Mae ein cwrs blwyddyn o hyd mewn Cynhyrchu Hadau Llysiau Canolradd wedi’i gynllunio i fynd â chi drwy wleidyddiaeth ac ymarferoldeb cynhyrchu hadau ar eich fferm. Byddwn yn edrych ar sut i amaethu, dethol a chynaeafu hadau, gan gynnwys sut i dyfu hadau i safon fasnachol i’w gwerthu. Byddwn yn edrych ar foeseg cynhyrchu hadau a hanes tyfu hadau yn y DU.
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg mewn partneriaeth rhwng y Rhaglen Sofraniaeth Hadau a Tyfu Cymru. Mae’r cwrs yn cynnwys gweminarau, grwpiau astudio ar-lein a thyfu annibynnol, ac mae wedi’i gynllunio i redeg drwy gydol y flwyddyn. Dylai cyfranogwyr fynychu pob un o’r 10 sesiwn, yn ogystal â thyfu eu cnwd hadau eu hunain ar eu fferm.Bydd yr holl sesiynau’n cael eu hwyluso gan Gydlynydd Sofraniaeth Hadau Sefydliad Gaia yng Nghymru:katie@gaianet.org
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â ni yn tyfucymru@lantra.co.uk neu katie@gaianet.org
Trosolwg
- Botaneg planhigion sylfaenol
- Peillio: pryfed, gwynt, hunan
- Strategaethau ynysu sylfaenol
- Meintiau poblogaethau: mewnfridio ac allfridio
- Blynyddol: trosolwg o ystyriaethau
- Dwyflynyddol: trosolwg o ystyriaethau
- Cylchdro
- Gofynion gofod
- Strwythurau cefnogi
Gweminarau / Adnoddau Cysylltiedig
https://www.tyfucymru.co.uk/home/knowledge-hub/webinars-videos/vegetable-seed-training-programme-webinar-2-plant-reproduction/
Rhaglen Hyfforddi Hadau Llysiau Canolradd 2022 - Atgynhyrchu a Chynllunio Planhigion
Dydd Iau 12 Mai 4pm - 5pm | Zoom Webinar
