Mae Tyfu Cymru yn falch o lansio pythefnos 'Iechyd Rhithwir Planhigion mewn Garddwriaeth' ym mis Hydref, sy'n anelu at ddod â rhanddeiliaid a thyfwyr masnachol o bob rhan o'r diwydiant garddwriaeth at ei gilydd ar gyfer cyfres o sesiynau briffio dan arweiniad pwnc, astudiaethau achos a thrafodaethau ar bynciau fel bygythiadau iechyd Planhigion, cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bioddiogelwch iechyd planhigion nawr ac ar ôl Brexit.

Mae un peth yn gyffredin am dyfwyr Cymru, sef yr angerdd, y balchder a’r awydd maent yn ei rannu i ddarparu planhigion a chynhyrchion o ansawdd uchel yn gyson…

Ond ni allwch gael planhigion o ansawdd da heb blanhigion iach, ac mae p’un a ydynt wedi’u heintio â chlefydau neu a oes plâu yn amharu arnynt yn effeithio’n fawr iawn ar hynny.

 Gall plâu a chlefydau gael effaith ddinistriol ac arwain at golledion cynhyrchu a gwerthu. Mae effaith ddinistriol Xylella yn Ewrop yn un enghraifft o pam yn union y mae angen i ddiwydiant garddwriaeth Cymru sefyll gyda’i gilydd i helpu i amddiffyn iechyd planhigion y wlad, ac atal plâu a chlefydau rhag lledaenu.

 Mae angen i dyfwyr allu adnabod y plâu a’r pathogenau a allai effeithio ar eu cnwd. Felly mae angen iddynt ddeall sut mae trin y plâu a’r pathogenau i sicrhau eu bod yn cael cnwd da ar ddiwedd y cylch, a lleihau’r risg o golli cnydau lle byddant efallai wedi gallu osgoi hynny drwy adnabod plâu neu glefydau yn gynt.

Heddiw, mae cofrestr iechyd planhigion DEFRA yn rhestru dros 1,149 o wahanol blâu a phathogenau sy’n fygythiad posib i gnydau neu i amgylchedd naturiol y DU. Fyddech chi’n eu hadnabod nhw?

Mae’n debyg bod tyfwyr sy’n mewnforio neu’n allforio cynnyrch yn gwybod bod angen hefyd dod i ddeall y ddeddfwriaeth ar iechyd planhigion, sy’n rheoli mewnforio a symud rhai planhigion, hadau a deunydd organig fel pridd, tatws, llysiau, blodau wedi’u torri, deiliach a grawn. I wneud pethau yn fwy cymhleth eto, mae’r mesurau rheoli yn gwahaniaethu yn ôl y rhywogaeth ond gallent gynnwys yr angen am ddosbarthiad nwyddau, tystysgrif ffytoiechydol, pasbort planhigion a gofynion archwilio.

Mae hyn yn arwain at ddeall sut y gallai goblygiadau Brexit effeithio ar eich busnes. Os ydych chi’n mewnforio neu’n allforio, bydd eich cofrestriadau ar gyfer archwiliadau ar gyfer mewnforio planhigion yn newid. Mae’n bwysig eich bod chi fel tyfwr yn deall y ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i chi a’ch bod yn ymwybodol o bethau fel pasbortau planhigion a sut mae cael pasbortau planhigion neu dystysgrifau ffytoiechydol.

Mae diogelu planhigion rhag plâu a chlefydau yn llawer mwy cost-effeithiol na delio ag argyfyngau, felly mae atal yn hollbwysig er mwyn osgoi effaith ddinistriol plâu a chlefydau ar amaethyddiaeth, bywoliaeth a’r sector. Gyda’r heriau presennol sy'n wynebu llawer o fusnesau yn y sector o ganlyniad i COVID-19, mae amddiffyn cynnyrch, lleihau gwastraff a chynhyrchu planhigion o ansawdd da yn bwysicach nag erioed. A gan fod 2020 yn Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion, mae yna hefyd fudiad byd-eang i ddeall iechyd planhigion a sut mae angen defnyddio mesurau rheoli sy’n amgylcheddol sensitif.

Mewn ymgais i gefnogi tyfwyr Cymru, y mis Hydref hwn mae Tyfu Cymru yn falch o lansio cynhadledd ‘Cymru, Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth’, sydd â’r nod o ddod â thyfwyr a rhanddeiliaid masnachol o bob rhan o’r diwydiant garddwriaeth ynghyd. Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ehangu eu gwybodaeth am sut y gallant leihau gwastraff a cholledion sy’n deillio o blâu a chlefydau a gwella busnes trwy ddiagnosis iechyd planhigion, ynghyd â dealltwriaeth o gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd planhigion a bioddiogelwch nawr ac ar ôl Brexit.

Yn y fformat newydd (a gwell) hwn, cynhelir y gynhadledd rithwir ar-lein dros gyfnod o bythefnos, a bydd yn cynnwys pynciau, astudiaethau achos a sesiynau briffio a fydd yn cael eu cynnal ar adegau penodol, a fydd yn caniatáu i chi ymuno â'r sesiynau sydd o ddiddordeb i chi. Dywedodd Sarah Gould, Cyfarwyddwr Prosiect Tyfu Cymru, wrth sôn am y fformat cyflwyno newydd:

“Daeth pandemig COVID-19 â diwedd sydyn i’n calendr o ddigwyddiadau wyneb yn wyneb yr haf hwn, ond yn yr amser ansicr hwn, fe wnaeth hefyd ein herio i newid ein ffordd o feddwl ac i fanteisio ar y dechnoleg sydd ar gael i ni. Dyma pam ein bod wedi penderfynu cynnal ein cynhadledd iechyd planhigion ar-lein, wrth edrych ar ffyrdd newydd ac arloesol o’i darparu a fydd yn caniatáu tyfwyr fynd a dod o sesiynau, o leoliadau ar draws Cymru, ar adegau sy’n eu siwtio nhw.

Rydym yn edrych ymlaen at gynnal y gynhadledd, ac at groesawu siaradwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o'r wlad.”

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • Briffio allweddol gan Lywodraeth Cymru ac APHA ac arbenigwyr iechyd planhigion mewn garddwriaeth
  • Diweddariad ar newidiadau deddfwriaeth a chynlluniau ar gyfer Brexit
  • Deall pryderon presennol a rhai’r dyfodol ym maes iechyd planhigion ac effeithiau ar fusnes
  • Clywed am dechnegau a thechnoleg newydd
  • Cyfnewid syniadau ag arbenigwyr iechyd planhigion ac arweinwyr y sector garddwriaeth

Am fwy o wybodaeth am y gynhadledd ewch i: Iechyd Rhithwir Planhigion mewn Garddwriaeth

I gofrestru ar gyfer y gynhadledd, cliciwch yma