymru yn brosiect sy’n cael ei reoli gan Lantra, a chyda chyllid gan Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol o 100% ar gyfer hyfforddi a datblygu i’r Diwydiant Garddwriaeth.
Mae Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru yn cydnabod y busnesau garddwriaeth gorau yng Nghymru am eu hymrwymiad rhagorol tuag at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus. Mae Tyfu Cymru yn brosiect sy’n cael ei reoli gan Lantra, a chyda chyllid gan Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio Llywodraeth Cymru, sy’n cynnig cymorth ariannol o 100% ar gyfer hyfforddi a datblygu i’r Diwydiant Garddwriaeth.
Mae enillydd y wobr, Hootons Homegrown, yn fferm deuluol sy’n falch o gynhyrchu ffrwythau a llysiau a dyfwyd gartref a magu eu da byw eu hunain.
Mae teulu Hooton wedi datblygu eu busnes dros nifer o flynyddoedd, o fferm yn tyfu grawn a thatws at gasgliad heddiw o fentrau sydd nid yn unig yn cynnwys fferm yn tyfu amrediad eang o lysiau a ffrwythau, ond da byw hefyd sy’n cyflenwi dwy o siopau fferm a chaffi.
Mae ymrwymiad parhaus ac angerddol y teulu tuag at ddatblygu eu mentrau proffesiynol a’u gwybodaeth yn amlwg. Mae’r cymorth ariannol o 100% gan Tyfu Cymru wedi galluogi’r teulu a’u gweithwyr dderbyn gwybodaeth a chael cymorth sydd wedi eu helpu nhw i wella eu rhagweledigaeth a’u gallu i ddatblygu hyn yn oed ymhellach. Darllenwch sut mae hyfforddiant a ariannwyd 100% wedi cefnogi Hooton’s Homegrown i ail-fywiogi eu menter garddwriaeth yma.
Dywedodd Michael Hooton: “Mae tyfwyr o Gymru angen Partneriaeth Tyfu Cymru i ysgogi’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru gyda’r technegau a’r datblygiadau diweddaraf a hyrwyddo dyfodol hyfyw.”
Yr ail orau, Puffin Produce Ltd, yw’r cyflenwr mwyaf o gynnyrch Cymreig yng Nghymru, sy’n cyflenwi amrywiaeth eang o datws a llysiau tymhorol i sawl prif fanwerthwr a chyfanwerthwr.
Heddiw, mae Puffin Produce Cyf yn cyflogi oddeutu 180 o aelodau tîm yn ei bencadlys yn Y Llwyn Helyg. Maen nhw’n pecynnu oddeutu 65,000 tunnell o datws o Gymru bob blwyddyn, gan gynnwys eu tatws DDG cynnar Sir Benfro. Nid yn unig y mae brand Blas y Tir yn gwerthu tatws Cymreig o ansawdd, ond mae hefyd yn gwerthu amrediad o lysiau tymhorol Cymreig blasus.
Mae gan Puffin Produce Cyf werthoedd cryf ynglŷn â’i bobl, ei gymuned a’i amgylchedd, er mwyn sicrhau eu bod wrth galon ei fusnes, ac adlewyrchir hyn yn ei enwebiad ar gyfer Gwobr Hyfforddi Tyfu Cymru, drwy’i ymgysylltiad a’i ymrwymiad tuag at hyfforddiant garddwriaeth a datblygiad proffesiynol parhaus.
Hefyd, yn ail orau ar gyfer y wobr, mae Seiont Nurseries Cyf, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yn cyflenwi planhigion drwy’r post fel Palmwydd bresych, Rhedyn gwydn a Gorchwraidd America. Mae’n gweithio gyda bridwyr ac asiantiaid i ddatblygu rhai o’r amrywiadau newydd gorau sydd ar gael.
‘Rydym yn ddigon mawr i ymdopi ac yn ddigon bach i ofalu!’ yw slogan Seiont Nurseries Cyf. Wedi’i sefydlu yn 1978, mae Seiont Nurseries yn gynhyrchwr plygiau a leinars adnabyddus, sy’n cynhyrchu 850,000 o leinars a 400,000 o blygiau bob blwyddyn. Mae’n arbenigo mewn amrywiadau newydd ac anarferol sy’n cael eu gwerthu drwy’r DU ac Ewrop.
Mae Seiont Nurseries Cyf wedi gallu addasu yn llwyddiannus i newidiadau cythryblus yn ei amgylchedd busnes yn ystod y flwyddyn bontio hon ac mae wedi parhau i ddatblygu ei wybodaeth, ei sgiliau a’i brosesau proffesiynol gyda chymorth a ddarparwyd gan Tyfu Cymru.
Roedd enwebeion ar gyfer y wobr hefyd yn cynnwys:
Dywedodd Sarah Gould, Rheolwr Prosiect Tyfu Cymru, “Hoffem longyfarch yr enillydd, y ddau ail orau a’r enwebeion ar gyfer gwobr Tyfu Cymru. Mae’r tyfwyr hyn, nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru, ond maen nhw hefyd wedi dangos ymroddiad rhagorol i ddatblygu’r diwydiant drwy alluogi ac annog eu tîm i fynychu hyfforddiant a datblygiad arbenigol, gyda’r nod o leihau’r bwlch sgiliau a wynebir gan y diwydiant ar hyn o bryd, yn arbennig felly yn ystod y cyfnod heriol hwn, roeddem wrth ein boddau yn cydnabod hyn drwy wobr Tyfu Cymru.”
Mae Hootons Homegrown ymysg y 220 o fentrau tyfu sydd wedi derbyn cymorth gan Tyfu Cymru. Mae’r rhaglen, sydd yn awr yn ei drydedd flwyddyn wedi cyflawni 588 o ddyddiau hyfforddi a gyllidwyd yn llawn, gyda thros 1,360 o gyfranogwyr, ac mae wedi sefydlu 18 o rwydweithiau tyfwyr sy’n canolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd ar gyfer tyfwyr i weithio gyda’i gilydd er mwyn goresgyn problemau cyffredin.
Yn ystod blwyddyn anodd i’r diwydiant garddwriaeth, mae Tyfu Cymru wedi addasu ei gynnig i gyflawni gweithdai, cyfarfodydd a rhwydweithiau ar-lein, gyda phwyslais arbennig ar gefnogi’r diwydiant i oresgyn heriau a gyflwynwyd yn ystod yr amser hwn, fel hyfforddiant i sefydlu platfformau gwerthu ar-lein, canllawiau ynglŷn ag ailagor yn ddiogel, neu sesiynau â ffocws un i un gydag arbenigwyr y diwydiant.
Ychwanegodd Sarah Gould, “Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r diwydiant garddwriaeth yng Nghymru wedi dangos ei wydnwch a’i allu i addasu yn gyflym i amgylchiadau sy’n newid. Ein nod yw cefnogi tyfwyr yng Nghymru i oresgyn y rhwystrau hyn a sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i elwa o’r cyfleoedd wrth iddyn nhw ddigwydd. P’un a yw hynny drwy gyngor technegol i wella cynnyrch y cnydau, canllawiau ynglŷn â thechnegau tyfu newydd neu hyfforddiant ar farchnata digidol”.
Mae Tyfu Cymru yn gallu darparu cymorth ariannol o 100% i fusnesau garddwriaeth cymwys yng Nghymru drwy ddarparu cefnogaeth un i un, mynediad at rwydweithiau, teithiau astudio, hyfforddiant grŵp a dulliau eraill o gynorthwyo datblygu gwybodaeth, sgiliau a phrosesau’r diwydiant. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.tyfucymru.co.uk/ os gwelwch yn dda.