TC plant health banner WEL LR.jpg

This event has passed

Mae Tyfu Cymru yn eich croesawu i lansiad Cynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth ym mis Hydref eleni. Nod y Gynhadledd yw dod â rhanddeiliaid a thyfwyr masnachol ynghyd o bob rhan o’r diwydiant garddwriaeth.  Mae hwn yn gyfle gwych i fusnesau ehangu eu gwybodaeth am sut gallant leihau gwastraff a cholledion sy’n deillio o blâu a chlefydau, gwella busnes drwy ddiagnosis iechyd planhigion, ynghyd â meithrin dealltwriaeth o gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd planhigion a bioddiogelwch nawr ac ar ôl Brexit. Bydd sesiynau briffio allweddol ar gael gan Lywodraeth Cymru a gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes iechyd planhigion yn ogystal â chyfleoedd i gyfnewid syniadau ag arbenigwyr iechyd planhigion ac arweinwyr y sector garddwriaeth.

Caiff y gynhadledd ei chynnal yn rhithiol dros gyfnod o bythefnos a chyflwynir sesiynau dyddiol mewn sawl fformat gwahanol yn amrywio o sgyrsiau i rith-deithiau a thrafodaethau panel.

Mae Tyfu Cymru yn edrych ymlaen at gynnal y gynhadledd, ac at groesawu siaradwyr a chynrychiolwyr o bob cwr o’r wlad.

Caiff y Gynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth ei hariannu’n llwyr gan Tyfu Cymru ar y cyd â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.

 

Rhaglen

Wrth gofrestru byddwch chi’n cael eich gwahodd i ddewis pa un o’r sesiynau canlynol yr hoffech chi fynd iddi. Nodwch: bydd pawb sy’n bresennol yn cael ei gofrestru’n awtomatig ar gyfer sesiynau agor a chloi’r gynhadledd

Dydd Llun 12 Hydref 9.00 – 9.45: Croeso a Chyflwyniad i’r Gynhadledd

Kevin Thomas - Cyfarwyddwr, Lantra Cymru a Thyfu Cymru

Yr Athro David Skydmore - Arbenigwr Iechyd Planhigion

Cyflwyniad i Flwyddyn Ryngwladol Iechyd Planhigion. Y gynhadledd hon yw ein cyfraniad o Gymru. Bydd y Gynhadledd yn trafod y prif faterion yn ymwneud ag iechyd planhigion a bioddiogelwch mewn garddwriaeth fasnachol gan ganolbwyntio’n benodol ar Gymru. Bydd yn disgrifio gwaith o atal, canfod, rheoli a lliniaru plâu ac afiechydon, gan ddarparu gwybodaeth y gall tyfwyr ei defnyddio’n uniongyrchol yn eu busnesau. Bydd y sesiwn hon yn cynnig trosolwg o amcanion y Gynhadledd, sut y bydd y gynhadledd ar-lein yn gweithio, beth fydd y prif themâu a beth sydd wedi’i gynnwys yn y rhaglen. Bydd yn gosod y cyd-destun ar gyfer y cyflwyniadau ar sesiynau eraill.

 

Dydd Mawrth 13 Hydref 9.30 – 10.00: Rôl Cymdeithasau Masnach: Cefnogi garddwriaeth fasnachol drwy roi cyngor a chynrychiolaeth

Pippa Greenwood - Darlledwr, Awdur a Rheolwr Garddwriaeth y Gymdeithas Crefftwyr Garddwriaethol

Mae Pippa yn awdur ac yn ddarlledwr adnabyddus ac yn aelod rheolaidd o banel Gardeners’ Question Time ar Radio 4. Mae Pippa hefyd yn Rheolwr Garddwriaeth y Gymdeithas Crefftwyr Garddwriaethol. Yn y sgwrs hon bydd hi’n rhoi ei safbwynt ar arddwriaeth fasnachol a gwaith cymdeithasau masnach mewn codi ymwybyddiaeth a chynrychioli aelodau. Bydd ei sgwrs yn cynnwys pwysigrwydd garddwriaeth a ffactorau sy’n annog neu’n cyfyngu ar dwf y diwydiant nawr ac i’r dyfodol drwy sganio'r hyn sydd ar y gorwel.

 

Dydd Mercher 14 Hydref 13.00 – 14.00: Rhith-daith o amgylch Fferm Crug

Bleddyn a Sue Wynn-Jones - Perchnogion Crûg Farm Plants.

Ellie Pay - Lledaenwr, Crûg Farm Plants.

Chris Creed - Ymgynghorydd Ffrwythau, Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol

Mae’r ffilm hon yn gyfle cyffrous iawn i gael taith o amgylch Crûg Farm Plants yng ngogledd Cymru a chlywed cyfweliad gyda Bleddyn a Sue Wynn-Jones. Maen nhw’n gasglwyr planhigion brwd ac maen nhw wedi teithio’r byd yn adeiladu eu casgliadau. Mae’r feithrinfa’n ffynhonnell arbennig o blanhigion egsotig. Bydd Chris Creed yn gofyn y cwestiynau hynny yr ydym ni i gyd eisiau gwybod yr atebion iddynt. Bydd Ellie Pay, sydd yn frwd iawn gyda Chymdeithas y Lledaenwyr Ifanc, yn siarad am ei gwaith yn y feithrinfa hefyd. Cyfle na ddylech chi ei golli.

 

Dydd Iau 15 Hydref 13.00 – 14.00: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Will Ritchie - Curadur, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Bydd y cyflwyniad hwn gan y Curadur Garddwriaeth, Will Ritchie, yn cyflwyno'r arferion iechyd planhigion sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin i helpu i greu safle bioddiogel. Bydd yn cynnwys awgrymiadau syml, effeithiol a rhad y gall garddwriaethwyr eu defnyddio i gynnal iechyd planhigion yn eu meithrinfeydd a’u gerddi.

 

Dydd Gwener 16 Hydref 11.45 – 12.30: Trafodaeth panel ar ddeddfwriaeth a pholisi bioddiogelwch

Yr Athro Nicola Spence - Dirprwy Gyfarwyddwr Iechyd Gwenyn a Phlanhigion a Phrif Swyddog Iechyd Planhigion y DU yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.

Yn y cyflwyniad hwn bydd Prif Swyddog Iechyd Planhigion y DU yn disgrifio pwysigrwydd cynnal bioddiogelwch i rwystro lledaeniad plâu ac afiechydon newydd ac mewn diogelu ein diwydiant. Mae llawer o ddeddfwriaeth ar fin newid, ac mae angen i dyfwyr fod yn ymwybodol o’r gofynion am basbortau planhigion a thystysgrifau ffytoiechydol mewn perthynas â mewnforio ac allforio planhigion. Mae hon yn sesiwn bwysig iawn ac yn gyfle i glywed am bolisi’r llywodraeth gan Brif Swyddog Iechyd Planhigion y DU  

Polisi Iechyd Planhigion a Bioddiogelwch Cymru

Martin Williams - Llywodraeth Cymru

Mae Iechyd Planhigion yn faes sydd wedi cael ei ddatganoli i Gymru. Bydd Martin Williams yn rhoi’r ddeddfwriaeth bioddiogelwch mewn cyd-destun Cymreig. Bydd hefyd yn disgrifio rhai o’r problemau penodol sy’n wynebu Cymru o ran plâu ac afiechydon planhigion a sut mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â nhw. Mae’r cyflwyniad hwn yn bwysig i dyfwyr sy’n gweithio yng Nghymru.

Trafodaeth fyw

Nicola Spence, Martin Williams

Bydd Nicola Spence a Martin Williams ar gael ar gyfer trafodaeth fyw ar y pynciau y gwnaethon nhw eu trafod yn eu cyflwyniadau. Dyma gyfle i gyfranogwyr y Gynhadledd roi eu cwestiynau i’r arweinwyr hyn mewn iechyd planhigion.

 

Dydd Llun 19 Hydref 9.30 – 10.00: Iechyd Planhigion a sicrhau stoc iach

Alistair Yeomans - Rheolwyr y Cynllun, Plant Healthy

Mae Cynghrair Plant Healthy wedi cael ei sefydlu gyda’r nod o helpu busnesau i dyfu drwy ddarparu planhigion iach. Mae wedi paratoi’r Safon Rheoli Iechyd Planhigion yn ogystal â llunio’r Cynllun Ardystio Plant Healthy a fydd yn galluogi busnesau i ddangos eu bod nhw’n cydymffurfio â’r Safon. Dyma ddatblygiad sylweddol fydd yn annog gwelliannau o ran iechyd planhigion gan arwain at ddiwydiant garddwriaeth cryfach. Bydd y cyflwyniad hwn yn gyfle defnyddiol iawn i gyflwyno tyfwyr i’r Safonol a’r Cynllun ac i ddeall sut maen nhw’n gweithio. Yn dilyn y cyflwyniad bydd sesiwn Holi ac Ateb fyw i gyfranogwyr y Gynhadledd ofyn eu cwestiynau.

 

Dydd Mawrth 12 Hydref 17.15 – 18.00: Plâu a Chlefydau: bygythiadau, diagnosis a hysbysu

Dr Ana Perez-Sierra - Pennaeth y Gwasanaeth Ymgynghorol a Diagnostig ar Iechyd Coed, Forest Research

Tom Jenkins - Pennaeth Forest Research Cymru

Mae’r hanfodol bod plâu ac afiechydon yn cael eu cofnodi’n gywir cyn y gallan nhw gael eu rheoli’n effeithlon a chyn y gellir rhwystro eu lledaeniad. Yn y cyflwyniad hwn bydd Dr Perez Sierra yn disgrifio’r broses ddiagnosis a’r dechnoleg newydd sy’n cael ei defnyddio. Ar hyn o bryd rydyn ni’n wynebu nifer o fygythiadau o blâu ac afiechydon newydd sy’n cyrraedd o dramor. Mae Xylella fastidiosa yn bathogen bacteriol sydd ag ystod eang o letywyr ac sy’n achosi difrod helaeth yn Ewrop. Mae angen i ni fod yn ymwybodol o’r pathogen hwn a sut i’w atal. Felly, mae’r cyflwyniad yn astudio’r bygythiad hwn yn fanwl. Yn dilyn y cyflwyniad bydd sesiwn Holi ac Ateb fyw i gyfranogwyr y Gynhadledd roi eu cwestiynau i’r arbenigwyr diagnosis ac iechyd coed.

 

Dydd Mercher 21 Hydref 17.15 – 18.00: Rheoli Plâu yn Integredig a’u rheoli mewn modd amgylcheddol sensitif

Dr Nick Bean a Pat Bean - Perchnogion, Springfields Fresh Produce

Mae Nick a Pat Bean wedi bod yn tyfu llysiau a ffrwythau meddal yn llwyddiannus yn Sir Benfro ers blynyddoedd lawer, gan arwain y ffordd o ran datblygu busnes. Mae’r astudiaeth achos yn disgrifio eu gwaith gyda Phrosiect Arloesi Ewropeaidd, o dan arweiniad y Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol, a fydd yn gwella’r wybodaeth a’r profiad o reoli plâu mewn modd integredig i leihau’r defnydd o blaleiddiaid ac o wastraff.

 

Dydd Iau 22 Hydref 17.15 – 18.00: Canfod a rheoli plâu a chlefydau ar gyfer tyfwyr masnachol

David Talbot - Ymgynghorydd Garddwriaeth, Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol

Jude Bennison - Entomolegydd Gwasanaeth Datblygu a Chynghori Amaethyddol

Mae Bransford Webb yn un o brif dyfwyr planhigion addurnol yn y DU. Dyma astudiaeth achos wedi’i ffilmio o ddefnydd Bransford Webb o ddeunyddiau rheoli plâu biolegol. Mae’r ffilm yn cynnwys cyflwyniad i’r busnes yn amlinellu’r mathau o gnydau addurnol sy’n cael eu cynhyrchu a’r marchnadoedd sy’n cael eu cyflenwi. Yna mae’n disgrifio pam fod rheolyddion biolegol yn cael eu defnyddio ar gyfer plâu ac ers faint maen nhw wedi cael eu defnyddio. Wrth ddangos y feithrinfa, mae’r ffilm yn amlinellu pa blâu sy’n cael eu rheoli gan reolyddion biolegol sydd wedi cael eu cyflwyno ac sydd ar gael yn fasnachol, a sut mae ysglyfaethwr yn cael eu defnyddio i reoli poblogaethau o blâu yn rhagweithiol. Mae gwybodaeth bwysig ynglŷn â sut mae plâu yn cael eu rheoli a pham fod rheolyddion biolegol yn cael eu defnyddio, gan gynnwys y buddion y maen nhw’n eu rhoi i’r busnes, yn cael ei dangos a’i thrafod.

 

Dydd Gwener 23 Hydref 13.00 – 14.00: Cloi’r Gynhadledd

Crynodeb o Gynhadledd Iechyd Planhigion mewn Garddwriaeth 2020

Yr Athro David Skydmore - Arbenigwr Iechyd Planhigion

Bydd y cyflwyniad hwn yn crynhoi’r prif negeseuon sydd wedi deillio o gyflwyniadau a thrafodaethau’r Gynhadledd. Bydd yn amlinellu rhai o’r cyfyngiadau i’r diwydiant sydd wedi cael eu nodi yn ystod y Gynhadledd a beth allwn ni ei wneud amdanynt. Bydd yn gorffen drwy amlinellu’r cyfleoedd ar gyfer y sector garddwriaeth a’r opsiynau ar gyfer cynnydd yng Nghymru.

Tyfu Cymru a Garddwriaeth yng Nghymru

Sarah Gould - Rheolwr Prosiect, Tyfu Cymru

Bydd yr adran hon yn cau pen y mwdwl drwy ddisgrifio beth mae Tyfu Cymru yn gallu ei gynnig i’r diwydiant garddwriaeth. Bydd hefyd yn crynhoi sut y gallwn ni wneud y defnydd gorau o ganlyniadau’r Gynhadledd.

Dylech nodi y gall manylion y gynhadledd newid ar fyr rybudd.

 

Gwybodaeth Cofrestru

I gofrestru ar gyfer y gynhadledd, cliciwch y botwm Cofrestru Eventbrite uchod.  Llenwch y manylion gofynnol ac yna ddewis pa sesiynau yr hoffech eu mynychu.

Bydd dolenni i bob sesiwn rithiol yn cael eu hanfon i’ch cyfeiriad e-bost penodedig 24 awr cyn yr amser cychwyn.

Nodwch: bydd pawb sy’n bresennol yn cael ei gofrestru’n awtomatig ar gyfer sesiynau agor a chloi’r gynhadledd