fir-tree-3875734_960_720.jpg

Mae Rhwydwaith Coed Nadolig Tyfu Cymru yn falch iawn o fod yn dychwelyd i fferm Hans a Julie Alexandersen ar gyfer ymweliad astudio, ar ôl cais gan sawl tyfwr. Fe’i sefydlwyd gan Hans Alexandersen, Cadeirydd Cymdeithas Tyfwyr Coed Nadolig Prydain a thyfwr angerddol gyda dros 27 mlynedd o brofiad. Mae’r Fferm wedi’i lleoli i'r de o Guildford ac yn agos at sawl cytref mawr a chanolig arall yn Surrey/Gorllewin Sussex cefnog. Cynhyrchir coed ar ystod eang o fathau o bridd o dywod sy'n dueddol o erydu a chlai trwm/priddglai. Mae rhai o'r safleoedd a ddefnyddir ar gyfer cynhyrchu coed hefyd yn dueddol o gael rhew yn y gwanwyn.

Bydd yr ymweliad Astudio yn cynnwys ymweliadau â nifer o blanhigfeydd coed Nadolig y fferm i edrych ar a thrafod:

Problemau plâu a chlefydau sy'n effeithio ar gynhyrchu coed yn Fferm Goed Santa Fir a lle bo hynny'n berthnasol, rheolaethau posibl y gellir eu defnyddio

• Ffactorau sy'n effeithio ar addasrwydd caeau ar gyfer cynhyrchu ffynidwydd Nordman
• Rheoli chwyn cyn, wrth blannu ac yn ystod blynyddoedd sefydlu’r coed
• Bygythiadau posibl i gynhyrchu coed Nadolig ar y safle hwn ac mewn mannau eraill yn y DU
• Potensial tocio ffynidwydd Nordman ar gyfer siapio coed a rheoli egni

I gael rhagor o wybodaeth am goed Nadolig Santa Fir, ewch i’w gwefan https://www.hanschristmasandersen.co.uk/christmas-trees/

Ariennir yr ymweliad astudio hwn gan Tyfu Cymru, a darperir cinio.

I fynegi diddordeb mewn mynychu'r ymweliad astudio, anfonwch e-bost at tyfucymru@lantra.co.uk