Chris Creed

Uwch Ymgynghorydd Garddwriaethol ADAS

Ar ôl gorffen ysgol a gweithio ar nifer o erddi marchnad, mynychodd Chris Goleg Garddwriaeth Pershore ac ymunodd ag ADAS yn 1974. Ar ôl cwblhau ei astudiaethau, symudodd i fyny i orsaf arddwriaethol arbrofol Stockbridge House yn Swydd Efrog. Yno, roedd yng ngofal yr adrannau ffrwythau meddal a rhiwbob gan gynnal treialon ar yr un pryd â chefnogi’r adran lysiau, yn arbennig nionod, brocoli a bylbiau narsisws di-feirws.

 

Yn 1984, symudodd Chris i Swydd Gaer ac yn fuan wedyn, dechreuodd gynnig cyngor garddwriaethol yng ngogledd Cymru.  Gan arbenigo mewn ffrwythau meddal, gweithiodd gyda’r diwydiant ‘hel-eich-hun’ (PYO) a’r maes manwerthu fferm yn ogystal â chynhyrchu ar gyfer archfarchnadoedd ledled gogledd-orllewin Lloegr a Chymru. Mae Chris wedi cefnogi sawl prosiect yn cynnwys Cyswllt Ffermio, Garddwriaeth Cymru, CALU ac yn fwyaf diweddar, Tyfu Cymru. Mae hefyd wedi helpu i sefydlu tîm llysiau newydd yn ADAS i hwyluso treialon ar ffermydd llysiau ar raddfa fawr ar gyfer prosiectau SCEPTRE AHDB.