wildflowers.jpg

This event has passed

Mae ein cwrs blwyddyn o hyd mewn Cynhyrchu Hadau Llysiau Canolradd wedi’i gynllunio i fynd â chi drwy wleidyddiaeth ac ymarferoldeb cynhyrchu hadau ar eich fferm. Byddwn yn edrych ar sut i amaethu, dethol a chynaeafu hadau, gan gynnwys sut i dyfu hadau i safon fasnachol i’w gwerthu. Byddwn yn edrych ar foeseg cynhyrchu hadau a hanes tyfu hadau yn y DU.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a Tyfu Cymru. Mae’r cwrs yn cynnwys gweminarau, grwpiau astudio ar-lein a thyfu annibynnol, ac mae wedi’i gynllunio i redeg drwy gydol y flwyddyn. Dylai cyfranogwyr fynychu pob un o’r 10 sesiwn, yn ogystal â thyfu eu cnwd hadau eu hunain ar eu fferm.

Bydd yr holl sesiynau’n cael eu hwyluso gan Gydlynydd Sofraniaeth Hadau Sefydliad Gaia yng Nghymru:katie@gaianet.org

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk neu katie@gaianet.org

Trosolwg

  • Botaneg planhigion sylfaenol
  • Peillio: pryfed, gwynt, hunan
  • Strategaethau ynysu sylfaenol
  • Meintiau poblogaethau: mewnfridio ac allfridio
  • Blynyddol: trosolwg o ystyriaethau
  • Dwyflynyddol: trosolwg o ystyriaethau
  • Cylchdro
  • Gofynion gofod
  • Strwythurau cefnogi

 

Gweminarau / Adnoddau Cysylltiedig
https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/webinars-videos/vegetable-seed-training-programme-webinar-2-plant-reproduction/

https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/webinars-videos/vegetable-seed-training-programme-session-3/