Wrth i ffermwyr a thyfwyr weld cyllid Cynllun y Taliad Sylfaenol yn dirwyn i ben a chynllun peilot y system Reoli Tir er Lles yr Amgylchedd (RhTLlA) yn cychwyn o ddechrau’r flwyddyn nesaf, mae rhanddeiliaid yn y sector yn gweithio gyda’r Llywodraeth er mwyn diffinio’r broses o ‘dalu am nwyddau cyhoeddus’.

Mewn ymateb, mae Cymdeithas y Pridd wedi lansio’r Prosiect Asedau Carbon ar gyfer Iechyd y Pridd (CASH), mewn ymdrech i ddarparu tystiolaeth bod y technegau a ddefnyddir gan ffermwyr organig a ffermwyr adfywiol yn gallu dal a storio carbon a’i ddiogelu yn yr hirdymor.

Rhagwelir y bydd y prosiect yn parhau am dair blynedd. Mae Cam un (Awst 2020-Gorffennaf 2021) yn bennaf yn cynnwys casglu a chynhyrchu data ar garbon organig yn y pridd o ffermydd ar draws y DU.

Nodau’r prosiect:

• Gwell dealltwriaeth ynglŷn â’r technegau sy’n cynyddu dal a storio carbon o’r pridd
• Dealltwriaeth eglur o gapasiti’r gwahanol briddoedd i ddal a storio carbon yn y DU
• Dealltwriaeth ynglŷn â’r cyfleoedd sydd ar gael i ffermwyr o gyllid cyhoeddus a safonau rheoleiddiol i fwyhau dal a storio carbon drwy reoli pridd yn well
• Y gwahaniaeth rhwng systemau ac arferion ffermio yn y modd y maen nhw’n gallu gwella ansawdd y pridd a’r carbon

Os ydych chi’n ffermwr neu’n dyfwr sy’n monitro eich deunydd organig yn y pridd, ac y gallwch chi roi manylion ynglŷn â hanes cnydio, ymarferion pori/gwasgaru tail a math o bridd, byddai Cymdeithas y Pridd yn hoffi clywed oddi wrthych yn y lle cyntaf drwy arolwg a ellir ei weld yma

Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r Prosiect Asedau Carbon ar gyfer Iechyd y Pridd ar wefan Cymdeithas y Pridd