shutterstock_68381686.jpg

This event has passed

Rhaglen Hyfforddi Hadau Llysiau Canolradd 2022

Mae ein cwrs blwyddyn o hyd mewn Cynhyrchu Hadau Llysiau Canolradd wedi’i gynllunio i fynd â chi drwy wleidyddiaeth ac ymarferoldeb cynhyrchu hadau ar eich fferm. Byddwn yn edrych ar sut i amaethu, dethol a chynaeafu hadau, gan gynnwys sut i dyfu hadau i safon fasnachol i’w gwerthu. Byddwn yn edrych ar foeseg cynhyrchu hadau a hanes tyfu hadau yn y DU.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a Tyfu Cymru. Mae’r cwrs yn cynnwys gweminarau, grwpiau astudio ar-lein a thyfu annibynnol, ac mae wedi’i gynllunio i redeg drwy gydol y flwyddyn. Dylai cyfranogwyr fynychu pob un o’r 10 sesiwn, yn ogystal â thyfu eu cnwd hadau eu hunain ar eu fferm.

Bydd yr holl sesiynau’n cael eu hwyluso gan Gydlynydd Sofraniaeth Hadau Sefydliad Gaia yng Nghymru:katie@gaianet.org

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk neu katie@gaianet.org

Bydd y sesiwn cyntaf hwn yn edrych ar gefndir y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a’r bartneriaeth gyda Tyfu Cymru. Bydd yn edrych ar gyfleon mewn meysydd fel addasu’r fferm, cyfnewid hadau, gwerthu hadau, magu planhigion cyfranogol ac amrywiaeth enynnol.

Trosolwg:

  • Hanes Hadau
  • Tirwedd Wleidyddol Hadau
  • Arferion tyfu agroecolegol

Gweminarau / Adnoddau Cysylltiedig: 

https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/webinars-videos/vegetable-seed-training-programme-webinar-1-seed-sovereignty/
Sgwrs am Wleidyddiaeth Hadau gan Helene Schulze (Rhaglen Sofraniaeth Hadau)

Crynodeb 3 munud o Sofraniaeth Hadau a crynodeb 3 munud o golli amrywiaeth cnydau: