Mae Tyfu Cymru yn rhoi cymorth i fusnesau garddwriaeth ar draws y sectorau bwytadwy ac addurnol fel ei gilydd.  Rydym yn ffodus i gael gweithio gydag arbenigwyr y diwydiant er mwyn cyflawni’r hyfforddiant mwyaf perthnasol, lledaenu’r wybodaeth dechnegol ddiweddaraf a darparu mewnwelediadau’r diwydiant i fusnesau sydd ynghlwm â’r prosiect.

Yn ddiweddar, siaradodd un o’n harbenigwyr hyfforddi, David Talbot sy’n Ymgynghorydd Garddwriaeth gydag ADAS â Wayne Brough o AHDB ynglŷn â dyfodol rheoli chwyn gyda stoc caled mewn meithrinfa.

Mae’r drafodaeth hon mewn perthynas â threial garddwriaeth yr ADHB sydd â’r nod o wella rheoli chwyn gyda stoc caled mewn meithrinfa drwy ddulliau cemegol, dulliau bioblaladdwyr a dulliau ffermwrol.  Mae’r treial, sydd yn awr yn ei bedwerydd flwyddyn a’i flwyddyn olaf, yn adolygu technegau rheoli chwyn mewn modd cemegol a ffermwrol a ddefnyddir mewn gwledydd eraill ar stoc caled mewn meithrinfa, gan ganolbwyntio ar gemegau a thechnegau sydd â’r potensial i gael eu defnyddio o dan amodau a rheoliadau’r DU.

Gallwch weld yr erthygl yn llawn ar wefan AHDB. Gellir gweld manylion llawn ac adroddiadau cynnydd ynglŷn â’r treial rheoli chwyn yma.

Yn ddiweddar, mae David Talbot wedi cyflwyno gweminar ar gyfer Tyfu Cymru ynglŷn â Rheoli Plâu Integredig ar gyfer tyfwyr addurnol, sydd ar gael ar Hwb Gwybodaeth Tyfu Cymru.