strawberries-701677_1280 (1).jpg

This event has passed

Mae’r weminar hon ar gyfer tyfwyr sefydledig sy’n rhan o Rwydwaith Ffrwythau Meddal Tyfu Cymru neu sydd eisiau ymuno â’r rhwydwaith.

Bydd Chris Creed (Uwch Ymgynghorydd Garddwriaethol, ADAS) yn cyflwyno’r weminar a fydd yn ymdrin â’r canlynol:

  • Strategaethau cynnar ar gyfer plâu ac afiechydon a’u hadnabod, wrth i gnydau a phlâu ddeffro.
  • Mewn is-haenau neu systemau hydroponig, mae’n rhaid dechrau porthi nawr, felly mae’n bryd gwirio'r systemau a lefelau porthiant.
  • Ym maes ffrwythau meddal, mae lefelau porthiant yn cael eu monitro yn ôl dargludedd neu lefelau maethynnau mewn porthiant a bydd esboniad o hyn.
  • Yn ogystal, bydd y gwaith o raglennu mefus a mafon yn cael ei drafod ar gyfer cyflenwadau o fis Mehefin i fis Hydref.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn, cliciwch yma

Os hoffech chi ymuno â’r rhwydwaith hwn, cysylltwch â tyfucymru@lantra.co.uk