excel.PNG

This event has passed

Caiff y sesiwn hon ei harwain gan Stuart Hooper o HTACS Cyfyngedig.

Yn y byd cyflym sydd ohoni, oes gennych chi fwy i’w wneud mewn llai o amser? Bydd defnyddio tablau pifod yn eich gwneud chi’n fwy effeithlon o lawer ac yn gwella eich sgiliau dadansoddi. Dysgwch sut mae gwneud synnwyr o’r holl rifau’n gyflym a chanfod sut gall un o offer mwyaf pwerus Microsoft Excel – ond yr un a ddefnyddir leiaf – droi data’n adroddiadau pendant ac yn ddadansoddiadau syml.

Yn ystod y sesiwn 90 munud hon, byddwn yn edrych ar hanfodion dylunio a defnyddio tablau Pifod, er mwyn dadansoddi eich data. Byddwn yn edrych ar daenlenni sy’n llawn data tebyg i’ch rhai chi, ac yn dangos i chi sut mae defnyddio’r adnodd hwn a’i nodweddion ategol i’ch helpu i reoli eich busnes.