chili.png

This event has passed

Ymunwch â rhwydwaith IPDM (Bwytadwy) Tyfu Cymru ar gyfer Ymweliad Astudio i Pembrokeshire Chilli Farm.

Wedi’i leoli yng nghanol cefn gwlad Sir Benfro, mae Pembrokeshire Chilli Farm wedi meithrin enw da am gynhyrchu amrywiaeth eang o sawsiau, jamiau a sbeisys a wneir o’u Tsilis Cymreig eu hunain.

Bydd Owen a Michelle, perchnogion a rheolwyr Pembrokeshire Chilli Farm, yn rhannu sut maen nhw’n defnyddio IPDM i reoli pwysau patholeg ac entomoleg o fewn eu cnwd i sicrhau cynnyrch o ansawdd uchel. Er y bydd yr ymweliad yn canolbwyntio ar Reoli Plâu a Chlefydau’n Integredig (IPDM), bydd Owen a Michelle hefyd yn rhannu eu taith i fod yn fusnes garddwriaeth arobryn. Mae Pembrokeshire Chili Farm yn cynhyrchu ystod eang o tsilis, yn cynnig 20 o wahanol gynhyrchion, ac mae ganddyn nhw 8,000 troedfedd sgwâr o dwneli poly.

Drwy’r rhaglen IPDM yn 2021, derbyniodd Owen a Michelle gyngor a chymorth technegol, gan eu helpu i symud ymlaen gyda’r defnydd o fioreolaethau i leihau pwysau plâu. Yn arbennig, fe gawson nhw lwyddiannau mawr o ran rheoli pryfed gleision a gwiddon corryn coch yn eu cnwd.

Byddwn wedyn yn ymweld â Fferm Springfields Nick a Pat Beans ym Maenorbŷr, lle cawn weld asbaragws, ceirios, llus a mefus – a’r cyfan o dan y cynllun IPDM. Yn 2021, cymerodd Nick a Pat ran ym mhrosiect EIP Rheoli Plâu a Chlefydau Integredig Cyswllt Ffermio.

Yn ymuno â ni hefyd fydd ymgynghorwyr ADAS, Chris Creed ac Elysia Bartel, sydd â chyfoeth o wybodaeth am y defnydd o fioreolaethau. Byddant yn rhannu awgrymiadau ar ba ysglyfaethwyr i’w cyflwyno a phryd, er mwyn atal a rheoli plâu allweddol mewn cnydau. Byddant hefyd yn cwmpasu cydnawsedd IPM ffwngladdwyr allweddol, bioddiogelwyr, a phryfladdwyr gyda rheolaethau biolegol.

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, darperir Cinio, ond darparwch eich cludiant eich hun.

Bydd mesurau diogelwch Covid ar waith. Anfonnir y manylion llawn at y rhai fydd yn bresennol ar ôl y cam cofrestru.